Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 107(v2) 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 30/11/2022 - Y Cyfarfod Llawn

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

(45 munud)

1.

Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

Cododd Alun Davies Bwynt o Drefn yn ymwneud â chyfleoedd i Aelodau graffu ar Aelodau Dynodedig a benodwyd o dan y Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru. Cytunodd y Llywydd i ystyried y mater a godwyd ymhellach a nododd y byddai’r Cytundeb Cydweithio yn destun gwaith craffu yn y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog yr wythnos ganlynol.

(45 munud)

2.

Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.27

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

(0 munud)

3.

Cwestiynau Amserol

Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol

(5 munud)

4.

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.16

Gwnaeth Jenny Rathbone ddatganiad am - Tŷ bwyta “The Clink” yng ngharchar Caerdydd yn cau ar ôl 10 mlynedd.

Gwnaeth Vikki Howells ddatganiad am - Ariannu’r celfyddydau a grwpiau cymunedol yng Nghymru: Penblwydd 70 Hapus i ‘The Mousetrap’ (25 Tachwedd).

Gwnaeth Heledd Fychan ddatganiad am - Llongyfarch tîm pêl droed dynion Cymru a’r Wal Goch am hyrwyddo Cymru i’r byd.

(60 munud)

5.

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid - Trefniadau ariannu ar ôl gadael yr UE

NDM8149 Peredur Owen Griffiths (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar drefniadau ariannu ar ôl ymadael â’r UE a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Hydref 2022.

Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Tachwedd 2022.

Derbyniwyd ymateb Llywodraeth y DU i’r adroddiad ar 21 Tachwedd 2022. (Saesneg yn unig)

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.22

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

6.

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol - Sicrhau chwarae teg: Adroddiad ar gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol mewn ardaloedd difreintiedig

NDM8152 Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol ‘Sicrhau chwarae teg: Adroddiad ar gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol mewn ardaloedd difreintiedig’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Awst 2022.

Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Tachwedd 2022.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.19

NDM8152 Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol ‘Sicrhau chwarae teg: Adroddiad ar gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol mewn ardaloedd difreintiedig’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Awst 2022.

Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Tachwedd 2022.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(30 munud)

7.

Dadl ar ddeiseb P-06-1302 – Rhaid gwarchod mynyddoedd unigryw Cambria yng Nghanolbarth Cymru drwy eu dynodi yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.17

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM8146 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi’r ddeiseb ‘P-06-1302 Rhaid gwarchod mynyddoedd unigryw Cambria yng Nghanolbarth Cymru drwy eu dynodi yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol’ a gasglodd 20,889 o lofnodion.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

43

11

0

54

Derbyniwyd y cynnig.

(30 munud)

8.

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Pwyllgor diben arbennig ymchwiliad COVID-19 Cymru

NDM8150 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 16.5:

1. Yn sefydlu pwyllgor diben arbennig ymchwiliad COVID-19 Cymru

2. Yn cytuno mai cylch gwaith y pwyllgor yw:

a) nodi ble nad yw ymchwiliad COVID-19 y DU yn gallu craffu'n llawn ar ymateb Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus Cymru i bandemig COVID-19;

b) cynnal ymchwiliad i'r meysydd a nodwyd;

3. Yn cytuno y bydd y pwyllgor yn cael ei ddiddymu erbyn Rhagfyr 2024 yn dilyn dadl yn y Cyfarfod Llawn ar ei adroddiad terfynol.

Cyd-gyflwynwyr

Sian Gwenllian (Arfon)

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.40

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM8150 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 16.5:

1. Yn sefydlu pwyllgor diben arbennig ymchwiliad COVID-19 Cymru

2. Yn cytuno mai cylch gwaith y pwyllgor yw:

a) nodi ble nad yw ymchwiliad COVID-19 y DU yn gallu craffu'n llawn ar ymateb Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus Cymru i bandemig COVID-19;

b) cynnal ymchwiliad i'r meysydd a nodwyd;

3. Yn cytuno y bydd y pwyllgor yn cael ei ddiddymu erbyn Rhagfyr 2024 yn dilyn dadl yn y Cyfarfod Llawn ar ei adroddiad terfynol.

Cyd-gyflwynwyr

Sian Gwenllian (Arfon)

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

28

55

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig. Felly, gwrthodwyd y cynnig.

(30 munud)

9.

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Busnesau bach

NDM8151 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi y bydd Dydd Sadwrn y Busnesau Bach yn cael ei gynnal ar 3 Rhagfyr 2022.

2. Yn cydnabod y cyfraniad hanfodol y mae busnesau bach yn ei wneud o ran cynnal economïau lleol, datblygu cymunedau a chreu swyddi.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio'r ysgogiadau sydd ganddi i gefnogi busnesau bach yng Nghymru yn well.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.15

NDM8151 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi y bydd Dydd Sadwrn y Busnesau Bach yn cael ei gynnal ar 3 Rhagfyr 2022.

2. Yn cydnabod y cyfraniad hanfodol y mae busnesau bach yn ei wneud o ran cynnal economïau lleol, datblygu cymunedau a chreu swyddi.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio'r ysgogiadau sydd ganddi i gefnogi busnesau bach yng Nghymru yn well.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

10.

Cyfnod Pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.45

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol:

(30 munud)

11.

Dadl Fer

NDM8147 Natasha Asghar (Dwyrain De Cymru)

Rhwyd ddiogelwch i blant: gwarchod hawl plant i fod yn ddiogel ar-lein

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.49

NDM8147 Natasha Asghar (Dwyrain De Cymru)

Rhwyd ddiogelwch i blant: gwarchod hawl plant i fod yn ddiogel ar-lein