Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 91 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 28/09/2022 - Y Cyfarfod Llawn

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

(45 munud)

1.

Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, rhwng 14.19 and 14.32 cafodd y trafodion eu hatal dros dro i ganiatáu egwyl technegol.

(45 munud)

2.

Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 3.

Gweld y Cwestiynau

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.32

Gofynnwyd cwestiynau 1 a 3 -10. Tynnwyd cwestiwn 2 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 3.

Diweddariad ar y Datganiad Busnes

Am 15.16, rhoddodd y Trefnydd ddiweddariad ar y Datganiad Busnes

(0 munud)

3.

Cwestiynau Amserol

Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol

(5 munud)

4.

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.17

Gwnaeth Samuel Kurtz ddatganiad am – Diwrnod Llaeth Ysgol y Byd (28 Medi).

Gwnaeth Peter Fox ddatganiad am - Teyrnged i’r Cyng. Bob Greenland, cyn-Ddirprwy Arweinydd Cyngor Sir Fynwy.

(60 munud)

5.

Cynnig i gymeradwyo'r Cynllun Ieithoedd Swyddogol ar gyfer y Chweched Senedd a nodi'r adroddiad blynyddol ar y Cynllun Ieithoedd Swyddogol ar gyfer 2021-22

NDM8078 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cymeradwyo Cynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Senedd, yn unol â pharagraff 8(11)(d) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a osodwyd gerbron Senedd Cymru ar 21 Medi 2022; a

2. Yn nodi'r Adroddiad Blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Senedd ar gyfer y cyfnod 2021-22, yn unol â pharagraff 8(8) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a osodwyd gerbron y Senedd ar 30 Mehefin 2022.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.20

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(30 munud)

6.

Dadl ar ddeiseb P-06-1276 - Ymestyn adran 25B o Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016

NDM8077 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi’r ddeiseb, ‘P-06-1276 Ymestyn adran 25B o Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016’, a gasglodd 10,572 o lofnodion.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.39

NDM8077 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi’r ddeiseb, ‘P-06-1276 Ymestyn adran 25B o Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016’, a gasglodd 10,572 o lofnodion.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

7.

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Canser gynaecolegol

NDM8082 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod mis Medi yn fis ymwybyddiaeth canser gynaecolegol.

2. Yn mynegi ei phryder mai'r perfformiad llwybr canser unigol isaf yn ôl safle tiwmor yw'r un gynaecolegol, gyda llai na thraean o gleifion yn cael eu gweld o fewn 62 diwrnod.

3. Yn gresynu at y ffaith bod cyfraddau goroesi blwyddyn a phum mlynedd ar gyfer canser y groth wedi gostwng yn sylweddol dros y degawd diwethaf.

4. Yn nodi ymhellach ymchwil a wnaed gan Jo's Cervical Cancer Trust sy'n amlygu na all 80 y cant o fenywod sy'n gweithio'n llawn amser gael apwyntiad sgrinio serfigol cyfleus.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) gynnal adolygiad brys i amseroedd aros canser gynaecolegol;

b) sicrhau bod cynlluniau'r gweithlu ar gyfer arbenigwyr canser yn canolbwyntio ar iechyd gynaecolegol; ac

c) cyflwyno ei chynllun gweithredu canser ar unwaith.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.07

8.

Cyfnod Pleidleisio

Cofnodion:

Nid oedd cyfnod pleidleisio.

(30 munud)

9.

Dadl Fer

NDM8076 Joel James (Canol De Cymru)

Dŵr yng Nghymru: yr heriau sy'n ymwneud â thlodi dŵr a'i safon

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.57

NDM8076 Joel James (Canol De Cymru)

Dŵr yng Nghymru: yr heriau sy'n ymwneud â thlodi dŵr a'i safon

(30 munud)

10.

Dadl Fer

NDM8080 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Mapio moroedd Cymru: buddsoddiad yn ein dyfodol gwyrdd a glas

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.15

NDM8080 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Mapio moroedd Cymru: buddsoddiad yn ein dyfodol gwyrdd a glas