Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 70
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 11/05/2022 - Y Cyfarfod Llawn
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai
Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 4 a 6 gan y Dirprwy Weinidog Iechyd
Meddwl a Llesiant ac atebwyd cwestiwn 8 gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau
Cymdeithasol. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r
Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog yr Economi Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.20 Gofynnwyd
yr 11 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 1 ac 8 eu grwpio i’w hateb gyda’i gilydd.
Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ddirprwy Weinidog y
Celfyddydau a Chwaraeon ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(0 munud) |
Cwestiynau Amserol Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol Cofnodion: Ni
dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol. |
|||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.05 Gwnaeth
Sioned Williams ddatganiad am - Dathlu deng-mlwyddiant y Coleg Cymraeg
Cenedlaethol. Gwnaeth
Cefin Campbell ddatganiad am - Digwyddiad Chwaraeon Amrywiol Addysg Bellach
Pen-bre ar 11 Mai. |
|||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig i ethol Aelod i bwyllgor Dechreuodd yr eitem am 15.08 NNDM8000 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn
ethol Rhys ab Owen (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a
Gweinyddiaeth Gyhoeddus yn lle Cefin Campbell (Plaid Cymru). Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Yr Holodomor NDM7994 Alun
Davies (Blaenau Gwent) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi bod 90 mlynedd eleni ers yr Holodomor: y newyn
a laddodd tua 4-6 miliwn o bobl yn Wcráin dros 1932/33. 2. Yn nodi ymhellach bod y newyn hwn wedi digwydd o
ganlyniad i weithredoedd a pholisïau bwriadol yr Undeb Sofietaidd. 3. Yn mynegi ei chydymdeimlad ac yn estyn ei
chydgefnogaeth i bobl Wcráin ar ran pobl Cymru. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gychwyn rhaglen goffáu i
gofio dioddefwyr yr Holodomor ac i godi ymwybyddiaeth o ddioddefaint pobl
Wcráin. Cyd-gyflwynwyr Jane Dodds
(Canolbarth a Gorllewin Cymru) Samuel Kurtz
(Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro) Cefnogwyr Janet
Finch-Saunders (Aberconwy) Jenny Rathbone
(Canol Caerdydd) Mark Isherwood
(Gogledd Cymru) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.08 NDM7994 Alun Davies (Blaenau
Gwent) Cynnig
bod y Senedd: 1.
Yn nodi bod 90 mlynedd eleni ers yr Holodomor: y newyn a laddodd tua 4-6
miliwn o bobl yn Wcráin dros 1932/33. 2.
Yn nodi ymhellach bod y newyn hwn wedi digwydd o ganlyniad i weithredoedd a
pholisïau bwriadol yr Undeb Sofietaidd. 3.
Yn mynegi ei chydymdeimlad ac yn estyn ei chydgefnogaeth i bobl Wcráin ar ran
pobl Cymru. 4.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gychwyn rhaglen goffáu i gofio dioddefwyr yr
Holodomor ac i godi ymwybyddiaeth o ddioddefaint pobl Wcráin. Cyd-gyflwynwyr Jane Dodds (Canolbarth a Gorllewin
Cymru) Samuel Kurtz (Gorllewin
Caerfyrddin a De Sir Benfro) Cefnogwyr Janet Finch-Saunders (Aberconwy) Jenny Rathbone (Canol Caerdydd) Mark Isherwood (Gogledd Cymru) Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Rhestrau aros y GIG NDM7997 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn credu nad oes gan Lywodraeth Cymru gynllun digonol
i fynd i'r afael ag ôl-groniadau rhestrau aros y GIG yng Nghymru. Cyflwynwyd y gwelliant
a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu’r cyfan a rhoi
yn ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi bod cynllun
Llywodraeth Cymru ar gyfer adfer gofal a gynlluniwyd, a gyhoeddwyd ar 26
Ebrill, wedi’i ddatblygu mewn partneriaeth â chlinigwyr i sicrhau bod
targedau’n heriol ond yn gyraeddadwy. 2. Yn nodi ymhellach y
bydd manylion gweithredol pellach ynghylch sut y bydd uchelgeisiau’r cynllun yn
cael eu cyflawni yn cael eu cynnwys yng nghynlluniau tymor canolig integredig y
GIG sydd wrthi’n cael eu hadolygu. Trawsnewid
a moderneiddio gofal a gynlluniwyd a lleihau rhestrau aros Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.39 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7997 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn credu nad oes gan
Lywodraeth Cymru gynllun digonol i fynd i'r afael ag ôl-groniadau rhestrau aros
y GIG yng Nghymru.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi bod cynllun
Llywodraeth Cymru ar gyfer adfer gofal a gynlluniwyd, a gyhoeddwyd ar 26
Ebrill, wedi’i ddatblygu mewn partneriaeth â chlinigwyr i sicrhau bod
targedau’n heriol ond yn gyraeddadwy. 2. Yn nodi ymhellach y bydd
manylion gweithredol pellach ynghylch sut y bydd uchelgeisiau’r cynllun yn cael
eu cyflawni yn cael eu cynnwys yng nghynlluniau tymor canolig integredig y GIG
sydd wrthi’n cael eu hadolygu. Trawsnewid a moderneiddio gofal a gynlluniwyd a lleihau
rhestrau aros Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM7997 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi bod cynllun
Llywodraeth Cymru ar gyfer adfer gofal a gynlluniwyd, a gyhoeddwyd ar 26
Ebrill, wedi’i ddatblygu mewn partneriaeth â chlinigwyr i sicrhau bod
targedau’n heriol ond yn gyraeddadwy. 2. Yn nodi ymhellach y bydd
manylion gweithredol pellach ynghylch sut y bydd uchelgeisiau’r cynllun yn cael
eu cyflawni yn cael eu cynnwys yng nghynlluniau tymor canolig integredig y GIG
sydd wrthi’n cael eu hadolygu. Trawsnewid a moderneiddio gofal a gynlluniwyd a lleihau
rhestrau aros
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru - Niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol NDM7996 Sian
Gwenllian (Arfon) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi y bu 438 o farwolaethau a oedd yn
gysylltiedig ag alcohol yng Nghymru yn 2020: y lefel uchaf mewn 20 mlynedd, a
chynnydd o 19 y cant ers 2019. 2. Yn gresynu at y cynnydd yn nifer y marwolaethau
sy'n gysylltiedig ag alcohol, derbyniadau i'r ysbyty sy'n gysylltiedig ag
alcohol, ac achosion o ddibyniaeth ar alcohol yng Nghymru, sy'n effeithio'n
anghymesur ar y rhai sydd o dan anfantais economaidd-gymdeithasol. 3. Yn nodi Cynllun Cyflawni ar gyfer Camddefnyddio
Sylweddau 2019 i 2022 Llywodraeth Cymru. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu ymrwymiad
cryfach, gwell adnoddau a thargedau mesuradwy i fynd i'r afael â niwed sy'n
gysylltiedig ag alcohol o fewn cynllun cyflawni newydd ar gyfer camddefnyddio
sylweddau o 2023 ymlaen. Cynllun Cyflawni ar gyfer
Camddefnyddio Sylweddau Llywodraeth Cymru 2019 i 2022 Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod y bu
438 o farwolaethau a oedd yn gysylltiedig ag alcohol yn benodol yng Nghymru yn
2020: y lefel uchaf mewn 20 mlynedd, a chynnydd o 19 y cant ers 2019. 2. Yn nodi lefelau
derbyniadau i’r ysbyty sy’n gysylltiedig ag alcohol ac effaith anghymesur
alcohol ar gymunedau difreintiedig. 3. Yn nodi Cynllun
Cyflawni ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau 2019 i 2022 Llywodraeth Cymru. 4. Yn croesawu
ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru ar gyfer camddefnyddio sylweddau drwy
ddiogelu a chlustnodi cyllid ar gyfer hynny yn y gyllideb, y cynnydd o £9m yn y
cyllid ar gyfer 2022/23 ac ymrwymiad i gynnydd pellach yn 2023/24 a 2024/25. [Os derbynnir
gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol] Gwelliant 2 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Ychwanegu pwynt newydd
ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny: Yn
pryderu bod nifer y triniaethau a ddechreuwyd ar gyfer camddefnyddio sylweddau
yng Nghymru wedi gostwng 15 y cant dros y pum mlynedd diwethaf. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.36 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7996 Sian Gwenllian (Arfon) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi y bu 438 o
farwolaethau a oedd yn gysylltiedig ag alcohol yng Nghymru yn 2020: y lefel
uchaf mewn 20 mlynedd, a chynnydd o 19 y cant ers 2019. 2. Yn gresynu at y cynnydd
yn nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig ag alcohol, derbyniadau i'r ysbyty
sy'n gysylltiedig ag alcohol, ac achosion o ddibyniaeth ar alcohol yng Nghymru,
sy'n effeithio'n anghymesur ar y rhai sydd o dan anfantais economaidd-gymdeithasol. 3. Yn nodi Cynllun Cyflawni ar
gyfer Camddefnyddio Sylweddau 2019 i 2022 Llywodraeth Cymru. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i ddarparu ymrwymiad cryfach, gwell adnoddau a thargedau mesuradwy i fynd i'r
afael â niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol o fewn cynllun cyflawni newydd ar
gyfer camddefnyddio sylweddau o 2023 ymlaen. Cynllun
Cyflawni ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau Llywodraeth Cymru 2019 i 2022
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod y bu 438 o farwolaethau a oedd yn
gysylltiedig ag alcohol yn benodol yng Nghymru yn 2020: y lefel uchaf mewn 20
mlynedd, a chynnydd o 19 y cant ers 2019. 2. Yn nodi lefelau derbyniadau i’r ysbyty sy’n
gysylltiedig ag alcohol ac effaith anghymesur alcohol ar gymunedau
difreintiedig. 3. Yn nodi Cynllun Cyflawni ar gyfer Camddefnyddio
Sylweddau 2019 i 2022 Llywodraeth Cymru. 4. Yn croesawu ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru ar
gyfer camddefnyddio sylweddau drwy ddiogelu a chlustnodi cyllid ar gyfer hynny
yn y gyllideb, y cynnydd o £9m yn y cyllid ar gyfer 2022/23 ac ymrwymiad i
gynnydd pellach yn 2023/24 a 2024/25. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd
gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM7996 Sian Gwenllian (Arfon) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod y bu 438 o farwolaethau a oedd yn
gysylltiedig ag alcohol yn benodol yng Nghymru yn 2020: y lefel uchaf mewn 20
mlynedd, a chynnydd o 19 y cant ers 2019. 2. Yn nodi lefelau derbyniadau i’r ysbyty sy’n
gysylltiedig ag alcohol ac effaith anghymesur alcohol ar gymunedau
difreintiedig. 3. Yn nodi Cynllun Cyflawni ar gyfer Camddefnyddio
Sylweddau 2019 i 2022 Llywodraeth Cymru. 4. Yn croesawu ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru ar
gyfer camddefnyddio sylweddau drwy ddiogelu a chlustnodi cyllid ar gyfer hynny
yn y gyllideb, y cynnydd o £9m yn y cyllid ar gyfer 2022/23 ac ymrwymiad i
gynnydd pellach yn 2023/24 a 2024/25.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro Dechreuodd yr eitem am 17.18 NNDM7999 Hefin David
(Caerffili) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8: Yn
atal dros dro Reol Sefydlog 12.73 i ganiatáu i NDM7998 gael ei ystyried yn y
Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 11 Mai 2022. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 17.19 cafodd y trafodion eu hatal
dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio. |
|||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 17.23 |
||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM7998
Hefin David (Caerffili) Llwybrau
o atgyfeiriadau i ddiagnosis a thu hwnt: yr heriau o fyw gydag awtistiaeth a
chyflyrau niwroamrywiol eraill Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.27 NDM7998 Hefin
David (Caerffili) Llwybrau o
atgyfeiriadau i ddiagnosis a thu hwnt: yr heriau o fyw gydag awtistiaeth a
chyflyrau niwroamrywiol eraill |