Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 52
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 09/02/2022 - Y Cyfarfod Llawn
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhaliwyd y cyfarfod
hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno
drwy gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau
i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 5, 6 ac 8 gan y Dirprwy Weinidog
Partneriaeth Gymdeithasol. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 1. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.19 Gofynnwyd
cwestiynau 1–8 a 10. Cafodd cwestiynau 1–4 eu grwpio i’w hateb gyda’i gilydd.
Tynnwyd cwestiwn 9 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog ar ôl y cwestiynau a gafodd eu
grwpio. |
|||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.05 Gofynnwyd
y 2 gwestiwn cyntaf. Tynnwyd cwestiwn 3 yn ôl. |
|||||||||||||||||||||||||
(0 munud) |
Cwestiynau Amserol Ni dderbyniwyd
unrhyw Gwestiynau Amserol Cofnodion: Ni
dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol. |
|||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.10 Gwnaeth
Jack Sargeant ddatganiad ar Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 15.12 cafodd y cyfarfod ei atal dros
dro gan y Dirprwy Lywydd. |
|||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Mabon ap Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd) - Rheolaethau rhent NDM7831Mabon
ap Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd) Cynnig bod y Senedd: 1.
Yn nodi cynnig ar gyfer Bil
ar reolaethau rhent. 2.
Yn nodi mai diben y Bil hwn
fyddai: a)
helpu i fynd
i'r afael â rhai o effeithiau mwy difrifol argyfwng
tai Cymru, sy'n effeithio ar dros filiwn
o bobl ledled y wlad; b)
lliniaru cynnydd sylweddol mewn rhent yn y dyfodol,
fel y cynnydd a welwyd yn y sector rhentu dros y 12 mis diwethaf; c)
cyflwyno system sy'n cyfyngu ar renti
a chynnydd mewn rhent i lefelau
fforddiadwy a ffactorau lleol, gan gau'r
bwlch rhwng twf cyflogau a chostau byw. Cefnogwyr Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.24 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod
Pleidleisio. NDM7831 Mabon
ap Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar reolaethau
rhent. 2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai: a) helpu i fynd i'r afael â rhai o effeithiau
mwy difrifol argyfwng tai Cymru, sy'n effeithio ar dros filiwn o bobl ledled y
wlad; b) lliniaru cynnydd sylweddol mewn rhent yn y
dyfodol, fel y cynnydd a welwyd yn y sector rhentu dros y 12 mis diwethaf; c) cyflwyno system sy'n cyfyngu ar renti a
chynnydd mewn rhent i lefelau fforddiadwy a ffactorau lleol, gan gau'r bwlch
rhwng twf cyflogau a chostau byw. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Llywydd ei
phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig. Felly, gwrthodwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Gwasanaethau canser NDM7911 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi cynllun adfer yn dilyn COVID-19 GIG Cymru a gyhoeddwyd
ar ddiwedd y tymor seneddol diwethaf. 2. Yn mynegi pryder: a) bod rhestrau aros yng Nghymru yn parhau i gynyddu,
gyda bron i un o bob tri chlaf yn aros mwy na blwyddyn am driniaeth; b) mai Cymru fydd yr unig wlad yn y Deyrnas Unedig heb
strategaeth canser cyn bo hir. 3. Yn nodi pryder pellach ynghylch adroddiadau gan
Gyfarwyddwr Clinigol Canser Cenedlaethol Cymru y bydd yn rhaid i wasanaethau
weithio gyda 120 i 130 y cant o'r capasiti blaenorol
i ddelio â niferoedd cynyddol o gleifion canser. 4. Yn mynegi siom nad yw datganiad ansawdd ar ganser 2021
yn cynnwys manylion a'i fod ond yn gosod safonau gofynnol ar gyfer gwasanaethau
canser. 5. Yn annog Llywodraeth Cymru i: a) cyhoeddi cynllun recriwtio a chadw'r gweithlu ar frys
ar gyfer arbenigwyr canser; b) cyhoeddi strategaeth ganser lawn a fydd yn nodi sut y
bydd Cymru'n mynd i'r afael â chanser dros y pum mlynedd nesaf; c) cefnogi cleifion canser drwy eu triniaeth drwy, er
enghraifft, gyflwyno gofal deintyddol am ddim yn ystod radiotherapi a chemotherapi. Iechyd a Gofal
Cymdeithasol yng Nghymru – COVID-19: Edrych tua’r dyfodol Datganiad ansawdd ar gyfer
canser 2021 Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley
Griffiths (Wrecsam) Dileu popeth
ar ôl is-bwynt 2(a) a rhoi pwynt newydd yn
ei le: Yn nodi: a)
y dull gweithredu a nodir yn y cynllun Cymru Iachach, sy’n cynnwys
cyflwyno datganiadau ansawdd ar gyfer
datblygu gwasanaethau clinigol; b)
y cafodd dull gweithredu
Llywodraeth Cymru i wella canlyniadau canser ei gyhoeddi ar
22 Mawrth 2021 ar ffurf datganiad ansawdd; c)
y cafodd dogfen Llywodraeth
Cymru, Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru – COVID-19: Edrych tua’r dyfodol, a oedd yn cynnwys
canser, ei gyhoeddi ar 22 Mawrth 2021; d)
bod bron i £250 miliwn yn ystod
y flwyddyn yn cael ei fuddsoddi
yn adferiad gwasanaethau GIG, gan gynnwys canser; e)
bod yr ystadegau canser swyddogol diweddaraf yn dangos bod nifer
y cleifion sydd wedi cael diagnosis newydd o ganser ac a ddechreuodd eu triniaeth ddiffiniol gyntaf wedi cynyddu
i’r lefel uchaf ers i
ddata cymaradwy ddechrau cael eu
casglu ym mis Mehefin 2019; f)
bod ehangu lleoedd hyfforddi GIG yn cynnwys pedair swydd hyfforddiant uwch ychwanegol ar gyfer oncoleg
glinigol a thair swydd hyfforddiant uwch ychwanegol ar gyfer oncoleg
feddygol bob blwyddyn am
bum mlynedd; g)
y bydd byrddau iechyd yn canolbwyntio ar adferiad gwasanaethau
canser yn eu Cynlluniau Tymor
Canolig Integredig. Y Datganiad
Ansawdd ar gyfer Canser 2021 Gwella iechyd a gofal cymdeithasol (COVID-19: edrych tua’r dyfodol) [Os derbynnir gwelliant
1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol] Gwelliant 2 Sian
Gwenllian (Arfon) Ychwanegu is-bwynt
newydd ar ddiwedd pwynt 5: 'cwblhau'r broses o gyflwyno canolfannau diagnostig amlddisgyblaethol ledled Cymru fel mater o flaenoriaeth' Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.55 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7911 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi cynllun adfer yn dilyn COVID-19 GIG Cymru a gyhoeddwyd ar
ddiwedd y tymor seneddol diwethaf. 2. Yn mynegi pryder: a) bod rhestrau aros yng Nghymru yn parhau i gynyddu, gyda bron i un o
bob tri chlaf yn aros mwy na blwyddyn am driniaeth; b) mai Cymru fydd yr unig wlad yn y Deyrnas Unedig heb strategaeth canser
cyn bo hir. 3. Yn nodi pryder pellach ynghylch adroddiadau gan Gyfarwyddwr Clinigol
Canser Cenedlaethol Cymru y bydd yn rhaid i wasanaethau weithio gyda 120 i 130
y cant o'r capasiti blaenorol i ddelio â niferoedd cynyddol o gleifion canser. 4. Yn mynegi siom nad yw datganiad ansawdd ar ganser 2021 yn cynnwys
manylion a'i fod ond yn gosod safonau gofynnol ar gyfer gwasanaethau canser. 5. Yn annog Llywodraeth Cymru i: a) cyhoeddi cynllun recriwtio a chadw'r gweithlu ar frys ar gyfer
arbenigwyr canser; b) cyhoeddi strategaeth ganser lawn a fydd yn nodi sut y bydd Cymru'n
mynd i'r afael â chanser dros y pum mlynedd nesaf; c) cefnogi cleifion canser drwy eu triniaeth drwy, er enghraifft,
gyflwyno gofal deintyddol am ddim yn ystod radiotherapi a chemotherapi. Iechyd a Gofal
Cymdeithasol yng Nghymru – COVID-19: Edrych tua’r dyfodol Datganiad ansawdd ar gyfer
canser 2021
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu popeth ar ôl
is-bwynt 2(a) a rhoi pwynt newydd yn ei le: Yn nodi: a) y dull gweithredu a
nodir yn y cynllun Cymru Iachach, sy’n cynnwys cyflwyno datganiadau ansawdd ar
gyfer datblygu gwasanaethau clinigol; b) y cafodd dull gweithredu
Llywodraeth Cymru i wella canlyniadau canser ei gyhoeddi ar 22 Mawrth 2021 ar
ffurf datganiad ansawdd; c) y cafodd dogfen
Llywodraeth Cymru, Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru – COVID-19: Edrych
tua’r dyfodol, a oedd yn cynnwys canser, ei gyhoeddi ar 22 Mawrth 2021; d) bod bron i £250
miliwn yn ystod y flwyddyn yn cael ei fuddsoddi yn adferiad gwasanaethau GIG,
gan gynnwys canser; e) bod yr ystadegau
canser swyddogol diweddaraf yn dangos bod nifer y cleifion sydd wedi cael
diagnosis newydd o ganser ac a ddechreuodd eu triniaeth ddiffiniol gyntaf wedi
cynyddu i’r lefel uchaf ers i ddata cymaradwy ddechrau cael eu casglu ym mis
Mehefin 2019; f) bod ehangu lleoedd
hyfforddi GIG yn cynnwys pedair swydd hyfforddiant uwch ychwanegol ar gyfer
oncoleg glinigol a thair swydd hyfforddiant uwch ychwanegol ar gyfer oncoleg
feddygol bob blwyddyn am bum mlynedd; g) y bydd byrddau iechyd
yn canolbwyntio ar adferiad gwasanaethau canser yn eu Cynlluniau Tymor Canolig
Integredig. Y Datganiad Ansawdd ar
gyfer Canser 2021 Gwella iechyd a gofal
cymdeithasol (COVID-19: edrych tua’r dyfodol) Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
Fel sy’n ofynnol
o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy
bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2. Sian Gwenllian (Arfon) Ychwanegu is-bwynt
newydd ar ddiwedd pwynt 5: 'cwblhau'r broses o
gyflwyno canolfannau diagnostig amlddisgyblaethol ledled Cymru fel mater o
flaenoriaeth' Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 2:
Fel sy’n ofynnol
o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy
bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd gwelliant 2. Gan fod y Senedd wedi
gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliannau i'r cynnig,
gwrthodwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru - Adnoddau Cymru NDM7912 Siân
Gwenllian (Arfon) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi'r enghreifftiau niferus o gyfoeth sy'n deillio
o adnoddau Cymru yn cael ei fwynhau y tu allan i Gymru, fel asedau Ystâd y
Goron, ynni adnewyddadwy, cynhyrchu bwyd a phlannu coed ar dir amaethyddol. 2. Yn cytuno: a) bod hyn yn cynrychioli tuedd hanesyddol a chyfoes o
echdynnu a manteisio ar adnoddau Cymru gan fuddiannau allanol; b) y dylid cadw'r asedau hyn, a'r manteision sy'n deillio
ohonynt, yng Nghymru, er budd pawb sy'n byw yng Nghymru. Cyflwynwyd
y gwelliant a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley
Griffiths (Wrecsam) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cytuno mai'r ffordd orau o sicrhau'r manteision
mwyaf posibl o adnoddau naturiol yng Nghymru yw mewn Teyrnas Unedig ddiwygiedig
lle mae penderfyniadau sy'n effeithio ar Gymru yn cael eu gwneud yng Nghymru. 2. Yn cydnabod ein cyfrifoldeb byd-eang i reoli adnoddau
naturiol yn gynaliadwy, gan weithio mewn cymunedau lleol a chyda phartneriaid
rhyngwladol. 3. Yn gresynu at gamreolaeth ddi-drefn Llywodraeth y DU
ar ein perthynas â'r Undeb Ewropeaidd ac effaith hynny ar sut y mae’r
manteision economaidd sy’n gysylltiedig ag adnoddau naturiol yng Nghymru yn
cael eu gwasgaru, gan gynnwys yr effaith ar gymunedau gwledig a'n hymateb i'r
argyfwng hinsawdd. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.39 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr eitem hon tan y
Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7912 Siân Gwenllian (Arfon) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi'r enghreifftiau niferus o gyfoeth
sy'n deillio o adnoddau Cymru yn cael ei fwynhau y tu allan i Gymru, fel asedau
Ystâd y Goron, ynni adnewyddadwy, cynhyrchu bwyd a phlannu coed ar dir
amaethyddol. 2. Yn cytuno: a) bod hyn yn cynrychioli tuedd hanesyddol a
chyfoes o echdynnu a manteisio ar adnoddau Cymru gan fuddiannau allanol; b) y dylid cadw'r asedau hyn, a'r manteision
sy'n deillio ohonynt, yng Nghymru, er budd pawb sy'n byw yng Nghymru.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliant a ganlyn: Gwelliant 1. Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cytuno mai'r ffordd orau o sicrhau'r manteision mwyaf posibl o
adnoddau naturiol yng Nghymru yw mewn Teyrnas Unedig ddiwygiedig lle mae
penderfyniadau sy'n effeithio ar Gymru yn cael eu gwneud yng Nghymru. 2. Yn cydnabod ein cyfrifoldeb byd-eang i reoli adnoddau naturiol yn
gynaliadwy, gan weithio mewn cymunedau lleol a chyda phartneriaid rhyngwladol. 3. Yn gresynu at gamreolaeth ddi-drefn Llywodraeth y DU ar ein perthynas
â'r Undeb Ewropeaidd ac effaith hynny ar sut y mae’r manteision economaidd sy’n
gysylltiedig ag adnoddau naturiol yng Nghymru yn cael eu gwasgaru, gan gynnwys
yr effaith ar gymunedau gwledig a'n hymateb i'r argyfwng hinsawdd. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Llywydd ei
phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y
gwelliant. Gan fod y Senedd wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod
y gwelliant i'r cynnig, gwrthodwyd y cynnig. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 17.22 cafodd y trafodion eu hatal
dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio. |
|||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.26 |
||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM7910 Mabon
ap Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd) Po
fwyaf rwy’n ymarfer, y mwyaf lwcus yr ydw i: cyfleusterau chwaraeon yn ein cymunedau
Gwledig Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.33 NDM7910 Mabon ap Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd) Po
fwyaf rwy’n ymarfer, y mwyaf lwcus yr ydw i: cyfleusterau chwaraeon yn ein
cymunedau Gwledig |