Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 89(v3) 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 21/09/2022 - Y Cyfarfod Llawn

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Gweinidog Newid Hinsawdd - Gohiriwyd o 14 Medi

Mae’r Llywydd wedi cael gwybod, o dan Reol Sefydlog 12.58, y bydd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd a'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd yn ateb cwestiynau ar ran y Gweinidog.

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd cwestiynau 1-2, 4 a 6-10. Tynnwyd cwestiwn 3 yn ôl. Ni ofynnwyd cwestiwn 5. Atebwyd cwestiynau 1, 4, 8 a 10 gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd. Atebwyd cwestiynau 2, 6, 7 a 9 gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd ar ran y Gweinidog Newid Hinsawdd.  Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd a’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd ar ôl cwestiwn 2.

(45 munud)

2.

Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg - Gohiriwyd o 14 Medi

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.16

Gofynnwyd cwestiynau 1-7, 9 a 11. Tynnwyd cwestiwn 8 yn ôl. Ni ofynnwyd cwestiwn 10.  Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

3.

Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol - Gohiriwyd tan 28 Medi

Cofnodion:

Gohiriwyd yr eitem hon

4.

Cwestiynau i'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd - Gohiriwyd tan 28 Medi

Cofnodion:

Gohiriwyd yr eitem hon

(20 munud)

5.

Cwestiynau Amserol

Gofyn i Weinidog yr Economi

Hefin David (Caerffili): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y newyddion diweddar bod Bearmach Cyf. ar Ystâd Ddiwydiannol Pantglas, Bedwas, wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr?

Gofyn i Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon

Heledd Fychan (Canol De Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cynnal gyda rhanddeiliaid lleol a chynrychiolwyr undebau ynglŷn â diogelu hawliau gweithwyr yn dilyn y cyhoeddiad diweddar ynglŷn ag allanoli gwasanaethau yng Nghanolfan Awyr Agored Genedlaethol Plas Menai?

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.03

Atebwyd gan Weinidog yr Economi

Hefin David (Caerffili): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y newyddion diweddar bod Bearmach Cyf. ar Ystâd Ddiwydiannol Pantglas, Bedwas, wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr?

Atebwyd gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon

Heledd Fychan (Canol De Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cynnal gyda rhanddeiliaid lleol a chynrychiolwyr undebau ynglŷn â diogelu hawliau gweithwyr yn dilyn y cyhoeddiad diweddar ynglŷn ag allanoli gwasanaethau yng Nghanolfan Awyr Agored Genedlaethol Plas Menai?

(5 munud)

6.

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.22

Gwnaeth Russell George ddatganiad am - PAPYRUS Elusen Atal Hunanladdiad Ifanc - 3 thad yn codi arian er cof am eu plant sydd wedi cyflawni hunanladdiad.

Gwnaeth Natasha Asghar ddatganiad am - Diwrnod Alzheimer y Byd.

Gwnaeth Rhys ab Owen ddatganiad am - Tony Paris, un o Dri Caerdydd a gafodd eu carcharu ar gam am lofruddiaeth, yn marw yn 65 oed.

Gwnaeth Delyth Jewell ddatganiad am - Teyrnged i Eddie Butler.

Gwnaeth Elin Jones ddatganiad am - Teyrnged i Mavis Nicholson, darlledwraig arloesol.

(60 munud)

7.

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol - Tlodi tanwydd a'r Rhaglen Cartrefi Clyd - Gohiriwyd o 14 Medi

NDM8072 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar Dlodi tanwydd a'r Rhaglen Cartrefi Clyd, a osodwyd ar 18 Mai 2022.

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Awst 2022.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.31

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(0 munud)

8.

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith - Ynni adnewyddadwy yng Nghymru - Gohiriwyd o 14 Medi - Tynnwyd yn ôl

Tynnwyd y cynnig yn ôl

Cofnodion:

Tynnwyd y cynnig yn ôl

9.

Cynnig i gymeradwyo'r Cynllun Ieithoedd Swyddogol ar gyfer y Chweched Senedd a nodi'r adroddiad blynyddol ar y Cynllun Ieithoedd Swyddogol ar gyfer2021-22 - Gohiriwyd tan 28 Medi

Cofnodion:

Gohiriwyd yr eitem hon

10.

Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig - Adolygiad o Reoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 - Gohiriwyd tan 12 Hydref

Cofnodion:

Gohiriwyd yr eitem hon

(5 munud)

Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro

Dechreuodd yr eitem am 16.31

NNDM8075 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

Yn atal Rheol Sefydlog 12.22(i) dros dro er mwyn caniatáu i’r gwelliannau a gyflwynwyd i NDM8073 gael eu hystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 21 Medi 2022.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

11.

Dadl Plaid Cymru - Costau byw - Gohiriwyd o 14 Medi

NDM8073 Sian Gwenllian (Arfon)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn credu bod y cynnydd presennol mewn biliau ynni yn anghynaladwy ac y bydd yn achosi straen ariannol a chaledi i aelwydydd, busnesau, a grwpiau cymunedol, tra bod cwmnïau tanwydd ffosil yn gwneud yr elw mwyaf erioed.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu mesurau argyfwng costau byw ehangach ar unwaith, fel:

a. haneru prisiau trenau a gosod cap ar brisiau bws;

b. gweithio gydag awdurdodau lleol i glirio rhai o'r ôl-ddyledion treth gyngor sylweddol sydd wedi cronni yn ystod cyfnod y pandemig; 

c. rhewi rhent; 

d. ailgyflwyno mesurau i wahardd troi allan yn y gaeaf; 

e. ehangu'r cynllun prydau ysgol am ddim i blant ysgol uwchradd;

f. cynyddu'r lwfans cynhaliaeth addysgol i £45.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Yn nodi bod Llywodraeth y DU wedi cyflwyno ardoll ar elw ynni.

Yn croesawu'r camau a gymerwyd gan Lywodraeth y DU i fynd i'r afael â chostau byw, gan gynnwys:

a) gwarant pris ynni, sy’n rhoi cap ar gostau ynni;

b) taliadau costau byw i bob ar fudd-daliadau incwm isel a chredydau treth gwerth £650;

c) taliad costau byw anabledd gwerth £150;

d) gostyngiadau misol mewn biliau tanwydd o fis Hydref ymlaen gwerth £400;

e) cynnydd yn y Cyflog Byw Cenedlaethol i £9.50 yr awr;

f) gostyniad yn y gyfradd taper credyd cynhwysol;

g) rhewi’r dreth tanwydd;

h) rhewi ffi'r drwydded teledu am dwy flynedd;

i) taliadau tanwydd gaeaf ychwanegol.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i gefnogi pobl, busnesau a'r trydydd sector i wynebu'r heriau sydd i ddod.

[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol]

Gwelliant 2 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi’r canlynol yn ei le:

Yn credu bod Llywodraeth y DU yn methu â dirnad difrifoldeb yr argyfwng hwn, ac y byddai’n caniatáu i bobl sy’n gweithio dalu cost cap ynni yn hytrach na threthu elw digynsail cynhyrchwyr nwy ac olew.

Yn croesawu’r £1.6bn a fuddsoddir yn benodol i helpu gyda chostau byw a’r rhaglenni cyffredinol sy’n rhoi arian yn ôl ym mhocedi pobl a ddarperir gan Lywodraeth Cymru y flwyddyn ariannol hon, gan gynnwys:

a) ehangu Taliad Cymorth Tanwydd y Gaeaf o £200 ar gyfer 400,000 o aelwydydd y gaeaf hwn;

b) dechrau cyflwyno prydau ysgol am ddim i bob disgybl cynradd o fis Medi 2022;

c) buddsoddi £51.6m yn y Gronfa Cymorth Dewisol i arbed pobl sydd mewn argyfwng ariannol difrifol;

d) £4m ar gyfer talebau tanwydd i helpu pobl sydd ar fesuryddion talu ymlaen llaw a banc tanwydd i bobl nad ydynt ar y prif gyflenwad nwy.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.32

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM8073 Sian Gwenllian (Arfon)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn credu bod y cynnydd presennol mewn biliau ynni yn anghynaladwy ac y bydd yn achosi straen ariannol a chaledi i aelwydydd, busnesau, a grwpiau cymunedol, tra bod cwmnïau tanwydd ffosil yn gwneud yr elw mwyaf erioed.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu mesurau argyfwng costau byw ehangach ar unwaith, fel:

a. haneru prisiau trenau a gosod cap ar brisiau bws;

b. gweithio gydag awdurdodau lleol i glirio rhai o'r ôl-ddyledion treth gyngor sylweddol sydd wedi cronni yn ystod cyfnod y pandemig; 

c. rhewi rhent; 

d. ailgyflwyno mesurau i wahardd troi allan yn y gaeaf; 

e. ehangu'r cynllun prydau ysgol am ddim i blant ysgol uwchradd;

f. cynyddu'r lwfans cynhaliaeth addysgol i £45.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

13

0

39

52

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Yn nodi bod Llywodraeth y DU wedi cyflwyno ardoll ar elw ynni.

Yn croesawu'r camau a gymerwyd gan Lywodraeth y DU i fynd i'r afael â chostau byw, gan gynnwys:

a) gwarant pris ynni, sy’n rhoi cap ar gostau ynni;

b) taliadau costau byw i bobl ar fudd-daliadau incwm isel a chredydau treth gwerth £650;

c) taliad costau byw anabledd gwerth £150;

d) gostyngiadau misol mewn biliau tanwydd o fis Hydref ymlaen gwerth £400;

e) cynnydd yn y Cyflog Byw Cenedlaethol i £9.50 yr awr;

f) gostyngiad yn y gyfradd tapro credyd cynhwysol;

g) rhewi’r dreth tanwydd;

h) rhewi ffi'r drwydded teledu am ddwy flynedd;

i) taliadau tanwydd gaeaf ychwanegol.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i gefnogi pobl, busnesau a'r trydydd sector i wynebu'r heriau sydd i ddod.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

13

0

39

52

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi’r canlynol yn ei le:

Yn credu bod Llywodraeth y DU yn methu â dirnad difrifoldeb yr argyfwng hwn, ac y byddai’n caniatáu i bobl sy’n gweithio dalu cost cap ynni yn hytrach na threthu elw digynsail cynhyrchwyr nwy ac olew.

Yn croesawu’r £1.6bn a fuddsoddir yn benodol i helpu gyda chostau byw a’r rhaglenni cyffredinol sy’n rhoi arian yn ôl ym mhocedi pobl a ddarperir gan Lywodraeth Cymru y flwyddyn ariannol hon, gan gynnwys:

a) ehangu Taliad Cymorth Tanwydd y Gaeaf o £200 ar gyfer 400,000 o aelwydydd y gaeaf hwn;

b) dechrau cyflwyno prydau ysgol am ddim i bob disgybl cynradd o fis Medi 2022;

c) buddsoddi £51.6m yn y Gronfa Cymorth Dewisol i arbed pobl sydd mewn argyfwng ariannol difrifol;

d) £4m ar gyfer talebau tanwydd i helpu pobl sydd ar fesuryddion talu ymlaen llaw a banc tanwydd i bobl nad ydynt ar y prif gyflenwad nwy.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

25

52

Derbyniwyd gwelliant 2.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

NDM8073 Sian Gwenllian (Arfon)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn credu bod y cynnydd presennol mewn biliau ynni yn anghynaladwy ac y bydd yn achosi straen ariannol a chaledi i aelwydydd, busnesau, a grwpiau cymunedol, tra bod cwmnïau tanwydd ffosil yn gwneud yr elw mwyaf erioed.

2. Yn credu bod Llywodraeth y DU yn methu â dirnad difrifoldeb yr argyfwng hwn, ac y byddai’n caniatáu i bobl sy’n gweithio dalu cost cap ynni yn hytrach na threthu elw digynsail cynhyrchwyr nwy ac olew.

3. Yn croesawu’r £1.6bn a fuddsoddir yn benodol i helpu gyda chostau byw a’r rhaglenni cyffredinol sy’n rhoi arian yn ôl ym mhocedi pobl a ddarperir gan Lywodraeth Cymru y flwyddyn ariannol hon, gan gynnwys:

a) ehangu Taliad Cymorth Tanwydd y Gaeaf o £200 ar gyfer 400,000 o aelwydydd y gaeaf hwn;

b) dechrau cyflwyno prydau ysgol am ddim i bob disgybl cynradd o fis Medi 2022;

c) buddsoddi £51.6m yn y Gronfa Cymorth Dewisol i arbed pobl sydd mewn argyfwng ariannol difrifol;

d) £4m ar gyfer talebau tanwydd i helpu pobl sydd ar fesuryddion talu ymlaen llaw a banc tanwydd i bobl nad ydynt ar y prif gyflenwad nwy.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

25

52

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

12.

Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig - Gohiriwyd tan 28 Medi

Cofnodion:

Gohiriwyd yr eitem hon

13.

Cyfnod Pleidleisio

Cofnodion:

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 17.26 cafodd y trafodion eu hatal dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio.

Dechreuodd yr eitem am 17.32

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol:

(30 munud)

14.

Dadl Fer - Gohiriwyd o 14 Medi

NDM8070 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)

Darparu prydau ysgol am ddim i bawb: yr heriau a'r cyfleoedd.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.36

NDM8070 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)

Darparu prydau ysgol am ddim i bawb: yr heriau a'r cyfleoedd.

15.

Dadl Fer (Joel James (Canol De Cymru)) - Gohiriwyd tan 28 Medi

Cofnodion:

Gohiriwyd yr eitem hon