Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 87
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 11/09/2022 - Y Cyfarfod Llawn
Rhif | Eitem |
---|---|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai
Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
|
Cynnig o gydymdeimlad a theyrngedau i Ei Mawrhydi Y Frenhines Yn cynnig: Bod y Senedd hon yn
mynegi ei thristwch dwys yn dilyn marwolaeth Ei Mawrhydi Y Frenhines ac yn estyn
ei chydymdeimlad diffuant i Ei Fawrhydi Y Brenin ac Aelodau eraill o’r Teulu
Brenhinol. Rydym yn cydnabod ymrwymiad parhaus Ei Mawrhydi i wasanaeth a
dyletswydd cyhoeddus, gan gynnwys y gefnogaeth a roddodd i nifer o elusennau a
sefydliadau yng Nghymru, a’i chysylltiad ar hyd ei hoes â Chymru a’i phobl. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.00 Arweiniwyd y Senedd gan y Llywydd i nodi munud o
dawelwch. Galwodd y Llywydd ar y Prif Weinidog, arweinwyr y pleidiau ac Aelodau
eraill i dalu teyrngedau i Ei Mawrhydi Y Frenhines. Cytunodd y Senedd i
gyflwyno cynnig o gydymdeimlad i Ei Fawrhydi y Brenin. |