Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Amseriad disgwyliedig: 139
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 17/05/2023 - Y Cyfarfod Llawn
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y
Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip Bydd y Llywydd yn galw ar
Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn
2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
y 9 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 6 gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth
Cymdeithasol. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r
Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad Bydd y Llywydd yn galw ar
Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Cwnsler Cyffredinol ar ôl
Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.27 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r
Cwnsler Cyffredinol ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||
(30 munud) |
Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.10 Gofynnwyd
y 6 cwestiwn. |
|||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Gofyn
i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd Samuel
Kurtz (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Pa fesurau bioddiogelwch
y mae'r Gweinidog yn ymgymryd â hwy i atal ymlediad H5N1 yng Nghymru yn sgil
dau weithiwr dofednod yn Lloegr yn dal ffliw adar? Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.33 Atebwyd
gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd Samuel Kurtz (Gorllewin Caerfyrddin
a De Sir Benfro):
Pa fesurau bioddiogelwch y mae'r Gweinidog yn ymgymryd â hwy i atal ymlediad
H5N1 yng Nghymru yn sgil dau weithiwr dofednod yn
Lloegr yn dal ffliw adar? |
|||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.39 Gwnaeth
Tom Giffard ddatganiad am – Wythnos Twristiaeth Cymru (15-21 Mai). Gwnaeth
Vikki Howells ddatganiad am - Dadorchuddio plac porffor cyntaf Cwm Cynon yn
Amgueddfa Cwm Cynon, i gofnodi fywyd a gwaith Rose Davies (12 Mai). Gwnaeth
Darren Millar ddatganiad am - Nodi 60 mlynedd o’r Sŵ
Fynydd Gymreig (18 Mai). Gwnaeth
Laura Anne Jones ddatganiad am - Wythnos Gweithredu ar Ddementia (15-21 Mai). Gwnaeth
Heledd Fychan ddatganiad am - Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl (15-21 Mai). |
|||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Diogelwch adeiladau uchel NDM8230 Janet Finch-Saunders (Aberconwy) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi cynnig ar gyfer
Bil i sicrhau bod datblygwyr adeiladau uchel iawn yn gyfrifol am faterion
diogelwch. 2. Yn nodi mai diben y
Bil hwn fyddai: a) creu dyletswydd ar
ddatblygwyr i ad-dalu lesddeiliaid am gostau rhesymol a gronnwyd o ganlyniad i
faterion diogelwch adeiladau; a b) gwahardd unrhyw
ddatblygwr sy’n gwrthod cyweirio’r diffygion diogelwch tân ar adeiladau a
ddatblygwyd ganddynt rhag cael caniatâd cynllunio ar gyfer unrhyw ddatblygiadau
newydd yng Nghymru. Cyd-gyflwynwyr Jane Dodds (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Cefnogwyr Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.47 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM8230 Janet Finch-Saunders (Aberconwy) Cynnig
bod y Senedd: 1.
Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i sicrhau bod datblygwyr adeiladau uchel iawn yn
gyfrifol am faterion diogelwch. 2.
Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai: a)
creu dyletswydd ar ddatblygwyr i ad-dalu lesddeiliaid am gostau rhesymol a
gronnwyd o ganlyniad i faterion diogelwch adeiladau; a b)
gwahardd unrhyw ddatblygwr sy’n gwrthod cyweirio’r diffygion diogelwch tân ar
adeiladau a ddatblygwyd ganddynt rhag cael caniatâd cynllunio ar gyfer unrhyw
ddatblygiadau newydd yng Nghymru. Cyd-gyflwynwyr Jane Dodds (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Cefnogwyr Natasha Asghar (Dwyrain De Cymru) Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai – Digartrefedd NDM8267 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd) Cynnig bod Senedd
Cymru: Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, ‘Digartrefedd’, a osodwyd yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 9 Mawrth 2023. Noder:
Gosodwyd
ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Mai 2023. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.16 NDM8267 John Griffiths (Dwyrain
Casnewydd) Cynnig
bod Senedd Cymru: Yn
nodi adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, ‘Digartrefedd’, a osodwyd yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 9 Mawrth 2023. Noder: Gosodwyd ymateb
Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Mai 2023. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru - Clefydau anadlol NDM8266 Sian Gwenllian (Arfon) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi: a) bod 1 ym mhob 5 o
bobl yn byw gyda chyflwr ysgyfaint yng Nghymru; b) bod gan Gymru'r lefel
uchaf o farwolaethau anadlol yng ngorllewin Ewrop; c) nad yw'r
gwasanaethau anadlu wedi adfer yn dilyn y pandemig, gyda rhestrau aros ar gyfer
adsefydlu ysgyfeiniol mor uchel â thair blynedd mewn rhai rhannau o Gymru; d) bod Llywodraeth
Cymru wedi datblygu datganiad ansawdd newydd ond does dim cynllun gweithredu. 2.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu cynllun gwella ar gyfer clefydau
anadlol i drawsnewid bywydau pobl sy'n byw gyda chyflyrau'r ysgyfaint. Cyflwynwyd y gwelliant
a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu popeth ar ôl
1(b) a rhoi yn ei le: bod Cymru’n arwain y
ffordd yn y DU mewn llawer o agweddau ar wella gwasanaethau clefydau anadlol,
gan gynnwys defnyddio addysg ddigidol yn helaeth i wella gofal clinigol,
defnyddio apiau i gleifion i leihau’r angen am ofal brys a gofal mewn argyfwng,
a helpu cleifion i newid i ddefnyddio anadlyddion ag ôl troed carbon is. y bydd y GIG yn ymateb
i’r Datganiad Ansawdd ar gyfer Clefydau Anadlol drwy ei waith cynllunio
gweithredol lleol ac y bydd yn cael ei gefnogi’n genedlaethol gan rwydwaith
clinigol Gweithrediaeth y GIG ar gyfer clefydau anadlol. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.05 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM8266 Sian Gwenllian (Arfon) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi: a) bod 1 ym mhob 5 o bobl yn
byw gyda chyflwr ysgyfaint yng Nghymru; b) bod gan Gymru'r lefel uchaf
o farwolaethau anadlol yng ngorllewin Ewrop; c) nad yw'r gwasanaethau anadlu
wedi adfer yn dilyn y pandemig, gyda rhestrau aros ar gyfer adsefydlu ysgyfeiniol
mor uchel â thair blynedd mewn rhai rhannau o Gymru; d) bod Llywodraeth Cymru wedi
datblygu datganiad ansawdd newydd ond does dim cynllun gweithredu. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i ddatblygu cynllun gwella ar gyfer clefydau anadlol i drawsnewid bywydau pobl
sy'n byw gyda chyflyrau'r ysgyfaint.
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd
y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig. Felly,
gwrthodwyd y cynnig. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu popeth ar ôl 1(b) a rhoi yn ei le: bod Cymru’n arwain y ffordd yn y DU mewn llawer o
agweddau ar wella gwasanaethau clefydau anadlol, gan gynnwys defnyddio addysg
ddigidol yn helaeth i wella gofal clinigol, defnyddio apiau i gleifion i
leihau’r angen am ofal brys a gofal mewn argyfwng, a helpu cleifion i newid i
ddefnyddio anadlyddion ag ôl troed carbon is. y bydd y GIG yn ymateb i’r Datganiad Ansawdd ar gyfer
Clefydau Anadlol drwy ei waith cynllunio gweithredol lleol ac y bydd yn cael ei
gefnogi’n genedlaethol gan rwydwaith clinigol Gweithrediaeth y GIG ar gyfer
clefydau anadlol. Datganiad
Ansawdd ar gyfer Clefydau Anadlol Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20,
defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant.
Felly, gwrthodwyd y gwelliant. Gan fod y Senedd wedi gwrthod
y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliant i'r cynnig, gwrthodwyd y
cynnig. |
|||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 17.51 |
||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM8265 Peter Fox (Mynwy) Pam fod angen cynllun
strategol ar Gymru i flaenoriaethu ymchwil i diwmorau ar yr ymennydd Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.53 NDM8265 Peter Fox (Mynwy) Pam fod angen cynllun
strategol ar Gymru i flaenoriaethu ymchwil i diwmorau ar yr ymennydd |