Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 30
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 09/11/2021 - Y Cyfarfod Llawn
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.32. |
|||||||||||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan Weinidog yr Economi: Yr Economi Sylfaenol Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.58 Yn
unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 15.31 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y
Llywydd. |
|||||||||||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cymru ac Affrica Cofnodion: Dechreuodd yr
eitem am 15.39. |
|||||||||||||||||
(20 munud) |
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 19) 2021 NDM7822 - Lesley Griffiths
(Wrecsam) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1.
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau
Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 19) 2021 yn cael ei llunio yn
unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 29 Hydref 2021. Dogfennau Ategol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.33 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM7822
- Lesley
Griffiths (Wrecsam) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1.
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau
Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 19) 2021 yn cael ei llunio yn
unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 29 Hydref 2021. Dogfennau
Ategol Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||
(15 munud) |
Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Diwygio) (Cymru) (Coronafeirws) (Rhif 2) 2021 NDM7821 - Lesley Griffiths
(Wrecsam) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1.
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Diwygio)
(Cymru) (Coronafeirws) (Rhif 2) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn
ddrafft a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Hydref 2021. Dogfennau Ategol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.26 NDM7821
- Lesley
Griffiths (Wrecsam) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1.
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Diwygio)
(Cymru) (Coronafeirws) (Rhif 2) 2021 yn cael ei
llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 26 Hydref 2021. Dogfennau
Ategol Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl: Cynnwys Pleidleiswyr NDM7818 - Lesley Griffiths
(Wrecsam) Cynnig
bod y Senedd: 1.
Yn croesawu ymdrechion Llywodraeth Cymru i foderneiddio gweinyddu etholiadol
yng Nghymru er mwyn sicrhau y gall pobl bleidleisio a bod eu pleidleisiau yn
cael eu cyfrif. 2.
Yn nodi egwyddorion Llywodraeth Cymru ar gyfer Diwygio Etholiadol fel y nodwyd
yn natganiad ysgrifenedig y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ar
15 Gorffennaf 2021. 3.
Yn gofidio am y cynigion gan Lywodraeth y DU i gyflwyno mesurau ar gyfer
adnabod pleidleiswyr a chyfyngu ar fynediad at bleidlais drwy’r post a
phleidlais drwy ddirprwy, a fydd yn atal pleidleisio ac yn amddifadu pobl yng
Nghymru o’u hawliau democrataidd sylfaenol. Datganiad
Ysgrifenedig: Fframwaith ar gyfer diwygio etholiadol – 15 Gorffennaf 2021 Cyflwynwyd y gwelliant canlynol: Gwelliant 1 - Darren Millar
(Gorllewin Clwyd) Dileu
popeth a rhoi yn ei le: Cynnig
bod y Senedd: 1.
Yn credu y dylai etholiadau yng Nghymru fod yn rhydd ac yn deg. 2.
Yn croesawu Bil etholiadau Llywodraeth y DU a'i ddarpariaethau i gryfhau
uniondeb etholiadau. 3.
Yn nodi bod cyflwyno mesurau ar gyfer adnabod pleidleiswyr wedi'i gefnogi gan y
Comisiwn Etholiadol a bod swyddfa sefydliadau democrataidd a hawliau dynol y
Sefydliad ar gyfer Diogelwch a Chydweithredu yn Ewrop wedi nodi bod eu
habsenoldeb yn risg diogelwch. 4.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i wella uniondeb yr
holl etholiadau a gynhelir yng Nghymru. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.31 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM7818
- Lesley
Griffiths (Wrecsam) Cynnig
bod y Senedd: 1.
Yn croesawu ymdrechion Llywodraeth Cymru i foderneiddio gweinyddu etholiadol
yng Nghymru er mwyn sicrhau y gall pobl bleidleisio a bod eu pleidleisiau yn
cael eu cyfrif. 2.
Yn nodi egwyddorion Llywodraeth Cymru ar gyfer Diwygio Etholiadol fel y nodwyd
yn natganiad ysgrifenedig y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ar
15 Gorffennaf 2021. 3.
Yn gofidio am y cynigion gan Lywodraeth y DU i gyflwyno mesurau ar gyfer
adnabod pleidleiswyr a chyfyngu ar fynediad at bleidlais drwy’r post a
phleidlais drwy ddirprwy, a fydd yn atal pleidleisio ac yn amddifadu pobl yng
Nghymru o’u hawliau democrataidd sylfaenol. Datganiad
Ysgrifenedig: Fframwaith ar gyfer diwygio etholiadol – 15 Gorffennaf 2021 Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Dileu
popeth a rhoi yn ei le: Cynnig
bod y Senedd: 1.
Yn credu y dylai etholiadau yng Nghymru fod yn rhydd ac yn deg. 2.
Yn croesawu Bil etholiadau Llywodraeth y DU a'i ddarpariaethau i gryfhau
uniondeb etholiadau. 3.
Yn nodi bod cyflwyno mesurau ar gyfer adnabod pleidleiswyr wedi'i gefnogi gan y
Comisiwn Etholiadol a bod swyddfa sefydliadau democrataidd a hawliau dynol y Sefydliad
ar gyfer Diogelwch a Chydweithredu yn Ewrop wedi nodi bod eu habsenoldeb yn
risg diogelwch. 4.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i wella uniondeb yr
holl etholiadau a gynhelir yng Nghymru. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig: NDM7818
- Lesley
Griffiths (Wrecsam) Cynnig
bod y Senedd: 1.
Yn croesawu ymdrechion Llywodraeth Cymru i foderneiddio gweinyddu etholiadol
yng Nghymru er mwyn sicrhau y gall pobl bleidleisio a bod eu pleidleisiau yn
cael eu cyfrif. 2.
Yn nodi egwyddorion Llywodraeth Cymru ar gyfer Diwygio Etholiadol fel y nodwyd
yn natganiad ysgrifenedig y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ar
15 Gorffennaf 2021. 3.
Yn gofidio am y cynigion gan Lywodraeth y DU i gyflwyno mesurau ar gyfer
adnabod pleidleiswyr a chyfyngu ar fynediad at bleidlais drwy’r post a
phleidlais drwy ddirprwy, a fydd yn atal pleidleisio ac yn amddifadu pobl yng
Nghymru o’u hawliau democrataidd sylfaenol. Datganiad
Ysgrifenedig: Fframwaith ar gyfer diwygio etholiadol – 15 Gorffennaf 2021
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl: Cofio a chefnogi cymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru NDM7819 - Lesley Griffiths
(Wrecsam) Cynnig
bod y Senedd: 1.
Yn cofio ac yn cydnabod cyfraniad y rheini sydd wedi gwasanaethu ac sy’n parhau
i wasanaethu yn ein Lluoedd Arfog, yn arbennig y rhai a gollodd eu bywydau. 2.
Yn croesawu ac yn talu teyrnged i’r cymorth a roddir gan sefydliadau’r trydydd
sector i Gymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru, yn arbennig y Lleng Brydeinig
Frenhinol, sy’n dathlu can mlynedd o fodolaeth. 3.
Yn mynegi ei gwerthfawrogiad llwyr o ymdrechion y Lluoedd Arfog gydol pandemig
COVID-19 ac am y cymorth y maent yn parhau i’w ddarparu mewn nifer o leoliadau,
gan gynnwys i Wasanaeth Ambiwlans Cymru. 4.
Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i anrhydeddu Cyfamod y Lluoedd Arfog drwy
ddarparu gwasanaethau a chymorth pwrpasol i gymuned y Lluoedd Arfog a thrwy
gydweithio ac ymgysylltu yn barhaus â rhanddeiliaid. Cyd-gyflwynwyr Cyflwynwyd y gwelliant canlynol: Gwelliant 1 – Sian Gwenllian (Arfon) Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cefnogi'r angen i ymdrechu i gael datrysiad heddychlon
i bob gwrthdaro a rhoi terfyn ar ryfel. Yn cofio pawb sydd wedi colli eu bywydau mewn rhyfeloedd
a gwrthdaro, gan gynnwys anafusion sifil. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.27 NDM7819
- Lesley
Griffiths (Wrecsam) Cynnig
bod y Senedd: 1.
Yn cofio ac yn cydnabod cyfraniad y rheini sydd wedi gwasanaethu ac sy’n parhau
i wasanaethu yn ein Lluoedd Arfog, yn arbennig y rhai a gollodd eu bywydau. 2.
Yn croesawu ac yn talu teyrnged i’r cymorth a roddir gan sefydliadau’r trydydd
sector i Gymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru, yn arbennig y Lleng Brydeinig
Frenhinol, sy’n dathlu can mlynedd o fodolaeth. 3.
Yn mynegi ei gwerthfawrogiad llwyr o ymdrechion y Lluoedd Arfog gydol pandemig
COVID-19 ac am y cymorth y maent yn parhau i’w ddarparu mewn nifer o leoliadau,
gan gynnwys i Wasanaeth Ambiwlans Cymru. 4.
Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i anrhydeddu Cyfamod y Lluoedd Arfog drwy
ddarparu gwasanaethau a chymorth pwrpasol i gymuned y Lluoedd Arfog a thrwy
gydweithio ac ymgysylltu yn barhaus â rhanddeiliaid. Cyd-gyflwynwyr Cyflwynwyd y gwelliant
a ganlyn: Gwelliant
1 – Sian
Gwenllian (Arfon) Ychwanegu
pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
cefnogi'r angen i ymdrechu i gael datrysiad heddychlon i bob gwrthdaro a rhoi
terfyn ar ryfel. Yn
cofio pawb sydd wedi colli eu bywydau mewn rhyfeloedd a gwrthdaro, gan gynnwys
anafusion sifil. Derbyniwyd
y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Diwygiwyd
y cynnig fel a ganlyn: Cynnig
bod y Senedd: 1.
Yn cofio ac yn cydnabod cyfraniad y rheini sydd wedi gwasanaethu ac sy’n parhau
i wasanaethu yn ein Lluoedd Arfog, yn arbennig y rhai a gollodd eu bywydau. 2.
Yn croesawu ac yn talu teyrnged i’r cymorth a roddir gan sefydliadau’r trydydd
sector i Gymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru, yn arbennig y Lleng Brydeinig
Frenhinol, sy’n dathlu can mlynedd o fodolaeth. 3.
Yn mynegi ei gwerthfawrogiad llwyr o ymdrechion y Lluoedd Arfog gydol pandemig
COVID-19 ac am y cymorth y maent yn parhau i’w ddarparu mewn nifer o leoliadau,
gan gynnwys i Wasanaeth Ambiwlans Cymru. 4.
Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i anrhydeddu Cyfamod y Lluoedd Arfog drwy
ddarparu gwasanaethau a chymorth pwrpasol i gymuned y Lluoedd Arfog a thrwy
gydweithio ac ymgysylltu yn barhaus â rhanddeiliaid. 5.
Yn cefnogi'r angen i ymdrechu i gael datrysiad heddychlon i bob gwrthdaro a
rhoi terfyn ar ryfel. 6.
Yn cofio pawb sydd wedi colli eu bywydau mewn rhyfeloedd a gwrthdaro, gan
gynnwys anafusion sifil. Derbyniwyd
y cynnig fel y’i diwygiwyd yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 19.21 cafodd y
trafodion eu hatal dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod
Pleidleisio. |
|||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr
eitem am 19.27 |
||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |