Agenda
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 84(v2)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 06/07/2022 - Y Cyfarfod Llawn
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cynhelir y cyfarfod hwn ar
ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy
gyswllt fideo. Mae'r Llywydd wedi penderfynu y bydd Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog
34.14A-D, yn gallu pleidleisio o unrhyw leoliad drwy ddull electronig. |
||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Bydd y Llywydd yn galw ar
Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn
2. Dogfennau ategol: |
|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad Bydd y Llywydd yn galw ar
Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn
2. |
|
(10 munud) |
Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd |
|
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol |
|
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad |
|
(30 munud) |
Cynnig i ddirymu Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Diwygio'r Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022 NDM8031 Tom Giffard (Gorllewin De Cymru) Cynnig bod y Senedd,
yn unol â Rheol Sefydlog 27.2: Yn cytuno bod
Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Diwygio'r Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru)
2022, a osodwyd
gerbron y Senedd ar 24 Mai 2022, yn cael ei ddirymu. |
|
(30 munud) |
Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Gwaharddiad ar gymalau 'dim anifeiliaid anwes' mewn llety rhent NDM8038 Luke Fletcher (Gorllewin De Cymru) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi cynnig ar gyfer
Bil i wahardd cymalau 'dim anifeiliaid anwes' mewn llety rhent. 2. Yn nodi mai diben y
Bil hwn fyddai: a) cyflwyno cytundeb
tenantiaeth safonol tebyg i gytundeb tenantiaeth enghreifftiol Llywodraeth y DU
a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2021; b) cynnig cyfres o
fesurau a fyddai'n sicrhau nad yw perchnogion anifeiliaid anwes cyfrifol yn
cael eu trin yn annheg o ganlyniad i'r math o lety y maent yn byw ynddo; c) caniatáu mai'r
sefyllfa ddiofyn gyfreithiol yw caniatáu anifeiliaid anwes mewn tai
cymdeithasol a'r sector rhentu preifat, oni bai bod rheswm y gellir ei
gyfiawnhau dros beidio â gwneud hynny; d) ymestyn caniatáu
anifeiliaid anwes mewn llochesi a llety i bobl ddigartref. Cefnogwyr |
|
(30 munud) |
Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Y weithdrefn ar gyfer ymdrin â chwynion yn erbyn Aelodau o'r Senedd |
|
(30 munud) |
Dadl Plaid Cymru - Cynllun cymorth tanwydd y gaeaf NDM8047 Sian Gwenllian (Arfon) Cynnig bod y Senedd: Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu'r cynllun cymorth tanwydd gaeaf i'w wneud yn
addas i'r diben wrth fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw. Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu’r cyfan a rhoi
yn ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn croesawu’r
pecynnau cymorth sylweddol a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru i helpu i fynd i’r
afael â’r argyfwng costau byw, sy’n werth cyfanswm o £380m ers Tachwedd 2021,
gan gynnwys cyllid ychwanegol ar gyfer y cynllun cymorth tanwydd er mwyn darparu
£200 tuag at filiau ynni nad oes gofyn ei ad-dalu, a £177m ar gyfer y cynllun
cymorth costau byw. 2. Yn nodi bod
Llywodraeth y DU wedi methu’n llwyr â mynd i’r afael yn briodol â’r argyfwng
hwn, ac wedi methu ag amgyffred pa mor ddifrifol yw ei effaith ar bobl ledled
Cymru. 3. Yn croesawu
ymrwymiad Llywodraeth Cymru i adolygu’r cynlluniau cymorth tanwydd presennol yn
barhaus ynghyd ag ymyriadau posibl i’r dyfodol. Gwelliant 2 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ymhellach ar
Lywodraeth Cymru i: a) gwarantu bod unrhyw
newidiadau i'r cynllun cymorth tanwydd gaeaf yn cael eu gwneud cyn yr hydref er
mwyn sicrhau bod y taliad yn cyrraedd cymaint o aelwydydd cymwys â phosibl; b) ehangu cymhwysedd y
taliad tanwydd gaeaf i gyrraedd mwy o aelwydydd mewn angen ar incwm isel sy'n
agored i niwed, fel y rhai sy'n gymwys i gael credyd pensiwn; c)
lansio ymgyrch ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r cynllun cymorth tanwydd gaeaf i
wella ymwybyddiaeth a chynyddu'r nifer sy'n manteisio ar y cynllun. |
|
(30 munud) |
Dadl Plaid Cymru - Ailymuno â'r farchnad sengl NDM8048 Sian Gwenllian (Arfon) Cynnig bod y Senedd: Yn
credu y dylai'r Deyrnas Unedig ailymuno â'r farchnad sengl. Cyflwynwyd y gwelliant
a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: Cynnig bod y
Senedd: Yn
credu y dylai y DU gael yr uchelgais o'r fasnach agosaf bosibl, heb wrthdaro
gyda'r UE. |
|
Cyfnod Pleidleisio |
||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM8046 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd) Gorau arf, dysg:
addysg fel llwybr allan o dlodi |