Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 103
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 16/11/2022 - Y Cyfarfod Llawn
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhaliwyd y cyfarfod
hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno
drwy gyswllt fideo. |
||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog yr Economi Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb
rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
13.30 Gofynnwyd yr 8 cwestiwn
cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog
ar ôl cwestiwn 2, atebwyd gan Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r
Prif Chwip. |
|||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb
rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.23 Gofynnwyd y 10 cwestiwn
cyntaf. Cafodd cwestiynau 2, 4 a 5 eu grwpio i’w hateb gyda’i gilydd. Atebwyd cwestiwn
7 gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant. Gwahoddodd y Llywydd
Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. Am
15.10 cododd Joyce Watson Bwynt o Drefn ynghylch ymddygiad Gareth Davies yn
ystod cwestiynau’r llefarwyr. Dywedodd y Llywydd y byddai’n disgwyl
ymddiheuriad gan Gareth Davies, cyn y byddai’n cael ei alw i gymryd rhan yn
nhrafodion y Siambr. Am 15.13 cododd Huw Irranca-Davies Bwynt o Drefn ynghylch
defnyddio cwestiynau’r llefarwyr i godi mater etholaethol. Ymatebodd y Llywydd
mai mater i’r grwpiau pleidiau yw penderfynu sut i ddefnyddio’u cwestiynau
llefarwyr ac, felly, mae’n ystyried bod y cwestiynau yn dderbyniol. Byddai’n
ystyried y mater hwn ymhellach. |
|||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Gofyn i Weinidog yr Economi Vikki
Howells (Cwm Cynon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y newyddion
diweddar bod Garth Bakery wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr? Gofyn i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Peredur Owen
Griffiths (Dwyrain De Cymru): Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i hyrwyddo
cydlyniant cymunedol yn dilyn honiadau difrifol a wnaed am Heddlu Gwent? Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.15 Atebwyd gan Weinidog yr Economi Vikki Howells (Cwm
Cynon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y newyddion diweddar bod Garth
Bakery wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr? Atebwyd gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Peredur Owen
Griffiths (Dwyrain De Cymru): Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i hyrwyddo
cydlyniant cymunedol yn dilyn honiadau difrifol a wnaed am Heddlu Gwent? |
|||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.25 Gwnaeth Joyce Watson ddatganiad am - Wythnos
Entrepreneuriaeth Fyd-eang 2022 (14-20 Tachwedd). Gwnaeth Joel James ddatganiad am - Diwrnod Diabetes y Byd
(14 Tachwedd). |
|||||||||
(5 munud) |
Cynnig i ethol Aelodau i bwyllgorau Dechreuodd yr eitem am 15.29 NNDM8135 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod y Senedd,
yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol: 1. Peredur Owen
Griffiths (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad. 2. Mabon ap Gwynfor
(Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth
Gyhoeddus. 3. Llyr Gruffydd
(Plaid Cymru) yn aelod o Bwyllgor y Llywydd. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(5 munud) |
Cynnig i ethol Aelod i'r Pwyllgor Deisebau Dechreuodd yr eitem am
15.29. NNDM8134 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Rhys ab Owen (Annibynnol)
yn aelod o’r Pwyllgor Deisebau. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(0 munud) |
Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2023-24 - Tynnwyd yn ôl NDM8124 Ken Skates (De Clwyd) Cynnig bod y Senedd,
yn unol â Rheol Sefydlog 20.16: Yn cytuno ar gyllideb Comisiwn
y Senedd ar gyfer 2023-24, fel y pennir yn Nhabl 1 o Gyllideb Comisiwn y Senedd
ar gyfer 2023-24, a osodwyd
gerbron y Senedd ar 9 Tachwedd 2022, a’i bod yn cael ei hymgorffori yn y
Cynnig Cyllidebol Blynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26(ii). Dogfennau Ategol Cofnodion: Tynnwyd yr eitem hon yn ôl |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith - Cysylltedd digidol – band eang NDM8123 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: ‘Cysylltedd digidol – band
eang’, a osodwyd
ar 1 Awst 2022. Gosodwyd
ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Tachwedd
2022. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.29 NDM8123 Llyr Gruffydd (Gogledd
Cymru) Cynnig
bod y Senedd: Yn
nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith:
‘Cysylltedd digidol – band eang’, a osodwyd ar
1 Awst 2022. Gosodwyd ymateb
Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Tachwedd 2022. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig - Pwysau costau byw NDM8129 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad
Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Pwysau costau byw a osodwyd yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 28 Gorffennaf 2022. Noder:
Gosodwyd ymateb
Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Medi 2022. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.18 NDM8129 Paul Davies
(Preseli Sir Benfro) Cynnig bod y Senedd Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion
Gwledig: Pwysau costau byw a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Gorffennaf 2022. Noder: Gosodwyd ymateb
Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Medi 2022. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(30 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Toiledau Changing Places NDM8126 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu mecanwaith ariannu addas a chanllawiau clir
i awdurdodau lleol i sicrhau bod yna ddarpariaeth deg o doiledau Changing
Places ym mhob sir yng Nghymru. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.12 NDM8126 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd) Cynnig
bod y Senedd: Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu mecanwaith ariannu addas a chanllawiau clir
i awdurdodau lleol i sicrhau bod yna ddarpariaeth deg o doiledau Changing
Places ym mhob sir yng Nghymru. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(30 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 NDM8127 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y
Senedd: Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i weithio gyda'r holl bleidiau gwleidyddol yn Senedd Cymru i hwyluso deddfiad
prydlon sy'n ymgorffori adrannau 116 i 125 o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022 i
gyfraith Cymru i gryfhau hawliau trigolion yng Nghymru. Dogfennau Ategol Deddf
Diogelwch Adeiladau 2022 (Saesneg yn unig) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.35 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM8127 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
weithio gyda'r holl bleidiau gwleidyddol yn Senedd Cymru i hwyluso deddfiad
prydlon sy'n ymgorffori adrannau 116 i 125 o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022 i
gyfraith Cymru i gryfhau hawliau trigolion yng Nghymru. Dogfennau Ategol Deddf
Diogelwch Adeiladau 2022 (Saesneg yn unig)
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20,
defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig.
Felly, gwrthodwyd y cynnig. |
|||||||||
Cyfnod Pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.05 |
||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM8125 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru) Rasio
ceffylau: ased economaidd ac ased chwaraeon i Gymru Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.07 NDM8125 Llyr Gruffydd
(Gogledd Cymru) Rasio ceffylau: ased
economaidd ac ased chwaraeon i Gymru |