Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 41(v4)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 15/12/2021 - Y Cyfarfod Llawn
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn mewn fformat rhithwir, gydag
Aelodau yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.21 Gofynnwyd
y 10 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||
(0 munud) |
Cwestiynau Amserol Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol. Cofnodion: Ni
dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol. |
|||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.09 Gwnaeth
Elin Jones ddatganiad ar ganmlwyddiant Geiriadur Prifysgol Cymru. Gwnaeth
Altaf Hussain ddatganiad i gofio’r Athro Robert Owen OBE, llawfeddyg
orthopaedig Cymreig rhagorol a anwyd 100 mlynedd yn ôl ar 21 Rhagfyr 1921 yn
Chwilog. Gwnaeth
Lesley Griffiths ddatganiad ar Wŷl yr Angylion yn Eglwys San Silyn,
Wrecsam. Gwnaeth
Peter Fox ddatganiad i nodi cyfraniad Tony Griffiths, fu’n aelod o Gyngor Cymuned
Porthsgiwed am 52 mlynedd cyn ymddeol yr wythnos flaenorol. |
|||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Trothwy llofnodion deisebau Dechreuodd yr eitem am 15.18 NDM7868 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2: 1.
Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Trothwy
llofnodion deisebau’ a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Rhagfyr 2021; ac 2.
Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 23, fel y nodir yn Atodiad A
adroddiad y Pwyllgor Busnes. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) – Y broses cydsyniad deddfwriaethol NDM7843 Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi'r cynnydd yn nifer y cynigion cydsyniad
deddfwriaethol sy'n cael eu cyflwyno i'r Senedd. 2. Yn cydnabod bod hyn o ganlyniad i Weinidogion Cymru yn
ceisio defnyddio deddfwriaeth Senedd y DU i roi deddfwriaeth Llywodraeth Cymru
mewn grym a Llywodraeth y DU yn ceisio diystyru ein democratiaeth, erydu'r
setliad datganoli a lleihau pwerau'r Senedd. 3. Yn credu y dylai'r Senedd roi holl ddeddfwriaeth
sylfaenol sylweddol ac arwyddocaol mewn grym yn hytrach na gwneud hynny drwy'r
broses cynigion cydsyniad deddfwriaethol. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) weithio gyda Phwyllgor Busnes y Senedd i adolygu'r
broses ar gyfer cynigion cydsyniad deddfwriaethol er mwyn sicrhau ei bod yn
addas i'r diben; b) egluro egwyddorion pryd y defnyddir cynigion cydsyniad
deddfwriaethol; c) gweithio gyda'r Llywydd i ofyn am adolygiad brys o'r
effaith ar y setliad datganoli a phwerau'r Senedd o ganlyniad i ddeddfwriaeth y
DU. Cefnogwyr: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.18 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM7843 Cynnig
bod y Senedd: 1.
Yn nodi'r cynnydd yn nifer y cynigion cydsyniad deddfwriaethol sy'n cael eu
cyflwyno i'r Senedd. 2.
Yn cydnabod bod hyn o ganlyniad i Weinidogion Cymru yn ceisio defnyddio
deddfwriaeth Senedd y DU i roi deddfwriaeth Llywodraeth Cymru mewn grym a
Llywodraeth y DU yn ceisio diystyru ein democratiaeth, erydu'r setliad
datganoli a lleihau pwerau'r Senedd. 3.
Yn credu y dylai'r Senedd roi holl ddeddfwriaeth sylfaenol sylweddol ac
arwyddocaol mewn grym yn hytrach na gwneud hynny drwy'r broses cynigion
cydsyniad deddfwriaethol. 4.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a)
weithio gyda Phwyllgor Busnes y Senedd i adolygu'r broses ar gyfer cynigion
cydsyniad deddfwriaethol er mwyn sicrhau ei bod yn addas i'r diben; b)
egluro egwyddorion pryd y defnyddir cynigion cydsyniad deddfwriaethol; c)
gweithio gyda'r Llywydd i ofyn am adolygiad brys o'r effaith ar y setliad
datganoli a phwerau'r Senedd o ganlyniad i ddeddfwriaeth y DU. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar y Cytundeb Cysylltiadau Rhyng-sefydliadol rhwng Senedd Cymru a Llywodraeth Cymru NDM7870
Huw
Irranca-Davies (Ogwr) Cynnig
bod yn Senedd: Yn
nodi adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, Cytundeb
Cysylltiadau Rhyngsefydliadol rhwng Senedd Cymru a Llywodraeth Cymru, a osodwyd yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 18 Tachwedd 2021. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.07 NDM7870 Huw
Irranca-Davies (Ogwr) Cynnig
bod yn Senedd: Yn
nodi adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, Cytundeb
Cysylltiadau Rhyngsefydliadol rhwng Senedd Cymru a Llywodraeth Cymru, a osodwyd yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 18 Tachwedd 2021. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig – Ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i bandemig COVID-19 yng Nghymru NDM7871
Darren Millar
(Gorllewin Clwyd) Cynnig
bod y Senedd: 1.
Yn cefnogi ymgyrch COVID-19 Bereaved Families for Justice Cymru ar gyfer
ymchwiliad cyhoeddus sy'n benodol i Gymru i'r ffordd y mae Llywodraeth
Cymru wedi ymdrin â phandemig COVID-19. 2.
Yn croesawu galwadau Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru am ymchwiliad COVID-19
sy'n benodol i Gymru. 3.
Yn nodi y bydd ymchwiliad COVID-19 a arweinir gan farnwr yn cael ei sefydlu
erbyn diwedd y flwyddyn yn yr Alban. 4.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i
bandemig COVID-19 yng Nghymru. Cyflwynwyd
y gwelliant a ganlyn: Gwelliant
1. Lesley
Griffiths (Wrecsam) Dileu
popeth a rhoi yn ei le: Cynnig
bod y Senedd: 1.
Yn nodi: a)
cyfarfodydd Prif Weinidog Cymru ag aelodau grŵp COVID-19 Bereaved Families
for Justice Cymru; b)
ymchwiliad ar draws y DU ynghylch y pandemig a fydd yn ystyried y
penderfyniadau a wnaed a’r camau a gafodd eu cymryd gan ac o fewn y pedair
gwlad; c)
bydd ymchwiliad COVID-19 o dan arweiniad barnwr yn cael ei sefydlu erbyn diwedd
y flwyddyn yn yr Alban. 2.
Yn croesawu’r sicrwydd gan y Prif Weinidog y bydd ymchwiliad y DU yn cynnwys
sylw priodol i Gymru. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.25 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr
eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7871 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cefnogi ymgyrch COVID-19
Bereaved Families for Justice Cymru ar gyfer ymchwiliad cyhoeddus sy'n benodol
i Gymru i'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi ymdrin â phandemig
COVID-19. 2. Yn croesawu galwadau
Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru am ymchwiliad COVID-19 sy'n benodol i Gymru. 3. Yn nodi y bydd ymchwiliad
COVID-19 a arweinir gan farnwr yn cael ei sefydlu erbyn diwedd y flwyddyn yn yr
Alban. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i gomisiynu ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i bandemig COVID-19 yng Nghymru.
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, fe
wnaeth y Llywydd arfer ei phleidlais fwrw i bleidleisio yn erbyn y cynnig.
Felly, gwrthodwyd y cynnig. Cyflwynwyd
y gwelliant a ganlyn: Gwelliant 1. Lesley
Griffiths (Wrecsam) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi: a) cyfarfodydd Prif Weinidog Cymru ag aelodau grŵp
COVID-19 Bereaved Families for Justice Cymru; b) ymchwiliad ar draws y DU ynghylch y pandemig a fydd yn
ystyried y penderfyniadau a wnaed a’r camau a gafodd eu cymryd gan ac o fewn y
pedair gwlad; c) bydd ymchwiliad COVID-19 o dan arweiniad barnwr yn
cael ei sefydlu erbyn diwedd y flwyddyn yn yr Alban. 2. Yn croesawu’r sicrwydd gan y Prif Weinidog y bydd
ymchwiliad y DU yn cynnwys sylw priodol i Gymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, fe
wnaeth y Llywydd arfer ei phleidlais fwrw i bleidleisio yn erbyn gwelliant 1.
Felly, gwrthodwyd gwelliant 1. Gan fod y Senedd wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod
y gwelliant i'r cynnig, gwrthodwyd y cynnig. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 17.19 cafodd y trafodion eu hatal
dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio. |
|||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.23 |
||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM7869
Mike Hedges
(Dwyrain Abertawe) Datblygu
economi dinas-ranbarth Bae Abertawe Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.27 NDM7869 Mike Hedges (Dwyrain Abertawe) Datblygu economi
dinas-ranbarth Bae Abertawe |