Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 34 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 23/11/2021 - Y Cyfarfod Llawn

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd cwestiynau 1-3 a 5-8. Tynnwyd cwestiwn 4 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

 

Pwynt o Drefn

Cododd Darren Millar Bwynt o Drefn ynghylch ateb a roddwyd gan y Prif Weinidog a gofynnodd i’r Prif Weinidog gywiro’r cofnod mewn cysylltiad â pharodrwydd arweinydd grŵp y Ceidwadwyr Cymreig i gwrdd i drafod cydweithredu mewn meysydd o ddiddordeb cyffredin. Dywedodd y Llywydd y dylai’r Prif Weinidog adolygu’r ohebiaeth berthnasol a chywiro’r Cofnod pe bai angen.

 

(30 munud)

2.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.28

 

(45 munud)

3.

Datganiad gan y Prif Weinidog: Uwchgynhadledd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig Yng Nghymru

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.45

 

(45 munud)

4.

Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Covid-19

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.19

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 15.52 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Dirprwy Lywydd.

 

(30 munud)

5.

Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Ail Gartrefi a Fforddiadwyedd

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.02

 

(30 munud)

6.

Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Y Cynllun Tai mewn Cymunedau Cymraeg

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.44.

 

(20 munud)

7.

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 20) 2021

NDM7838 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws)(Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 20) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Hydref 2021.

Dogfennau Ategol
Memorandwm Esboniadol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.13

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7838 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 20) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Hydref 2021.

Dogfennau Ategol
Memorandwm Esboniadol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

37

0

13

50

Derbyniwyd y cynnig.

 

(15 munud)

8.

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Ardrethu (Coronafeirws) ac Anghymhwyso Cyfarwyddwyr (Cwmniau a Ddiddymwyd)

NDM7837 Rebecca Evans (Gŵyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Ardrethu (Coronafeirws) ac Anghymhwyso Cyfarwyddwyr (Cwmniau a Ddiddymwyd), i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Medi 2021 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Bil Ardrethu (Coronafeirws) ac Anghymhwyso Cyfarwyddwyr (Cwmniau a Ddiddymwyd)

Dogfennau Ategol
Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.29

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7837 Rebecca Evans (Gŵyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Ardrethu (Coronafeirws) ac Anghymhwyso Cyfarwyddwyr (Cwmniau a Ddiddymwyd), i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Medi 2021 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Bil Ardrethu (Coronafeirws) ac Anghymhwyso Cyfarwyddwyr (Cwmniau a Ddiddymwyd)

Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

39

0

11

50

Derbyniwyd y cynnig.

 

(15 munud)

9.

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil y Lluoedd Arfog

NDM7836 Hannah Blythyn (Delyn)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau ym Mil y Lluoedd Arfog i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Mai 2021 a 30 Mehefin 2021, yn y drefn honno, yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Bil y Lluoedd Arfog

Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.47

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7836 Hannah Blythyn (Delyn)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau ym Mil y Lluoedd Arfog i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Mai 2021 a 30 Mehefin 2021, yn y drefn honno, yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Bil y Lluoedd Arfog

Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

39

0

11

50

Derbyniwyd y cynnig.

 

(60 munud)

10.

Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg 2020-21 ac ail adroddiad 5 mlynedd y Comisiynydd

NDM7835 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg (2020-21).

2. Yn nodi Adroddiad 5 mlynedd Comisiynydd y Gymraeg (2016-20).

Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg (2020-21)

Adroddiad 5 Comisiynydd y Gymraeg (2016-20)

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.56

NDM7835 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg (2020-21).

2. Yn nodi Adroddiad 5 mlynedd Comisiynydd y Gymraeg (2016-20).

Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg (2020-21)

Adroddiad 5 mlynedd Comisiynydd y Gymraeg (2016-20)

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

(30 munud)

11.

Dadl: Adroddiad Blynyddol Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru

NDM7834 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad blynyddol Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru ar weithrediad Tribiwnlysoedd Cymru dros flwyddyn ariannol 2020-2021.

Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru Trydydd Adroddiad Blynyddol 2020-2021

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.23

NDM7834 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad blynyddol Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru ar weithrediad Tribiwnlysoedd Cymru dros flwyddyn ariannol 2020-2021.

Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru - Trydydd Adroddiad Blynyddol 2020-2021

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 18.48 cafodd y trafodion eu hatal dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio.

 

12.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.44, canwyd y gloch a gohiriwyd y cyfarfod gan ailgynnull am 18.55 ar gyfer y cyfnod pleidleisio. 

Dechreuodd yr eitem am 18.55

 

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol: