Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 72 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 18/05/2022 - Y Cyfarfod Llawn

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

(45 munud)

1.

Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 4, 5 a 6 gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ar ôl cwestiwn 2.

(45 munud)

2.

Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.25

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

(20 munud)

3.

Cwestiynau Amserol

Gofyn i Weinidog yr Economi

James Evans (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am brynu Fferm Gilestone yn Nhalybont-ar-Wysg?

Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am benderfyniad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru fod adran achosion brys Ysbyty Glan Clwyd wedi ei nodi fel gwasanaeth sydd angen gwelliant sylweddol?

Gofyn i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Huw Irranca-Davies (Ogwr): Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o unrhyw oblygiadau i Gymru o'r cyhoeddiad diweddar gan Ysgrifennydd Tramor y DU ynghylch y bwriad i ddeddfu i newid telerau protocol Gogledd Iwerddon?

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.06

Atebwyd gan Weinidog yr Economi

James Evans (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am brynu Fferm Gilestone yn Nhalybont-ar-Wysg?

Atebwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am benderfyniad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru fod adran achosion brys Ysbyty Glan Clwyd wedi ei nodi fel gwasanaeth sydd angen gwelliant sylweddol?

Atebwyd gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Huw Irranca-Davies (Ogwr): Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o unrhyw oblygiadau i Gymru o'r cyhoeddiad diweddar gan Ysgrifennydd Tramor y DU ynghylch y bwriad i ddeddfu i newid telerau protocol Gogledd Iwerddon?

(5 munud)

4.

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.52

Gwnaeth Vikki Howells ddatganiad am -  Diwrnod Rhyngwladol Amgueddfeydd.

Gwnaeth Jane Dodds ddatganiad am -  Wythnos Gweithredu ar Ddementia.

Gwnaeth Tom Giffard ddatganiad am -  Wythnos Twristiaeth Cymru.

(60 munud)

5.

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: Adroddiad ar bolisïau morol Llywodraeth Cymru

NDM8003 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: ‘Adroddiad ar bolisïau morol Llywodraeth Cymru’, a osodwyd ar 22 Chwefror 2022.

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Mai 2022.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.57

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

6.

Dadl Plaid Cymru - Iechyd menywod

NDM8004 Sian Gwenllian (Arfon)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn gresynu at y diffyg sôn am iechyd menywod – gan gynnwys darpariaeth mamolaeth – yng nghynllun hirdymor presennol Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, 'Cymru Iachach', er gwaethaf y nod a ddatganwyd o fod yn 'lywodraeth ffeministaidd'.

2. Yn nodi bod costau sylweddol yn gysylltiedig â chyflyrau iechyd sy'n effeithio'n llwyr ar fenywod a'r rhai a bennwyd yn fenywod adeg eu geni, megis endometriosis, y menopos, a chlefydau sy'n effeithio'n anghymesur ar fenywod, gan gynnwys clefydau awtoimiwnedd a chardiofasgwlaidd, osteoporosis, a dementia.

3. Yn nodi bod y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn nodi bod menywod yn byw llai o flynyddoedd mewn iechyd da na dynion a'u bod yn fwy tebygol o fod mewn tlodi, a bod angen cymorth cymdeithasol ac ariannol arnynt.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) datblygu Strategaeth Iechyd Menywod pwrpasol i Gymru a ddylai ganolbwyntio ar iechyd gydol oes menywod;

b) darparu gwasanaethau cyson o ansawdd uchel, gan gynnwys gofal trydyddol arbenigol, sydd ar gael i breswylwyr ar hyd a lled Cymru;

c) buddsoddi mewn ymchwil o ansawdd uchel i iechyd a thriniaethau menywod;

d) buddsoddi mewn gwell hyfforddiant ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yng Nghymru mewn meysydd sy'n ymwneud ag iechyd menywod.

Llywodraeth Cymru: Cymru Iachach: ein Cynllun Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod nad yw iechyd menywod yn cael ei grybwyll yn benodol yng nghynllun hirdymor presennol Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, 'Cymru Iachach'. Strategaeth lefel uchel yw hon sy'n nodi'r fframwaith a'r egwyddorion allweddol ar gyfer sicrhau bod pawb yng Nghymru yn cael gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac, o’r herwydd, nid yw'n canolbwyntio ar grwpiau na chyflyrau penodol.

2. Yn nodi bod costau sylweddol yn gysylltiedig â chyflyrau iechyd sy'n effeithio'n unig ar fenywod ac ar rai a bennwyd yn fenywod adeg eu geni, megis endometriosis, y menopos, a chlefydau sy'n effeithio'n anghymesur ar fenywod, gan gynnwys clefydau awtoimiwnedd a chardiofasgwlaidd, osteoporosis a dementia.

3. Yn nodi bod y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn nodi bod menywod yn byw llai o flynyddoedd mewn iechyd da na dynion a'u bod yn fwy tebygol o fod mewn tlodi, sy’n golygu bod angen cymorth cymdeithasol ac ariannol arnynt.

4. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyhoeddi Datganiad Ansawdd a chynllun i’r GIG yn yr haf gan ganolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau cyson o ansawdd uchel ar draws holl feysydd iechyd menywod.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.40

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

24

0

25

49

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig. Felly, gwrthodwyd y cynnig.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

24

0

25

49

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Gan fod y Senedd wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliant i'r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.

(60 munud)

7.

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Iechyd meddwl plant a'r glasoed

NDM8005 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi effaith y pandemig COVID-19 ar iechyd meddwl plant a phobl ifanc.

2. Yn gresynu bod amseroedd aros iechyd meddwl plant a'r glasoed yn parhau i fod yn wael, gyda llai nag un o bob dau o bobl o dan 18 oed yn derbyn asesiad gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol o fewn 28 diwrnod i'w hatgyfeirio.

3. Yn mynegi ei phryder ynghylch nifer y plant a phobl ifanc o dan 18 oed sy'n cael eu cadw o dan adran 136.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cynnal adolygiad brys o hyfywedd gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed;

b) sicrhau bod gwasanaeth argyfwng 24 awr ar gael i blant a phobl ifanc ledled Cymru; ac

c) ystyried dichonoldeb agor uned anhwylderau bwyta yng Nghymru.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi effaith y pandemig ar iechyd meddwl a lles emosiynol plant a phobl ifanc.

2. Yn cydnabod effaith y pandemig ar amseroedd aros ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS).

3. Yn croesawu ffocws Llywodraeth Cymru ar helpu gwasanaethau i wella wrth iddynt adfer a gwaith parhaus gyda phartneriaid i atal dwysáu i argyfwng a darparu ymateb amlasiantaeth, priodol.

4. Yn nodi adolygiad Uned Gyflawni’r GIG o CAMHS, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ac y disgwylir ei adroddiad erbyn diwedd 2022.

5. Yn croesawu’r gwaith i barhau i gyflwyno 111, pwyso 2 ar gyfer iechyd meddwl i oedolion a phobl ifanc ledled Cymru.

6. Yn nodi ymgynghoriad presennol Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru ar Strategaeth Gwasanaeth Arbenigol Iechyd Meddwl ar gyfer Cymru, gyda rhanddeiliaid allweddol, sy’n cynnwys cwmpasu dichonoldeb Uned Anhwylderau Bwyta ar gyfer Cymru.

[Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol]

Gwelliant 2 Sian Gwenllian (Arfon)

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt (2) ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn nodi'r prosiect peilot arfaethedig i sefydlu cyfleusterau yn y gymuned, i bobl ifanc gael mynediad hawdd at gymorth iechyd meddwl a lles emosiynol, er mwyn cynnig ymyrraeth gynnar ac osgoi uwchgyfeirio, ac yn annog cyflwyno cyfleusterau ymyrraeth gynnar i Gymru gyfan.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.45

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM8005 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi effaith y pandemig COVID-19 ar iechyd meddwl plant a phobl ifanc.

2. Yn gresynu bod amseroedd aros iechyd meddwl plant a'r glasoed yn parhau i fod yn wael, gyda llai nag un o bob dau o bobl o dan 18 oed yn derbyn asesiad gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol o fewn 28 diwrnod i'w hatgyfeirio.

3. Yn mynegi ei phryder ynghylch nifer y plant a phobl ifanc o dan 18 oed sy'n cael eu cadw o dan adran 136.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cynnal adolygiad brys o hyfywedd gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed;

b) sicrhau bod gwasanaeth argyfwng 24 awr ar gael i blant a phobl ifanc ledled Cymru; ac

c) ystyried dichonoldeb agor uned anhwylderau bwyta yng Nghymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

24

0

25

49

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig. Felly, gwrthodwyd y cynnig.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi effaith y pandemig ar iechyd meddwl a lles emosiynol plant a phobl ifanc.

2. Yn cydnabod effaith y pandemig ar amseroedd aros ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS).

3. Yn croesawu ffocws Llywodraeth Cymru ar helpu gwasanaethau i wella wrth iddynt adfer a gwaith parhaus gyda phartneriaid i atal dwysáu i argyfwng a darparu ymateb amlasiantaeth, priodol.

4. Yn nodi adolygiad Uned Gyflawni’r GIG o CAMHS, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ac y disgwylir ei adroddiad erbyn diwedd 2022.

5. Yn croesawu’r gwaith i barhau i gyflwyno 111, pwyso 2 ar gyfer iechyd meddwl i oedolion a phobl ifanc ledled Cymru.

6. Yn nodi ymgynghoriad presennol Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru ar Strategaeth Gwasanaeth Arbenigol Iechyd Meddwl ar gyfer Cymru, gyda rhanddeiliaid allweddol, sy’n cynnwys cwmpasu dichonoldeb Uned Anhwylderau Bwyta ar gyfer Cymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

24

0

25

49

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Gwelliant 2 Sian Gwenllian (Arfon)

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt (2) ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn nodi'r prosiect peilot arfaethedig i sefydlu cyfleusterau yn y gymuned, i bobl ifanc gael mynediad hawdd at gymorth iechyd meddwl a lles emosiynol, er mwyn cynnig ymyrraeth gynnar ac osgoi uwchgyfeirio, ac yn annog cyflwyno cyfleusterau ymyrraeth gynnar i Gymru gyfan.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

48

0

0

48

Derbyniwyd gwelliant 2.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

NDM8005 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi effaith y pandemig COVID-19 ar iechyd meddwl plant a phobl ifanc.

2. Yn gresynu bod amseroedd aros iechyd meddwl plant a'r glasoed yn parhau i fod yn wael, gyda llai nag un o bob dau o bobl o dan 18 oed yn derbyn asesiad gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol o fewn 28 diwrnod i'w hatgyfeirio.

3. Yn nodi'r prosiect peilot arfaethedig i sefydlu cyfleusterau yn y gymuned, i bobl ifanc gael mynediad hawdd at gymorth iechyd meddwl a lles emosiynol, er mwyn cynnig ymyrraeth gynnar ac osgoi uwchgyfeirio, ac yn annog cyflwyno cyfleusterau ymyrraeth gynnar i Gymru gyfan.

4. Yn mynegi ei phryder ynghylch nifer y plant a phobl ifanc o dan 18 oed sy'n cael eu cadw o dan adran 136.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cynnal adolygiad brys o hyfywedd gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed;

b) sicrhau bod gwasanaeth argyfwng 24 awr ar gael i blant a phobl ifanc ledled Cymru; ac

c) ystyried dichonoldeb agor uned anhwylderau bwyta yng Nghymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

23

48

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 18.40 cafodd y trafodion eu hatal dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio.

8.

Cyfnod Pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.43

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol:

(30 munud)

9.

Dadl Fer

NDM8002 Gareth Davies (Dyffryn Clwyd)

Gwella mynediad at ofal iechyd

Cofnodion:

The item started at 18.49

NDM8002 Gareth Davies (Vale of Clwyd)

Improving access to healthcare