Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 59 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 15/03/2022 - Y Cyfarfod Llawn

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

(30 munud)

2.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.30

(45 munud)

3.

Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol, rhaglen fuddsoddi 2022-23

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.45

(45 munud)

4.

Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Diweddariad ar y Strategaeth Ddigidol

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.22

Pwynt o Drefn

Cododd Janet Finch-Saunders Bwynt o Drefn i ofyn am gywiriad i’r cofnod mewn cysylltiad â sylwadau a wnaeth y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, bod yr Aelod yn landlord yn Llandudno. Dywedodd yr Aelod fod hyn yn anghywir a gwnaeth gais i’r Dirprwy Weinidog dynnu’r datganiad yn ôl a chywiro’r cofnod. Dywedodd y Dirprwy Weinidog y byddai’n adolygu’r Gofrestr ac yn cyhoeddi ymddiheuriad os oedd wedi camarwain y Senedd.

(0 munud)

5.

Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Datblygu Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU sy’n gyson â Sero Net - TYNNWYD YN ÔL

(30 munud)

6.

Dadl: Ail Gyllideb Atodol 2021 i 2022

NDM7926 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Ail Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2021-22 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ddydd Mawrth, 15 Chwefror 2022.

Troednodyn:

Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:

(i)            y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;

(ii)          yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;

(iii)         cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;

(iv)         cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau yr awdurdodir eu talu o'r Gronfa yn y cynnig;

(v)          cysoniad rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c); a

(vi)         manylion am unrhyw newidiadau i’r wybodaeth a ddarparwyd yn unol â Rheolau Sefydlog 20.7 – 20.7B ar gyfer y gyllideb ddrafft, fel y nodwyd yn y protocol y cytunwyd arno o dan Reol Sefydlog 20.1A.

Mae'r wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau:

- nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol.

Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Cyllid

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.56

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

25

0

52

Derbyniwyd y cynnig.

(15 munud)

7.

Dadl: Diwygiad i Setliad Llywodraeth Leol 2021-22

NDM7952 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo’r Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 1) 2021-22 (Setliad Terfynol - Cynghorau) diwygiedig. Gosodwyd copi o’r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Mawrth 2022.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.25

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7952 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo’r Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 1) 2021-22 (Setliad Terfynol - Cynghorau) diwygiedig. Gosodwyd copi o’r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Mawrth 2022.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

40

12

0

52

Derbyniwyd y cynnig.

(60 munud)

8.

Dadl: Egwyddorion Cyffredinol y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru)

NDM7950 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11: Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru).

Gosodwyd y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Senedd ar 1 Tachwedd 2021. Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) gerbron y Senedd ar 4 Mawrth 2022.

Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Adroddiad y Pwyllgor Cyllid
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.32

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(5 munud)

9.

Cynnig i gytuno ar y penderfyniad ariannol ynghylch y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru)

NDM7951 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.32

NDM7951 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 17.32 cafodd y trafodion eu hatal dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio.

10.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.36

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol: