Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 146(v3) 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 20/06/2023 - Y Cyfarfod Llawn

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

(30 munud)

2.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.35

 

(30 munud)

3.

Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd- Y Rhaglen Cartrefi Clyd

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.48

(30 munud)

4.

Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Sefydlu’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.29       

(30 munud)

5.

Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Mesurau cenedlaethol i gryfhau gofal cymdeithasol

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.56

(0 munud)

6.

Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Sicrhau mwy o fanteision i fyd natur, yr amgylchedd a chymunedau drwy systemau draenio cynaliadwy – cyhoeddi adolygiad Llywodraeth Cymru a ffordd ymlaen - GOHIRIWYD

Cofnodion:

Gohiriwyd yr eitem hon

(30 munud)

7.

Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Lansio 111 dewis 2 ar gyfer iechyd meddwl brys

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.35

(30 munud)

8.

Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Diwrnod y Lluoedd Arfog

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.08

(15 munud)

9.

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol

NDM8297 Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Tachwedd 2022, 3 Ionawr 2023 a 9 Mawrth 2023 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Y Bil Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol - Senedd y DU (Saesneg yn unig)

Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Memorandwm a Memorandwm Rhif 2)
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Memorandwm Rhif 3)
Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig (Memorandwm a Memorandwm Rhif 2)
Llythyr gan Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig at y Pwyllgor Busnes

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.48

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM8297 Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Tachwedd 20223 Ionawr 2023 a 9 Mawrth 2023 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Y Bil Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol - Senedd y DU (Saesneg yn unig)

Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Memorandwm a Memorandwm Rhif 2)
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Memorandwm Rhif 3)
Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig (Memorandwm a Memorandwm Rhif 2)

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

43

0

10

53

Derbyniwyd y cynnig.

 

(15 munud)

10.

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Mudo Anghyfreithlon

NDM8296 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Mudo Anghyfreithlon i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 31 Mawrth 2023 a 26 Mai 2023, yn y drefn honno, yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Gellir gweld copi o’r Bil ar wefan Senedd y DU:

Bil Mudo Anghyfreithlon  - Senedd y DU (Saesneg yn unig)

Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol
Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.54

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM8296 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Mudo Anghyfreithlon i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 31 Mawrth 2023 a 26 Mai 2023, yn y drefn honno, yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Gellir gweld copi o’r Bil ar wefan Senedd y DU:

Bil Mudo Anghyfreithlon  - Senedd y DU (Saesneg yn unig)

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

15

0

38

53

Gwrthodwyd y cynnig.

 

(30 munud)

11.

Cyfnod Adrodd y Bil Amaethyddiaeth (Cymru)

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, caiff y gwelliannau eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn ymddangos yn y Bil.

Dogfennau Ategol
Bil Amaethyddiaeth (Cymru), fel y’i diwygiwyd yng Nghyfnod 3
Memorandwm Esboniadol Diwygiedig, yn dilyn Cyfnod 3
Hysbysiad ynghylch Gwelliannau

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.32

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, caiff y gwelliannau eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn ymddangos yn y Bil.

Dogfennau Ategol
Bil Amaethyddiaeth (Cymru), fel y’i diwygiwyd yng Nghyfnod 3
Memorandwm Esboniadol Diwygiedig, yn dilyn Cyfnod 3
Hysbysiad ynghylch Gwelliannau

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

38

0

15

53

Derbyniwyd y gwelliant.

Barnwyd bod holl adrannau ac atodlenni’r Bil wedi’u derbyn, gan ddod â thrafodion y Cyfnod Adrodd i ben.

 

12.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.46

 

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol: