Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 60 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 16/03/2022 - Y Cyfarfod Llawn

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

(45 munud)

1.

Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

(30 munud)

2.

Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.25

Gofynnwyd y 6 chwestiwn. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

(30 munud)

3.

Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.56

Gofynnwyd y 5 cwestiwn.

(0 munud)

4.

Cwestiynau Amserol

Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol.

(5 munud)

5.

Datganiadau 90 eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.15

Gwnaeth Siân Gwenllian ddatganiad am - Llongyfarch Cwrs Sylfaen Celf Coleg Menai  ar ddathlu 40 mlynedd.

(30 munud)

6.

Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Janet Finch-Saunders (Aberconwy) - Cynllunio morol yng Nghymru

NDM7896 Janet Finch-Saunders (Aberconwy)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar gynllunio morol yng Nghymru.

2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:

a) gwneud darpariaethau ar gyfer polisïau a fyddai'n helpu i lywio lleoliad datblygiadau i ffwrdd o'r ardaloedd mwyaf sensitif o safbwynt ecolegol, lleihau'r effeithiau cronnol ar gynefinoedd a rhywogaethau sy'n agored i niwed, a rhoi mwy o sicrwydd i ddatblygwyr;

b) creu dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i hwyluso'r gwaith o greu cynllun datblygu morol cenedlaethol, a'i adolygu o leiaf unwaith ym mhob Senedd;

c) sefydlu meysydd adnoddau strategol ar gyfer ynni morol;

d) cyhoeddi strategaeth ar gyfer gwrthdroi dirywiad adar môr;

e) ei gwneud yn ofynnol i ffermydd gwynt ar y môr gynnwys adfer cynefinoedd gwely'r môr; strategaeth ar gyfer cynaeafu bwyd môr cynaliadwy o fewn ardal y fferm wynt a mesurau gwella amgylcheddol.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.17

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36

(60 munud)

7.

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Y Lluoedd Arfog

NDM7955 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod gwasanaeth ac aberth pobl o Gymru yn lluoedd arfog y DU.

2. Yn mynegi diolch i bersonél presennol a chyn-aelodau'r lluoedd arfog am eu cyfraniad i gymdeithas yng Nghymru.

3. Yn croesawu penodiad Cyrnol James Phillips fel Comisiynydd Cyn-filwyr cyntaf Cymru;

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r Comisiynydd Cyn-filwyr a Llywodraeth y DU i sicrhau bod cyfamod y lluoedd arfog yn cael ei gynnal yng Nghymru.

5. Yn credu y dylai adroddiadau blynyddol cyfamod lluoedd arfog Llywodraeth Cymru gael eu hystyried gan un o bwyllgorau priodol y Senedd.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.49

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

8.

Dadl Plaid Cymru - Yr argyfwng costau byw - yr effaith ar ysgolion a phlant

NDM7954 Sian Gwenllian (Arfon)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod yr argyfwng costau byw yn cael effaith benodol ar ysgolion a phlant.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu'r ymdrechion i sicrhau bod mesurau i gefnogi plant o gefndiroedd difreintiedig mewn ysgolion yn cael eu gweithredu mor effeithiol â phosibl drwy:

a) adolygu effeithiolrwydd canllawiau statudol ar bolisïau gwisg ysgol er mwyn sicrhau fforddiadwyedd cyson ledled Cymru;

b) cymryd camau brys i sicrhau nad yw dyled prydau ysgol yn cael effaith negyddol ar ddisgyblion;

c) gwella sut y cyfeirir at y grant datblygu disgyblion – mynediad; 

d) gweithio tuag at gofrestru pobl ar gyfer yr holl bethau y gallant hawlio amdanynt yn awtomatig i gynyddu'r nifer sy'n manteisio arnynt a sicrhau eu bod yn gwneud y gorau o incwm;

e) darparu cymorth pellach i ysgolion i ddarparu teithiau a gweithgareddau cynhwysol i bawb a sicrhau arferion cyson ledled Cymru.

Cyflwynwyd y gwelliant canlynol:

Gwelliant 1 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ôl is-bwynt 2(a) ac ailrifo yn unol â hynny:

'sicrhau nad yw symud i brydau ysgol am ddim cyffredinol yn cael effaith negyddol ar unrhyw blant yng Nghymru a fyddai wedi cael cyllid neu gymorth ychwanegol'

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.45

NDM7954 Sian Gwenllian (Arfon)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod yr argyfwng costau byw yn cael effaith benodol ar ysgolion a phlant.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu'r ymdrechion i sicrhau bod mesurau i gefnogi plant o gefndiroedd difreintiedig mewn ysgolion yn cael eu gweithredu mor effeithiol â phosibl drwy:

a) adolygu effeithiolrwydd canllawiau statudol ar bolisïau gwisg ysgol er mwyn sicrhau fforddiadwyedd cyson ledled Cymru;

b) cymryd camau brys i sicrhau nad yw dyled prydau ysgol yn cael effaith negyddol ar ddisgyblion;

c) gwella sut y cyfeirir at y grant datblygu disgyblionmynediad

d) gweithio tuag at gofrestru pobl ar gyfer yr holl bethau y gallant hawlio amdanynt yn awtomatig i gynyddu'r nifer sy'n manteisio arnynt a sicrhau eu bod yn gwneud y gorau o incwm;

e) darparu cymorth pellach i ysgolion i ddarparu teithiau a gweithgareddau cynhwysol i bawb a sicrhau arferion cyson ledled Cymru.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

9.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Nid oedd cyfnod pleidleisio.

(30 munud)

10.

Dadl Fer

NDM7947 Gareth Davies (Dyffryn Clwyd)

Adfer ein trefi glan môr i'w hen ogoniant: tasg angenrheidiol neu amhosibl?

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.35 

NDM7947Gareth Davies (Dyffryn Clwyd) 

Adfereintrefiglanmôri'w henogoniant:tasgangenrheidiolneuamhosibl?