Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 55 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 01/03/2022 - Y Cyfarfod Llawn

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

Cwestiwn Brys

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Atebwyd gan y Prif Weinidog

Jack Sargeant (Alyn and Deeside): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith ymosodiad Rwsia ar Wcráin ar ddinasyddion a busnesau Cymru?

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.03

Gofynnwyd y 5 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

(30 munud)

2.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.45

(45 munud)

3.

Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Pwysau Iach, Cymru Iach 2022-2024

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.03

(45 munud)

4.

Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Cynllun Plant a Phobl Ifanc

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.34

(45 munud)

5.

Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Urddas yn ystod mislif

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.03

(0 munud)

6.

Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Cynllun Gweithredu newydd ar Anableddau Dysgu - TYNNWYD YN ÔL

(45 munud)

7.

Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cymraeg 2050 – y camau nesaf

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.42

(20 munud)

8.

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2022

NDM7928 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2022 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Chwefror 2022.

Dogfennau Ategol
Memorandwm Esboniadol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

38

14

0

52

Derbyniwyd y cynnig.

(15 munud)

9.

Rheoliadau Wyau (Cymru) 2022

NDM7929 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Wyau (Cymru) 2022 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Chwefror 2022.

Dogfennau Ategol
Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.27

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(15 munud)

10.

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Rheoli Cymorthdaliadau

NDM7927 Rebecca Evans (Gŵyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Rheoli Cymorthdaliadau i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Gorffennaf 2021 a 6 Ionawr 2022, yn y drefn honno, yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Bil Rheoli Cymorthdaliadau (Saesneg yn unig)

Dogfennau Ategol
Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Memorandwm Rhif 2)

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.27

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

15

0

37

52

Gwrthodwyd y cynnig.

Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro

NNDM7937 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i) a'r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y datganiad a'r cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu NNDM7935 a NNDM7936 gael eu hystyried yn y Cyfarfod Llawn ar 1 Mawrth 2022.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

11.

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a'r Llysoedd - Cynnig 1

NNDM7935 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6 yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau ym Mil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd ynghylch 'Diddymu Deddf Crwydraeth 1824 etc' i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Mawrth 2022 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd (Saesneg yn unig) 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.45

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NNDM7935 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6 yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau ym Mil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd ynghylch 'Diddymu Deddf Crwydraeth 1824 etc' i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Mawrth 2022 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd (Saesneg yn unig) 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

40

1

11

52

Derbyniwyd y cynnig.

12.

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a'r Llysoedd - Cynnig 2

NNDM7936 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau ym Mil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd ynghylch 'Gosod amodau ar orymdeithiau cyhoeddus', 'Gosod amodau ar gynulliadau cyhoeddus', 'Gosod amodau ar brotestiadau un person', a 'Gorchmynion Carlam i Ddiogelu Mannau Cyhoeddus', i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Mawrth 2022 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd (Saesneg yn unig) 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.45

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NNDM7936 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau ym Mil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd ynghylch 'Gosod amodau ar orymdeithiau cyhoeddus', 'Gosod amodau ar gynulliadau cyhoeddus', 'Gosod amodau ar brotestiadau un person', a 'Gorchmynion Carlam i Ddiogelu Mannau Cyhoeddus', i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Mawrth 2022 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd (Saesneg yn unig) 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

15

0

37

52

Derbyniwyd y cynnig.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 18.06 cafodd y trafodion eu hatal dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio.

13.

Cyfnod Pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.10

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol: