Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 44(v4) 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 12/01/2022 - Y Cyfarfod Llawn

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf rhithwir, gyda’r Aelodau yn ymuno drwy gyswllt fideo.

Datganiad gan y Llywydd

Ar ran yr Aelodau, dymunodd y Llywydd adferiad buan i Seth Burke, Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru, a fu yn yr ysbyty dros y Nadolig, yn gwella o COVID-19.

(45 munud)

1.

Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.31

Gofynnwyd cwestiynau 1-6, 8 a 9. Atebwyd cwestiynau 1 a 9 gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol. Tynnwyd cwestiwn 7 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

(45 munud)

2.

Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.28

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

(5 munud)

3.

Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.22

Gofynnwyd y cwestiwn.

(0 munud)

4.

Cwestiynau Amserol

Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol.

(5 munud)

5.

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.26

Gwnaeth Mick Antoniw ddatganiad i dalu teyrnged i Hanef Bhamjee OBE, yr ymgyrchydd gwrth-apartheid o Gaerdydd.

Gwnaeth Vikki Howells ddatganiad i dalu teyrnged i Ron Jones, y pencampwr chwaraeon o Gwmaman.

Gwnaeth Sioned Williamsddatganiad i dalu teyrnged i Mike Jones, yr artist o Bontardawe.

(5 munud)

Cynnig i ethol Aelod i bwyllgor

Dechreuodd yr eitem am 15.32

NDM7885 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Sioned Williams (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn lle Siân Gwenllian (Plaid Cymru).

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

6.

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: Dyled a'r pandemig

NDM7879 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, Dyled a'r pandemig, a osodwyd ar 15 Tachwedd 2021.

Dogfen ategol
Ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad – 6 Ionawr 2022

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.32

NDM7879 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, Dyled a’r Pandemig, a osodwyd ar 15 Tachwedd 2021.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

(60 munud)

7.

Dadl Plaid Cymru – Anghydraddoldebau iechyd

NDM7877 Siân Gwenllian (Arfon)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi'r anghydraddoldebau iechyd dwfn sy'n bodoli ar hyn o bryd yng Nghymru.

2. Yn nodi ymhellach, oherwydd yr anghydraddoldebau hyn, fod pandemig COVID-19 wedi cael effaith anghymesur ar lawer o unigolion, teuluoedd a chymunedau ledled Cymru.

3. Yn galw am strategaeth a chynllun gweithredu i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru.

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1. Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn cydnabod bod amryfal resymau yn achosi anghydraddoldeb iechyd a bod hyn yn gofyn am ddull gweithredu integredig a thrawslywodraethol.

Yn cydnabod ymhellach yr ymrwymiadau sylweddol a nodir yn y Rhaglen Lywodraethu ar draws pob maes o weithgarwch y llywodraeth sydd wedi’u cynllunio i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru.

Rhaglen lywodraethu

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.25

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM7877 Siân Gwenllian (Arfon)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi'r anghydraddoldebau iechyd dwfn sy'n bodoli ar hyn o bryd yng Nghymru.

2. Yn nodi ymhellach, oherwydd yr anghydraddoldebau hyn, fod pandemig COVID-19 wedi cael effaith anghymesur ar lawer o unigolion, teuluoedd a chymunedau ledled Cymru.

3. Yn galw am strategaeth a chynllun gweithredu i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

28

56

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig. Felly, gwrthodwyd y cynnig.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1. Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn cydnabod bod amryfal resymau yn achosi anghydraddoldeb iechyd a bod hyn yn gofyn am ddull gweithredu integredig a thrawslywodraethol.

Yn cydnabod ymhellach yr ymrwymiadau sylweddol a nodir yn y Rhaglen Lywodraethu ar draws pob maes o weithgarwch y llywodraeth sydd wedi’u cynllunio i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru.

Rhaglen Lywodraethu

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

1

26

54

Derbyniwyd gwelliant 1.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

NDM7877 Siân Gwenllian (Arfon)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi'r anghydraddoldebau iechyd dwfn sy'n bodoli ar hyn o bryd yng Nghymru.

2. Yn nodi ymhellach, oherwydd yr anghydraddoldebau hyn, fod pandemig COVID-19 wedi cael effaith anghymesur ar lawer o unigolion, teuluoedd a chymunedau ledled Cymru.

3. Yn cydnabod bod amryfal resymau yn achosi anghydraddoldeb iechyd a bod hyn yn gofyn am ddull gweithredu integredig a thrawslywodraethol.

4. Yn cydnabod ymhellach yr ymrwymiadau sylweddol a nodir yn y Rhaglen Lywodraethu ar draws pob maes o weithgarwch y llywodraeth sydd wedi’u cynllunio i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru.

Rhaglen lywodraethu

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

1

26

54

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 17.29 cafodd y trafodion eu hatal dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio.

8.

Cyfnod Pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.32

(30 munud)

9.

Dadl Fer

NDM7878 Mark Isherwood (Gogledd Cymru)

Pobl Fyddar Cymru: Anghydraddoldeb Cudd

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.36

NDM7878 Mark Isherwood (Gogledd Cymru)

Pobl Fyddar Cymru: Anghydraddoldeb Cudd

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol: