Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd

Amseriad disgwyliedig: 136 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 09/05/2023 - Y Cyfarfod Llawn

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

(30 munud)

2.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.31       

(30 munud)

3.

Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Lansio Ap y GIG

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.43

(30 munud)

4.

Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip: Diweddariad ar Cymru: Cenedl Noddfa

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.09

(30 munud)

5.

Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Gynllun Cyflawni Cymru o Blaid Pobl Hyn: Ein Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy'n Heneiddio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.52

(5 munud)

6.

Cynnig i amrywio'r drefn ystyried ar gyfer gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Amaethyddiaeth (Cymru)

NDM8253 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36: Yn cytuno i waredu’r adrannau a’r atodlenni i’r Bil Amaethyddiaeth (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn ganlynol:  

a) Adrannau 1-32;

b) Atodlen 1;

c) Adran 33;

d) Adrannau 35-41;

e) Adran 34;

f) Adrannau 43-45;

g) Adran 42;

h) Adrannau 46-52;

i) Atodlen 2;

j) Atodlen 3;

k) Adrannau 53-54;

l) Teitl Hir.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.17

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod eitemau 7 ac 8 gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân.

7.

Egwyddorion Cyffredinol Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru)

NDM8255 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru)

Gosodwyd Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Senedd ar 13 Chwefror 2023.

Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar Fil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) gerbron y Senedd ar 28/04/2023. 

Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Cyllid
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.18

8.

Y penderfyniad ariannol mewn perthynas â Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru)

NDM8254 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o Fil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Cofnodion:

NDM8254 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o Fil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

9.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Nid oedd cyfnod pleidleisio.