Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Amseriad disgwyliedig: 137
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 10/05/2023 - Y Cyfarfod Llawn
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y
Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Bydd y Llywydd yn galw ar
Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn
2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
y 10 cwestiwn. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r
Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd Bydd y Llywydd yn galw ar
Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn
2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.21 Gofynnwyd
y 9 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau
i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Gofyn
i Weinidog yr Economi Alun
Davies (Blaenau Gwent): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol
Tillery Valley Foods? Gofyn
i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Darren
Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y cyhoeddiad
bod y crwner yn ymchwilio ymhellach i farwolaeth pedwar claf fasgwlar yn Ysbyty
Glan Clwyd? Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.02 Atebwyd
gan Weinidog yr Economi Alun Davies (Blaenau
Gwent):
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol Tillery Valley Foods? Atebwyd
gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Darren Millar
(Gorllewin Clwyd):
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y cyhoeddiad bod y crwner yn ymchwilio
ymhellach i farwolaeth pedwar claf fasgwlar yn Ysbyty Glan Clwyd? |
|||||||||||||||||||||||||
(0 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Nid oedd Datganiadau 90 Eiliad |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Anymataliaeth NDM8252 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi: a) bod anymataliaeth
yn parhau i fod yn bwnc tabŵ i fenywod a dynion er ei fod yn fater
iechyd cyhoeddus sylweddol; b) bod dros 90 y
cant o famau tro cyntaf yn profi trawma perineol yn ystod genedigaeth sy'n
gallu arwain at broblemau anymataliaeth; c) nad yw 75 y cant o
fenywod yn gofyn am gymorth meddygol ar gyfer eu hanymataliaeth er ei bod yn
effeithio ar ansawdd eu bywyd waeth pa mor ddifrifol ydyw; d) bod dynion yn
dioddef o anymataliaeth hefyd, yn arbennig yn ddiweddarach mewn bywyd ond
mae'n broblem gudd i raddau helaeth. 2. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth ar gyfer mynd i'r afael ag achosion a
chanlyniadau anymataliaeth ac i godi ymwybyddiaeth o'r mater ymhlith y cyhoedd. Cyd-gyflwynwyr Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin
Cymru) Altaf Hussain (Gorllewin De Cymru) Sioned Williams (Gorllewin De Cymru) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.19 NDM8252 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd) Cynnig
bod y Senedd: 1.
Yn nodi: a)
bod anymataliaeth yn parhau i fod yn bwnc tabŵ i fenywod a dynion er ei
fod yn fater iechyd cyhoeddus sylweddol; b) bod
dros 90 y cant o famau tro cyntaf yn profi trawma perineol yn ystod genedigaeth
sy'n gallu arwain at broblemau anymataliaeth; c)
nad yw 75 y cant o fenywod yn gofyn am gymorth meddygol ar gyfer eu hanymataliaeth
er ei bod yn effeithio ar ansawdd eu bywyd waeth pa mor ddifrifol ydyw; d)
bod dynion yn dioddef o anymataliaeth hefyd, yn arbennig yn
ddiweddarach mewn bywyd ond mae'n broblem gudd i raddau helaeth. 2.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth ar gyfer mynd i'r afael ag
achosion a chanlyniadau anymataliaeth ac i godi ymwybyddiaeth o'r mater ymhlith
y cyhoedd. Cyd-gyflwynwyr Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Altaf Hussain (Gorllewin De Cymru) Sioned Williams (Gorllewin De Cymru) Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, a Seilwaith - Adroddiad blynyddol ar Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru – 2022-23 NDM8258 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru) Cynnig bod y Senedd: Yn
nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, a Seilwaith:
‘Adroddiad blynyddol ar Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru – 2022-23’ a osodwyd ar 2
Mawrth 2023. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.06 NDM8258 Llyr Gruffydd (Gogledd
Cymru) Cynnig
bod y Senedd: Yn
nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, a Seilwaith:
‘Adroddiad blynyddol ar Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru – 2022-23’
a osodwyd ar
2 Mawrth 2023. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau - O Bump i Bedwar? P-06-1247 Cefnogi treialon wythnos waith pedwar diwrnod yng Nghymru NDM8257 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Deisebau, ‘O Bump i Bedwar? P-06-1247 Cefnogi treialon wythnos waith
pedwar diwrnod yng Nghymru’, a osodwyd yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 24 Ionawr 2023. Noder: Gosodwyd
ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Mawrth 2023. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.41 NDM8257 Jack Sargeant (Alun a
Glannau Dyfrdwy) Cynnig
bod y Senedd: Yn
nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau, ‘O Bump i Bedwar? P-06-1247 Cefnogi
treialon wythnos waith pedwar diwrnod yng Nghymru’, a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Ionawr 2023. Noder: Gosodwyd ymateb
Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Mawrth 2023. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Twristiaeth NDM8259 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi bod 15 – 23
Mai yn Wythnos Twristiaeth Cymru 2023. 2. Yn cydnabod y cyfraniad
hanfodol a wneir i gymdeithas Cymru gan y sector twristiaeth. 3. Yn gresynu nad yw'r
diwydiant twristiaeth wedi gwella o hyd i'r lefelau yr oedd cyn y pandemig. 4. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i: a) dathlu cryfder
Cymru fel cyrchfan o'r radd flaenaf ar gyfer twristiaid; b) annog mwynderau a
chyfleusterau twristiaeth i gael eu darparu a'u gwella yng Nghymru; c) cefnogi darparwyr
llety hunanddarpar drwy ddiddymu'r trothwy deiliadaeth 182 diwrnod; d)
rhoi'r gorau i gynigion niweidiol ar gyfer treth dwristiaeth yng Nghymru. Cyflwynwyd y gwelliant
a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu popeth ar ôl 4b
a rhoi yn ei le bwyntiau newydd: Yn cefnogi diffiniad
Sefydliad Twristiaeth y Byd y Cenhedloedd Unedig o ddatblygiad twristiaeth
gynaliadwy. Yn nodi Gorchymyn
Ardrethu Annomestig (Diwygio’r Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022 a
basiwyd gan y Senedd ym mis Gorffennaf, a gyflwynwyd fel rhan o ymrwymiad
ehangach i fynd i’r afael â materion ail gartrefi a thai anfforddiadwy y mae
llawer o gymunedau yng Nghymru yn eu hwynebu. Yn croesawu’r pwerau
a’r canllawiau dewisol ar y dreth gyngor ac ail gartrefi. sydd ar gael i
awdurdodau lleol, i leihau neu ddileu’r gofyniad i dalu naill ai’r gyfradd
premiwm neu gyfradd safonol y dreth gyngor neu’r ddau. Yn cydnabod bod
ardollau ymwelwyr yn gyffredin ar draws y byd, a’u bod yn cael eu defnyddio er
budd twristiaid, busnesau a chymunedau lleol, gan helpu i wneud twristiaeth yn
gynaliadwy ac yn llwyddiannus. Yn croesawu’r
ymrwymiad i roi’r pŵer i awdurdodau lleol gyflwyno ardoll ymwelwyr os
ydynt yn dymuno gwneud hynny, yn amodol ar ymgynghoriad. Sefydliad Twristiaeth y
Byd y Cenhedloedd Unedig - Datblygu Cynaliadwy (Saesneg yn unig) Gorchymyn Ardrethu
Annomestig (Diwygio’r Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022 Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.32 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio: NDM8259 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi bod 15 – 23 Mai yn Wythnos Twristiaeth Cymru 2023. 2. Yn cydnabod y cyfraniad hanfodol a wneir i gymdeithas Cymru gan y
sector twristiaeth. 3. Yn gresynu nad yw'r diwydiant twristiaeth wedi gwella o hyd i'r
lefelau yr oedd cyn y pandemig. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) dathlu cryfder Cymru fel cyrchfan o'r radd flaenaf ar gyfer
twristiaid; b) annog mwynderau a chyfleusterau twristiaeth i gael eu darparu a'u
gwella yng Nghymru; c) cefnogi darparwyr llety hunanddarpar drwy ddiddymu'r trothwy
deiliadaeth 182 diwrnod; d) rhoi'r gorau i gynigion niweidiol ar gyfer treth dwristiaeth yng
Nghymru.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu popeth ar ôl 4b a rhoi yn ei le bwyntiau
newydd: Yn cefnogi diffiniad Sefydliad Twristiaeth y Byd
y Cenhedloedd Unedig o ddatblygiad twristiaeth gynaliadwy. Yn nodi Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Diwygio’r
Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022 a basiwyd gan y Senedd ym mis
Gorffennaf, a gyflwynwyd fel rhan o ymrwymiad ehangach i fynd i’r afael â
materion ail gartrefi a thai anfforddiadwy y mae llawer o gymunedau yng Nghymru
yn eu hwynebu. Yn croesawu’r pwerau a’r canllawiau dewisol ar y
dreth gyngor ac ail gartrefi, sydd ar gael i awdurdodau lleol, i leihau neu
ddileu’r gofyniad i dalu naill ai’r gyfradd premiwm neu gyfradd safonol y dreth
gyngor neu’r ddau. Yn cydnabod bod ardollau ymwelwyr yn gyffredin ar
draws y byd, a’u bod yn cael eu defnyddio er budd twristiaid, busnesau a
chymunedau lleol, gan helpu i wneud twristiaeth yn gynaliadwy ac yn llwyddiannus. Yn croesawu’r ymrwymiad i roi’r pŵer i
awdurdodau lleol gyflwyno ardoll ymwelwyr os ydynt yn dymuno gwneud hynny, yn
amodol ar ymgynghoriad. Sefydliad
Twristiaeth y Byd y Cenhedloedd Unedig - Datblygu Cynaliadwy (Saesneg yn unig) Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Diwygio’r Diffiniad o
Eiddo Domestig) (Cymru) 2022 Canllawiau ar Dreth Gyngor ar Dai Gwag ac Ail Gartrefi Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM8259 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi bod 15 – 23 Mai yn Wythnos Twristiaeth Cymru 2023. 2. Yn cydnabod y cyfraniad hanfodol a wneir i gymdeithas Cymru gan y
sector twristiaeth. 3. Yn gresynu nad yw'r diwydiant twristiaeth wedi gwella o hyd i'r
lefelau yr oedd cyn y pandemig. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) dathlu cryfder Cymru fel cyrchfan o'r radd flaenaf ar gyfer twristiaid; b) annog mwynderau a chyfleusterau twristiaeth i gael eu darparu a'u
gwella yng Nghymru; 5. Yn cefnogi diffiniad Sefydliad Twristiaeth y Byd y Cenhedloedd Unedig
o ddatblygiad twristiaeth gynaliadwy. 6. Yn nodi Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Diwygio’r Diffiniad o Eiddo
Domestig) (Cymru) 2022 a basiwyd gan y Senedd ym mis Gorffennaf, a gyflwynwyd
fel rhan o ymrwymiad ehangach i fynd i’r afael â materion ail gartrefi a thai
anfforddiadwy y mae llawer o gymunedau yng Nghymru yn eu hwynebu. 7. Yn croesawu’r pwerau a’r canllawiau dewisol ar y dreth gyngor ac ail
gartrefi, sydd ar gael i awdurdodau lleol, i leihau neu ddileu’r gofyniad i
dalu naill ai’r gyfradd premiwm neu gyfradd safonol y dreth gyngor neu’r ddau. 8. Yn cydnabod bod ardollau ymwelwyr yn gyffredin ar draws y byd, a’u bod
yn cael eu defnyddio er budd twristiaid, busnesau a chymunedau lleol, gan helpu
i wneud twristiaeth yn gynaliadwy ac yn llwyddiannus. 9. Yn croesawu’r ymrwymiad i roi’r pŵer i awdurdodau lleol gyflwyno
ardoll ymwelwyr os ydynt yn dymuno gwneud hynny, yn amodol ar ymgynghoriad. Sefydliad
Twristiaeth y Byd y Cenhedloedd Unedig - Datblygu Cynaliadwy (Saesneg yn
unig) Gorchymyn
Ardrethu Annomestig (Diwygio’r Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022 Canllawiau
ar Dreth Gyngor ar Dai Gwag ac Ail Gartrefi
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd |
|||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 18.22 |
||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM8256 Huw Irranca-Davies (Ogwr) A
yw eogiaid yn wynebu difodiant o afonydd Cymru? Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.25 NDM8256 Huw
Irranca-Davies (Ogwr) A yw eogiaid yn wynebu
difodiant o afonydd Cymru? |