Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 76 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 08/06/2022 - Y Cyfarfod Llawn

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

(45 munud)

1.

Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 6 gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Cymdeithasol. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

(45 munud)

2.

Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.18

Gofynnwyd cwestiynau 1-4 a 6-8. Tynnwyd cwestiwn 5 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol ar ôl cwestiwn 2.

Am 14.30, cafodd y trafodion eu hatal dros dro am 29 munud. Cafodd y gloch ei chanu 3 munud cyn ailgynnull.

(30 munud)

3.

Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.23

Gofynnwyd y 5 cwestiwn. Cafodd cwestiynau 1 a 3 eu grwpio i’w hateb gyda’i gilydd.

(20 munud)

4.

Cwestiynau Amserol

Gofyn i’r Gweinidog Newid Hinsawdd

Rhys ab Owen (Canol De Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i amddiffyn rhentwyr ar ôl gohirio gweithredu Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016?

Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y newyddion y bydd y grŵp sy'n berchen ar Ganolfan Ganser Rutherford yng Nghasnewydd yn cael ei ddiddymu?

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.39

Atebwyd gan y Gweinidog Newid Hinsawdd

Rhys ab Owen (Canol De Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i amddiffyn rhentwyr ar ôl gohirio gweithredu Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016?

Atebwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y newyddion y bydd y grŵp sy'n berchen ar Ganolfan Ganser Rutherford yng Nghasnewydd yn cael ei ddiddymu?

(5 munud)

5.

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.58

Gwnaeth Jenny Rathbone ddatganiad am – 40 mlynedd ers ymosodiadau awyr Sir Galahad/Bluff Cove.

Gwnaeth Samuel Kurtz ddatganiad am – Wythnos Ddathlu Bwyd a Ffermio Cymru.

(5 munud)

Cynnig i ethol Aelod i bwyllgor

Dechreuodd yr eitem am 16.02

NDM8021 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14: 

1.   Yn ethol James Evans (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn lle Peter Fox (Ceidwadwyr Cymreig).

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(120 munud)

6.

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd - Diwygio ein Senedd: Llais cryfach i bobl Cymru

NDM8014 Huw Irranca-Davies (Ogwr)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd, 'Diwygio ein Senedd: Llais cryfach i bobl Cymru’.

2. Yn cymeradwyo’r cyfarwyddiadau polisi a argymhellir ynghylch deddfwriaeth i ddiwygio’r Senedd mewn digon o amser ar gyfer etholiadau nesaf y Senedd yn 2026.

3. Yn nodi bod yr adroddiad hefyd yn galw ar y Senedd i drafod nifer o faterion sy’n gysylltiedig â diwygio’r Senedd.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn gresynu at y datganiad sefyllfa ar ddiwygio'r Senedd gan Lywodraeth Cymru ar 10 Mai 2022 a oedd yn tanseilio annibyniaeth a gwaith y pwyllgor.

Gwelliant 2 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn gresynu at y ffaith na fyddai'r system bleidleisio a gynigir gan y pwyllgor yn caniatáu i bleidleiswyr bleidleisio dros ymgeisydd unigol o'u dewis.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.02

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

14

0

40

54

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn gresynu at y ffaith na fyddai'r system bleidleisio a gynigir gan y pwyllgor yn caniatáu i bleidleiswyr bleidleisio dros ymgeisydd unigol o'u dewis.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

15

0

39

54

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM8014 Huw Irranca-Davies (Ogwr)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd, 'Diwygio ein Senedd: Llais cryfach i bobl Cymru’.

2. Yn cymeradwyo’r cyfarwyddiadau polisi a argymhellir ynghylch deddfwriaeth i ddiwygio’r Senedd mewn digon o amser ar gyfer etholiadau nesaf y Senedd yn 2026.

3. Yn nodi bod yr adroddiad hefyd yn galw ar y Senedd i drafod nifer o faterion sy’n gysylltiedig â diwygio’r Senedd.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

40

0

14

54

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

(60 munud)

7.

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

NDM8015 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn gresynu at y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi methu â chyflawni'r gwelliannau a addawyd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

2. Yn credu bod y penderfyniad i symud y bwrdd iechyd o fesurau arbennig ym mis Tachwedd 2020 yn amhriodol.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i osod trefn mesurau arbennig ddiwygiedig i roi'r arweiniad a'r adnoddau sydd eu hangen ar y bwrdd iechyd i fynd i'r afael â methiannau, a darparu'r gofal iechyd o ansawdd uchel y mae pobl Gogledd Cymru yn ei haeddu.

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1 Sian Gwenllian (Arfon)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw am gomisiynu adolygiad annibynnol i ystyried manteision posibl disodli Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr â strwythurau newydd i ddarparu gofal iechyd yn y gogledd, oherwydd ei broblemau cronig.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.14

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM8015 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn gresynu at y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi methu â chyflawni'r gwelliannau a addawyd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

2. Yn credu bod y penderfyniad i symud y bwrdd iechyd o fesurau arbennig ym mis Tachwedd 2020 yn amhriodol.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i osod trefn mesurau arbennig ddiwygiedig i roi'r arweiniad a'r adnoddau sydd eu hangen ar y bwrdd iechyd i fynd i'r afael â methiannau, a darparu'r gofal iechyd o ansawdd uchel y mae pobl Gogledd Cymru yn ei haeddu.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

14

13

27

54

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1 Sian Gwenllian (Arfon)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw am gomisiynu adolygiad annibynnol i ystyried manteision posibl disodli Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr â strwythurau newydd i ddarparu gofal iechyd yn y gogledd, oherwydd ei broblemau cronig.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

28

55

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant. Gan fod y Senedd wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliant i'r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.

8.

Cyfnod Pleidleisio

Cofnodion:

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 19.19 cafodd y trafodion eu hatal dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio.

Dechreuodd yr eitem am 19.25

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol:

(30 munud)

9.

Dadl Fer

NDM8011 Joel James (Canol De Cymru)

Materion cudd sy'n effeithio ar bobl fyddar a phobl sy'n dioddef o golled clyw

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 19.30

NDM8011 Joel James (Canol De Cymru)

Materion cudd sy'n effeithio ar bobl fyddar a phobl sy'n dioddef o golled clyw