Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd

Amseriad disgwyliedig: 145 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 14/06/2023 - Y Cyfarfod Llawn

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

Datganiad gan y Llywydd

Am 13.30, cyhoeddodd y Llywydd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.75, bod Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 wedi cael Cydsyniad Brenhinol ar 14 Mehefin 2023.

(45 munud)

1.

Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

(45 munud)

2.

Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.16

Gofynnwyd cwestiynau 1-10 a 12. Ni ofynnwyd cwestiwn 11. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

(20 munud)

3.

Cwestiynau Amserol

Gofyn i Weinidog yr Economi

Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad mewn ymateb i'r cyhoeddiad bod cwmni parseli Tuffnells wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr?

Luke Fletcher (Gorllewin De Cymru): Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella canlyniadau economaidd yng Nghymru, yn dilyn cyhoeddi ystadegau ONS mis Mehefin sy'n dangos patrwm o ddirywiad yng nghyfraddau cyflogaeth a gweithgarwch economaidd Cymru?

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.59

Atebwyd gan Weinidog yr Economi

Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad mewn ymateb i'r cyhoeddiad bod cwmni parseli Tuffnells wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr?

Luke Fletcher (Gorllewin De Cymru): Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella canlyniadau economaidd yng Nghymru, yn dilyn cyhoeddi ystadegau ONS mis Mehefin sy'n dangos patrwm o ddirywiad yng nghyfraddau cyflogaeth a gweithgarwch economaidd Cymru?

Am 15.17, cododd Darren Millar Bwynt o Drefn mewn cysylltiad â honiadau y gallai’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, drwy amryfusedd, fod wedi camarwain y Senedd yn ystod ei chyfraniad i ddadl ar arferion cyfrifo ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar 7 Mehefin. Gwahoddodd y Llywydd y Gweinidog i ymateb i’r pwyntiau a godwyd. Ymatebodd y Gweinidog a cheisio egluro ei sylwadau blaenorol.

(5 munud)

4.

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.20

Gwnaeth Jack Sargeant ddatganiad am - A Grand Week in Wales (19-25 Mehefin). Digwyddiad i helpu elusennau allweddol sy’n cefnogi’r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau ledled Cymru ac i ddod â phobl at ei gilydd trwy ddigwyddiadau codi arian, i frwydro yn erbyn unigedd a lledaenu positifrwydd mewn cyfnod pan rydym ei angen fwyaf.

Gwnaeth Siân Gwenllian ddatganiad am – Y Dywysoges Gwenllian a Gŵyl Gwenllian (10 Mehefin), penwythnos o ddigwyddiadau i ddathlu menywod y Carneddau.

Gwnaeth James Evans ddatganiad am - Wythnos Iechyd Dynion (12-18 Mehefin). Mae'r ffocws eleni ar agor sgyrsiau am iechyd, darganfod pa gefnogaeth sydd ar gael yn lleol a lleihau'r ystadegau iechyd gwael ar gyfer dynion yn gyffredinol.

(60 munud)

5.

Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Ymgyrch Warm this Winter

NDM8275 Hefin David (Caerffili)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig yn wynebu argyfyngau lluosog, sef yr argyfwng costau byw, yr argyfwng ynni, a'r argyfyngau hinsawdd a natur, a bod ymgyrch Warm This Winter yn cydnabod bod yr argyfyngau hyn yn gysylltiedig ac wedi'u hymblethu, a bod yr un ffactorau wedi'u hachosi a'r un atebion sydd iddynt.

2. Yn nodi bod ymgyrch Warm This Winter yng Nghymru yn galw am gymorth brys i'r rhai mwyaf bregus.

3. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno buddsoddiad i gefnogi aelwydydd bregus y gaeaf diwethaf, ei bod wedi cyhoeddi cwmni ynni cyhoeddus newydd i Gymru, a chynlluniau effeithlonrwydd ynni ychwanegol ar gyfer ein cartrefi, ond bod angen gwneud mwy.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio i weithredu atebion ar gyfer llwybr gwirioneddol allan o'r argyfwng costau byw, drwy gydnabod bod camau allweddol i fynd i'r afael â diogelwch ynni a'r argyfwng hinsawdd - fel cynnydd mawr mewn effeithlonrwydd ynni a chyflwyno ynni cymunedol ledled Cymru. 

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i godi pryderon gyda Llywodraeth y DU am gost ynni, a'r angen i sicrhau bod cynlluniau cymorth y DU ar waith i sicrhau bod pobl yn gynnes y gaeaf hwn, a phob gaeaf i ddod.  

Cyd-gyflwynwyr

Jane Dodds (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

Cefnogwyr

Alun Davies (Blaenau Gwent)

Carolyn Thomas (Gogledd Cymru)

Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru)

Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Huw Irranca-Davies (Ogwr)

Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)

John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)

Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)

Rhianon Passmore (Islwyn)

Rhys ab Owen (Canol De Cymru)

Sioned Williams (Gorllewin De Cymru)

Vikki Howells (Cwm Cynon)

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.24

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

6.

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg – Cymorth Iechyd Meddwl mewn Addysg Uwch

NDM8292 Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, sef 'Cymorth Iechyd Meddwl mewn Addysg Uwch' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Mawrth 2023.

Sylwch: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Mehefin 2023.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.34

NDM8292 Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, sef 'Cymorth Iechyd Meddwl mewn Addysg Uwch' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Mawrth 2023.

Sylwch: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Mehefin 2023.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

7.

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Anghenion dysgu ychwanegol

NDM8294 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) bod nifer y plant a phobl ifanc sy'n derbyn cymorth anghenion dysgu ychwanegol (ADY) wedi gostwng ers cyflwyno diwygiadau anghenion dysgu ychwanegol y llynedd;

b) bod oedi a heriau wrth gyflwyno diwygiadau ADY yn achosi loteri cod post mewn mynediad at gymorth ADY i ddysgwyr ledled Cymru; ac

c) bod ymchwil gan Gymdeithas Genedlaethol Prifathrawon Cymru wedi canfod bod 94 y cant o arweinwyr ysgolion yn dweud nad yw cyllid i ymdrin â phob agwedd ar ddeddfwriaeth ADY newydd yn ddigonol.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cynnal adolygiad brys o weithredu diwygiadau ADY;

b) cymryd camau brys i sicrhau bod plant ag ADY yn cael eu hadnabod a'u bod yn cael mynediad at gymorth yn gynt; ac

c) darparu cymorth ariannol ychwanegol yn uniongyrchol i ysgolion Cymru i sicrhau bod dysgwyr ag ADY yn gallu cael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt. 

'Methiant i Fuddsoddi: Cyflwr cyllido ysgolion Cymru yn 2021' - NAHT Cymru

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn nodi bod

Estyn wedi canfod bod cynnydd cyson tuag at roi’r diwygiadau ADY ar waith a bod y newidiadau yn cael eu croesawu'n gyffredinol.

ymchwil yn canfod bod y Cwricwlwm i Gymru a’r cod ADY yn hyrwyddo ffocws ar degwch a chynwysoldeb i bob dysgwr.

cyfnod gweithredu’r diwygiadau ADY wedi'i ymestyn er mwyn sicrhau bod teuluoedd yn cael y cymorth gorau posibl, a’r cyllid gweithredu wedi cynyddu er mwyn helpu i gynllunio ar gyfer diwallu anghenion dysgwyr unigol.

Diwygio anghenion dysgu ychwanegol - Estyn

Ymchwil gydag ysgolion ar weithrediad cynnar y Cwricwlwm i Gymru: Adroddiad Cam 1

Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Gwelliant 2 Sian Gwenllian (Arfon)

Mewnosoder ar ddiwedd is-bwynt 1(b):

gyda phrinder penodol o ddarpariaeth Gymraeg.

Gwelliant 3 Sian Gwenllian (Arfon)

Mewnosod fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:

cymryd camau ar unwaith i leddfu pryderon gan ddarparwyr cyfrwng Cymraeg ynghylch argaeledd adnoddau Cymraeg i gefnogi gwaith ADY, a sicrhau bod yr holl adnoddau'n cael eu cyhoeddi'n ddwyieithog

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.28

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM8294 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) bod nifer y plant a phobl ifanc sy'n derbyn cymorth anghenion dysgu ychwanegol (ADY) wedi gostwng ers cyflwyno diwygiadau anghenion dysgu ychwanegol y llynedd;

b) bod oedi a heriau wrth gyflwyno diwygiadau ADY yn achosi loteri cod post mewn mynediad at gymorth ADY i ddysgwyr ledled Cymru; ac

c) bod ymchwil gan Gymdeithas Genedlaethol Prifathrawon Cymru wedi canfod bod 94 y cant o arweinwyr ysgolion yn dweud nad yw cyllid i ymdrin â phob agwedd ar ddeddfwriaeth ADY newydd yn ddigonol.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cynnal adolygiad brys o weithredu diwygiadau ADY;

b) cymryd camau brys i sicrhau bod plant ag ADY yn cael eu hadnabod a'u bod yn cael mynediad at gymorth yn gynt; ac

c) darparu cymorth ariannol ychwanegol yn uniongyrchol i ysgolion Cymru i sicrhau bod dysgwyr ag ADY yn gallu cael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt. 

'Methiant i Fuddsoddi: Cyflwr cyllido ysgolion Cymru yn 2021' - NAHT Cymru

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

15

0

34

49

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn nodi bod

Estyn wedi canfod bod cynnydd cyson tuag at roi’r diwygiadau ADY ar waith a bod y newidiadau yn cael eu croesawu'n gyffredinol.

ymchwil yn canfod bod y Cwricwlwm i Gymru a’r cod ADY yn hyrwyddo ffocws ar degwch a chynwysoldeb i bob dysgwr.

cyfnod gweithredu’r diwygiadau ADY wedi'i ymestyn er mwyn sicrhau bod teuluoedd yn cael y cymorth gorau posibl, a’r cyllid gweithredu wedi cynyddu er mwyn helpu i gynllunio ar gyfer diwallu anghenion dysgwyr unigol.

Diwygio anghenion dysgu ychwanegol - Estyn

Ymchwil gydag ysgolion ar weithrediad cynnar y Cwricwlwm i Gymru: Adroddiad Cam 1

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

23

49

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gan fod gwelliant 1 wedi ei dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Gwelliant 3 Sian Gwenllian (Arfon)

Mewnosod fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:

cymryd camau ar unwaith i leddfu pryderon gan ddarparwyr cyfrwng Cymraeg ynghylch argaeledd adnoddau Cymraeg i gefnogi gwaith ADY, a sicrhau bod yr holl adnoddau'n cael eu cyhoeddi'n ddwyieithog

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

49

0

0

49

Derbyniwyd gwelliant 3.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

NDM8294 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod:

a) Estyn wedi canfod bod cynnydd cyson tuag at roi’r diwygiadau ADY ar waith a bod y newidiadau yn cael eu croesawu'n gyffredinol.

b) ymchwil yn canfod bod y Cwricwlwm i Gymru a’r cod ADY yn hyrwyddo ffocws ar degwch a chynwysoldeb i bob dysgwr.

c) cyfnod gweithredu’r diwygiadau ADY wedi'i ymestyn er mwyn sicrhau bod teuluoedd yn cael y cymorth gorau posibl, a’r cyllid gweithredu wedi cynyddu er mwyn helpu i gynllunio ar gyfer diwallu anghenion dysgwyr unigol.

Diwygio anghenion dysgu ychwanegol - Estyn

Ymchwil gydag ysgolion ar weithrediad cynnar y Cwricwlwm i Gymru: Adroddiad Cam 1

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cynnal adolygiad brys o weithredu diwygiadau ADY;

b) cymryd camau brys i sicrhau bod plant ag ADY yn cael eu hadnabod a'u bod yn cael mynediad at gymorth yn gynt; ac

c) darparu cymorth ariannol ychwanegol yn uniongyrchol i ysgolion Cymru i sicrhau bod dysgwyr ag ADY yn gallu cael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt. 

'Methiant i Fuddsoddi: Cyflwr cyllido ysgolion Cymru yn 2021' - NAHT Cymru

d) cymryd camau ar unwaith i leddfu pryderon gan ddarparwyr cyfrwng Cymraeg ynghylch argaeledd adnoddau Cymraeg i gefnogi gwaith ADY, a sicrhau bod yr holl adnoddau'n cael eu cyhoeddi'n ddwyieithog.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

49

0

0

49

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

8.

Cyfnod Pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.25

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol:

(30 munud)

9.

Dadl Fer

NDM8289 Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru)

Anghydraddoldebau canser yng Nghymru

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.29

NDM8289 Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru)

Anghydraddoldebau canser yng Nghymru