Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 28(v4)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 02/11/2021 - Y Cyfarfod Llawn
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhaliwyd y
cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn
ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
y 6 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2. Am
13.35, cafodd y cyfarfod ei atal dros dro am 2 funud gan y Llywydd oherwydd
anawsterau technegol. |
|||||||||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.19 |
|||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Covid-19 Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.41 Yn unol â
Rheol Sefydlog 12.18, am 15.23 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Dirprwy
Lywydd. |
|||||||||
(60 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Strategaeth Sero-Net Cofnodion: Dechreuoodd yr eitem am 15.33. |
|||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan Weinidog yr Economi: Economi wyrddach Cofnodion: Dechreuodd yr
eitem am 16.26. |
|||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Gweithredu carbon sero-net a’r rhaglen ysgolion a cholegau ar gyfer yr 21ain ganrif Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 17.10. |
|||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar y rhaglen ddatgarboneiddio ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol Cofnodion: Dechreuodd yr
eitem am 17.45. |
|||||||||
Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro Dechreuodd yr eitem am 18.12 NNDM7816 Lesley Griffiths
(Wrecsam) Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a
33.8: Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i) a’r rhan honno o Reol
Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol
Sefydlog 11.11 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr
wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM7817 gael eu hystyried yn y Cyfarfod
Llawn ar ddydd Mawrth, 2 Tachwedd 2021. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
||||||||||
(15 munud) |
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar Fil yr Amgylchedd NNDM7817 Julie James (Gorllewin
Abertawe) Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn
cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau ym Mil yr Amgylchedd sy'n
ymwneud â deunydd untro, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd
deddfwriaethol Senedd Cymru. Gosodwyd
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Hydref
2021 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.13 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NNDM7817 Julie James (Gorllewin Abertawe) Cynnig
bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU
ystyried y darpariaethau ym Mil yr Amgylchedd sy'n ymwneud â deunydd untro, i'r
graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru. Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Hydref 2021 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Yn
unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 18.30 cafodd y trafodion eu hatal dros dro i
ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio. Dechreuodd yr
eitem am 18.34. |
||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |