Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 93 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 05/10/2022 - Y Cyfarfod Llawn

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

(45 munud)

1.

Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 6 gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol.  Gwahoddodd y Llywydd Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

(45 munud)

2.

Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Cwnsler Cyffredinol ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.19

Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 3 a 4 eu grwpio i’w hateb gyda’i gilydd. Gwahoddodd y Llywydd Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

(10 munud)

3.

Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.07

Gofynnwyd y cwestiwn.

(0 munud)

4.

Cwestiynau Amserol

Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol.

(5 munud)

5.

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.10

Gwnaeth Gareth Davies ddatganiad am - Gwledd Eirin Dinbych (1 Hydref).

(60 munud)

6.

Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Effaith meigryn ar blant a phobl ifanc

NDM8074 Mark Isherwood (Gogledd Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) yr effaith a gaiff meigryn ar yr 1 ym mhob 10 plentyn a pherson ifanc sy'n byw gyda'r cyflwr, gan gynnwys yn yr ysgol a'u bywydau o ddydd i ddydd;

b) bod pobl ifanc y mae meigryn yn effeithio arnynt yn aml yn nodi ei fod yn ei gwneud hi'n anoddach i wneud eu gwaith ysgol, gan olygu y gall y cyflwr effeithio ar eu cyrhaeddiad addysgol heb gymorth priodol, yn ogystal ag amharu ar eu bywyd teuluol a chymdeithasol;

c) bod ymchwil gan y Migraine Trust yn awgrymu nad yw gweithwyr addysg a gweithwyr iechyd proffesiynol yn aml yn deall meigryn, ac yn aml nid oes ganddynt fynediad at hyfforddiant ac adnoddau i roi cefnogaeth effeithiol i blant a phobl ifanc y mae'r cyflwr yn effeithio arnynt;

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag'r Migraine Trust a chyrff cynrychioliadol ar gyfer ysgolion, gwasanaethau iechyd, a rhieni/gofalwyr er mwyn:

a) cryfhau'r canllawiau;

b) darparu hyfforddiant ar sut i gefnogi a darparu ar gyfer pobl ifanc y mae meigryn yn effeithio arnynt; a

c) darparu adnoddau i rieni/gofalwyr plant sy'n byw gyda meigryn ac i'r bobl ifanc eu hunain ar sut i gymryd rheolaeth o'u gofal eu hunain.

Cyd-gyflwynwyr

Mabon ap Gwynfor (Dwyfor Meirionydd)

Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Tom Giffard (Gorllewin De Cymru)

Sam Rowlands (Gogledd Cymru)

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.12

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

7.

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai - Ail Gartrefi

NDM8084 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, 'Ail gartrefi', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Mehefin 2022.

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Gorffennaf 2022.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.43

NDM8084 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, 'Ail gartrefi', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Mehefin 2022.

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Gorffennaf 2022.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

8.

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Digwyddiadau mawr

NDM8086 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi Strategaeth Ddigwyddiadau Genedlaethol Cymru 2022 i 2030 Llywodraeth Cymru.

2. Yn credu bod digwyddiadau mawr yn helpu i roi hwb i swyddi a'r economi drwy arddangos Cymru i'r byd.

3. Yn gresynu at y ffaith bod Llywodraeth Cymru'n dangos diffyg uchelgais wrth ddod â'r cyfleoedd hyn i Gymru.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailystyried y strategaeth gan ganolbwyntio ar ddyhead, creadigrwydd ac arloesedd wrth ddenu digwyddiadau mawr i Gymru.

Strategaeth Ddigwyddiadau Genedlaethol Cymru 2022 i 2030

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1 Sian Gwenllian (Arfon)

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau y caiff diwylliant a threftadaeth Cymru a'r Gymraeg eu hymwreiddio'n bellach yn y strategaeth, gan gynnwys digwyddiadau mawr cynhenid fel yr Eisteddfod Genedlaethol, a'n bod yn arddel ddefnyddio Cymru yn hytrach na Wales yn rhyngwladol.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.32

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM8086 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi Strategaeth Ddigwyddiadau Genedlaethol Cymru 2022 i 2030 Llywodraeth Cymru.

2. Yn credu bod digwyddiadau mawr yn helpu i roi hwb i swyddi a'r economi drwy arddangos Cymru i'r byd.

3. Yn gresynu at y ffaith bod Llywodraeth Cymru'n dangos diffyg uchelgais wrth ddod â'r cyfleoedd hyn i Gymru.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailystyried y strategaeth gan ganolbwyntio ar ddyhead, creadigrwydd ac arloesedd wrth ddenu digwyddiadau mawr i Gymru.

Strategaeth Ddigwyddiadau Genedlaethol Cymru 2022 i 2030

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

14

0

38

52

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Sian Gwenllian (Arfon)

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau y caiff diwylliant a threftadaeth Cymru a'r Gymraeg eu hymwreiddio'n bellach yn y strategaeth, gan gynnwys digwyddiadau mawr cynhenid fel yr Eisteddfod Genedlaethol, a'n bod yn arddel defnyddio Cymru yn hytrach na Wales yn rhyngwladol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

27

53

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Gan fod y Senedd wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliant i'r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.

9.

Cyfnod Pleidleisio

Cofnodion:

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 17.17 cafodd y trafodion eu hatal dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio.

Dechreuodd yr eitem am 17.19

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol:

(30 munud)

10.

Dadl Fer

NDM8085 Sam Rowlands (Gogledd Cymru)

Chwaraeon yng Ngogledd Cymru: sicrhau cyfleoedd i bawb

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.24

NDM8085 Sam Rowlands (Gogledd Cymru)

Chwaraeon yng Ngogledd Cymru: sicrhau cyfleoedd i bawb