Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 168 (v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 07/11/2023 - Y Cyfarfod Llawn
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd
arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.35 |
|
(0 munud) |
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Diwygio Bysiau - i'w gyflwyno fel Datganiad Ysgrifenedig Cofnodion: I'w gyflwyno fel Datganiad Ysgrifenedig |
|
(0 munud) |
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Diweddariad ar y Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia - Gohiriwyd Cofnodion: Gohiriwyd yr eitem hon |
|
(30 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Cymorth i Aros Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.41 |
|
(30 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip: Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol: Adroddiad Blynyddol 2022-23 Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.01 |
|
(30 munud) |
Datganiad gan Weinidog yr Economi: Parthau Buddsoddi Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.49 |
|
(0 munud) |
Datganiad gan Weinidog yr Economi: Cydnabod y cyfraniad y mae digwyddiadau yn ei wneud i Gymru - Gohiriwyd Cofnodion: Gohiriwyd yr eitem hon |
|
(30 munud) |
Datganiad gan Weinidog yr Economi: Tata Steel Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.27 |
|
Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
||
(60 munud) |
Dadl: Coffa NNDM8393 Lesley
Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod pwysigrwydd parhaus cyfnod y Cofio i
deuluoedd a chymunedau yng Nghymru. 2. Yn talu teyrnged i wasanaeth ac aberth unigolion o bob
rhan o Gymru sydd yn gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn ein lluoedd
arfog. 3. Yn cydnabod gwaith diflino sefydliadau, unigolion a
gwirfoddolwyr sy'n cefnogi cymuned a chyn-aelodau’r lluoedd arfog ledled Cymru. Cyd-gyflwynwyr Darren Millar
(Gorllewin Clwyd) Heledd Fychan
(Canol De Cymru) Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn: Gwelliant 1 Heledd
Fychan (Canol De Cymru) Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cefnogi'r angen i ymdrechu am ddatrysiadau heddychlon
i bob gwrthdaro ac am ddiwedd ar ryfel. Yn cofio pawb sydd wedi colli eu bywydau mewn rhyfeloedd
a gwrthdaro, gan gynnwys cwympiedigion sifil. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 17.17 NNDM8393 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod y Senedd: 1.
Yn cydnabod pwysigrwydd parhaus cyfnod y Cofio i deuluoedd
a chymunedau yng Nghymru. 2.
Yn talu teyrnged i wasanaeth ac aberth unigolion o bob rhan o Gymru sydd
yn gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu
yn ein lluoedd
arfog. 3.
Yn cydnabod gwaith diflino sefydliadau, unigolion a gwirfoddolwyr sy'n cefnogi cymuned
a chyn-aelodau’r lluoedd arfog ledled Cymru. Cyd-gyflwynwyr Darren Millar (Gorllewin
Clwyd) Heledd Fychan (Canol De Cymru) Cyflwynwyd
y gwelliant a ganlyn: Gwelliant 1 Heledd Fychan (Canol De Cymru) Ychwanegu
pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cefnogi'r angen i ymdrechu
am ddatrysiadau heddychlon i bob gwrthdaro ac am ddiwedd ar ryfel. Yn cofio pawb sydd wedi
colli eu bywydau mewn rhyfeloedd
a gwrthdaro, gan gynnwys cwympiedigion sifil. Derbyniwyd Gwelliant
1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. NNDM8393 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod y Senedd: 1.
Yn cydnabod pwysigrwydd parhaus cyfnod y Cofio i deuluoedd
a chymunedau yng Nghymru. 2.
Yn talu teyrnged i wasanaeth ac aberth unigolion o bob rhan o Gymru sydd
yn gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu
yn ein lluoedd
arfog. 3.
Yn cydnabod gwaith diflino sefydliadau, unigolion a gwirfoddolwyr sy'n cefnogi cymuned
a chyn-aelodau’r lluoedd arfog ledled Cymru. 4. Yn cefnogi'r angen i ymdrechu
am ddatrysiadau heddychlon i bob gwrthdaro ac am ddiwedd ar ryfel. 5. Yn cofio pawb sydd wedi
colli eu bywydau mewn rhyfeloedd
a gwrthdaro, gan gynnwys cwympiedigion sifil. Cyd-gyflwynwyr Darren Millar (Gorllewin
Clwyd) Heledd Fychan (Canol De Cymru) Derbyniwyd y Cynnig
wedi’i ddiwygio yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36 |
|
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Nid oedd cyfnod pleidleisio. |