Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd

Amseriad disgwyliedig: 144(v4) 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 13/06/2023 - Y Cyfarfod Llawn

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

Datganiad gan y Llywydd

Am 13.30, cyhoeddodd y Llywydd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.75, bod Bil Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023 wedi cael Cydsyniad Brenhinol ar 6 Mehefin 2023.

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd cwestiynau 1-5 a 8-10. Tynnwyd cwestiynau 6 a 7 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

 

(30 munud)

2.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.30

 

(30 munud)

3.

Datganiad gan y Prif Weinidog: Codi Proffil Rhyngwladol Cymru – diweddariad ar weithgarwch cysylltiadau rhyngwladol Llywodraeth Cymru

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.40

 

(60 munud)

4.

Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Y Bil Seilwaith (Cymru)

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.30

 

(30 munud)

5.

Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Datganiad Ansawdd ar gyfer Diabetes

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.08

 

(30 munud)

6.

Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip: Wythnos Ffoaduriaid, 19-25 Mehefin – Tosturi

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.43

 

(15 munud)

7.

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Gwarchodaeth rhag Aflonyddu ar sail Rhyw yn Gyhoeddus

NDM8290 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Gwarchodaeth rhag Aflonyddu ar sail Rhyw yn Gyhoeddus, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru.

Troednodyn:

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Ebrill 2023 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Gellir cael copi o’r Bil ar wefan Senedd y DU (Saesneg yn unig):

https://bills.parliament.uk/bills/3196

Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.24

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM8290 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Gwarchodaeth rhag Aflonyddu ar sail Rhyw yn Gyhoeddus, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru.

Troednodyn:

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Ebrill 2023 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Gellir cael copi o’r Bil ar wefan Senedd y DU (Saesneg yn unig):

https://bills.parliament.uk/bills/3196

Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

41

0

11

52

Derbyniwyd y cynnig.

(5 munud)

8.

Cynnig i amrywio'r drefn ystyried ar gyfer gwelliannau Cyfnod Adrodd y Bil Amaethyddiaeth (Cymru)

NDM8288 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36: Yn cytuno i waredu’r adrannau a’r atodlenni i’r Bil Amaethyddiaeth (Cymru) yn y Cyfnod Adrodd yn y drefn ganlynol:

a) Adrannau 1-34;

b) Atodlen 1;

c) Adran 35;

d) Adrannau 37-44;

e) Adran 36;

f) Adrannau 46-48;

g) Adran 45;

h) Adrannau 49-55;

i) Atodlen 2;

j) Atodlen 3;

k) Adrannau 56-57;

l) Teitl hir.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.46

NDM8288 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36: Yn cytuno i waredu’r adrannau a’r atodlenni i’r Bil Amaethyddiaeth (Cymru) yn y Cyfnod Adrodd yn y drefn a ganlyn:

a) Adrannau 1-34;

b) Atodlen 1;

c) Adran 35;

d) Adrannau 37-44;

e) Adran 36;

f) Adrannau 46-48;

g) Adran 45;

h) Adrannau 49-55;

i) Atodlen 2;

j) Atodlen 3;

k) Adrannau 56-57;

l) Teitl hir.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

9.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.47

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol: