Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 28(v4) 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 02/11/2021 - Y Cyfarfod Llawn

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd y 6 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

Am 13.35, cafodd y cyfarfod ei atal dros dro am 2 funud gan y Llywydd oherwydd anawsterau technegol.

(30 munud)

2.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.19

(45 munud)

3.

Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Covid-19

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.41

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 15.23 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Dirprwy Lywydd.

(60 munud)

4.

Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Strategaeth Sero-Net

Cofnodion:

Dechreuoodd yr eitem am 15.33.

 

(45 munud)

5.

Datganiad gan Weinidog yr Economi: Economi wyrddach

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.26.

(45 munud)

6.

Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Gweithredu carbon sero-net a’r rhaglen ysgolion a cholegau ar gyfer yr 21ain ganrif

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.10.

 

(45 munud)

7.

Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar y rhaglen ddatgarboneiddio ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.45.

Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro

Dechreuodd yr eitem am 18.12

NNDM7816 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i) a’r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM7817 gael eu hystyried yn y Cyfarfod Llawn ar ddydd Mawrth, 2 Tachwedd 2021.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(15 munud)

8.

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar Fil yr Amgylchedd

NNDM7817 Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau ym Mil yr Amgylchedd sy'n ymwneud â deunydd untro, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Hydref 2021 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.13

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NNDM7817 Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau ym Mil yr Amgylchedd sy'n ymwneud â deunydd untro, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Hydref 2021 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

42

0

11

53

Derbyniwyd y cynnig.

9.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 18.30 cafodd y trafodion eu hatal dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio.

Dechreuodd yr eitem am 18.34.

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol: