Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd

Amseriad disgwyliedig: 137 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 10/05/2023 - Y Cyfarfod Llawn

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

(45 munud)

1.

Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd y 10 cwestiwn. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

(45 munud)

2.

Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.21

Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

(20 munud)

3.

Cwestiynau Amserol

Gofyn i Weinidog yr Economi

Alun Davies (Blaenau Gwent): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol Tillery Valley Foods?

Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y cyhoeddiad bod y crwner yn ymchwilio ymhellach i farwolaeth pedwar claf fasgwlar yn Ysbyty Glan Clwyd?

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.02

Atebwyd gan Weinidog yr Economi

Alun Davies (Blaenau Gwent): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol Tillery Valley Foods?

Atebwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y cyhoeddiad bod y crwner yn ymchwilio ymhellach i farwolaeth pedwar claf fasgwlar yn Ysbyty Glan Clwyd?

(0 munud)

4.

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Nid oedd Datganiadau 90 Eiliad

(60 munud)

5.

Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Anymataliaeth

NDM8252 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) bod anymataliaeth yn parhau i fod yn bwnc tabŵ i fenywod a dynion er ei fod yn fater iechyd cyhoeddus sylweddol;

b) bod dros 90 y cant o famau tro cyntaf yn profi trawma perineol yn ystod genedigaeth sy'n gallu arwain at broblemau anymataliaeth;

c) nad yw 75 y cant o fenywod yn gofyn am gymorth meddygol ar gyfer eu hanymataliaeth er ei bod yn effeithio ar ansawdd eu bywyd waeth pa mor ddifrifol ydyw;

d) bod dynion yn dioddef o anymataliaeth hefyd, yn arbennig yn ddiweddarach mewn bywyd ond mae'n broblem gudd i raddau helaeth.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth ar gyfer mynd i'r afael ag achosion a chanlyniadau anymataliaeth ac i godi ymwybyddiaeth o'r mater ymhlith y cyhoedd.

Cyd-gyflwynwyr

Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Altaf Hussain (Gorllewin De Cymru)

Sioned Williams (Gorllewin De Cymru)

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.19

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(45 munud)

6.

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, a Seilwaith - Adroddiad blynyddol ar Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru – 2022-23

NDM8258 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, a Seilwaith: ‘Adroddiad blynyddol ar Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru – 2022-23’ a osodwyd ar 2 Mawrth 2023.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.06

NDM8258 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, a Seilwaith: ‘Adroddiad blynyddol ar Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru – 2022-23’ a osodwyd ar 2 Mawrth 2023.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(45 munud)

7.

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau - O Bump i Bedwar? P-06-1247 Cefnogi treialon wythnos waith pedwar diwrnod yng Nghymru

NDM8257 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau, ‘O Bump i Bedwar? P-06-1247 Cefnogi treialon wythnos waith pedwar diwrnod yng Nghymru’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Ionawr 2023.

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Mawrth 2023.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.41

NDM8257 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau, ‘O Bump i Bedwar? P-06-1247 Cefnogi treialon wythnos waith pedwar diwrnod yng Nghymru’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Ionawr 2023.

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Mawrth 2023.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

8.

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Twristiaeth

NDM8259 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod 15 – 23 Mai yn Wythnos Twristiaeth Cymru 2023.

2. Yn cydnabod y cyfraniad hanfodol a wneir i gymdeithas Cymru gan y sector twristiaeth.

3. Yn gresynu nad yw'r diwydiant twristiaeth wedi gwella o hyd i'r lefelau yr oedd cyn y pandemig.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) dathlu cryfder Cymru fel cyrchfan o'r radd flaenaf ar gyfer twristiaid;

b) annog mwynderau a chyfleusterau twristiaeth i gael eu darparu a'u gwella yng Nghymru;

c) cefnogi darparwyr llety hunanddarpar drwy ddiddymu'r trothwy deiliadaeth 182 diwrnod;

d) rhoi'r gorau i gynigion niweidiol ar gyfer treth dwristiaeth yng Nghymru.

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu popeth ar ôl 4b a rhoi yn ei le bwyntiau newydd:

Yn cefnogi diffiniad Sefydliad Twristiaeth y Byd y Cenhedloedd Unedig o ddatblygiad twristiaeth gynaliadwy.

Yn nodi Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Diwygio’r Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022 a basiwyd gan y Senedd ym mis Gorffennaf, a gyflwynwyd fel rhan o ymrwymiad ehangach i fynd i’r afael â materion ail gartrefi a thai anfforddiadwy y mae llawer o gymunedau yng Nghymru yn eu hwynebu.

Yn croesawu’r pwerau a’r canllawiau dewisol ar y dreth gyngor ac ail gartrefi. sydd ar gael i awdurdodau lleol, i leihau neu ddileu’r gofyniad i dalu naill ai’r gyfradd premiwm neu gyfradd safonol y dreth gyngor neu’r ddau.

Yn cydnabod bod ardollau ymwelwyr yn gyffredin ar draws y byd, a’u bod yn cael eu defnyddio er budd twristiaid, busnesau a chymunedau lleol, gan helpu i wneud twristiaeth yn gynaliadwy ac yn llwyddiannus.

Yn croesawu’r ymrwymiad i roi’r pŵer i awdurdodau lleol gyflwyno ardoll ymwelwyr os ydynt yn dymuno gwneud hynny, yn amodol ar ymgynghoriad.

Sefydliad Twristiaeth y Byd y Cenhedloedd Unedig - Datblygu Cynaliadwy (Saesneg yn unig)

Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Diwygio’r Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022

Canllawiau ar Dreth Gyngor ar Dai Gwag ac Ail Gartrefi

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.32

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM8259 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod 15 – 23 Mai yn Wythnos Twristiaeth Cymru 2023.

2. Yn cydnabod y cyfraniad hanfodol a wneir i gymdeithas Cymru gan y sector twristiaeth.

3. Yn gresynu nad yw'r diwydiant twristiaeth wedi gwella o hyd i'r lefelau yr oedd cyn y pandemig.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) dathlu cryfder Cymru fel cyrchfan o'r radd flaenaf ar gyfer twristiaid;

b) annog mwynderau a chyfleusterau twristiaeth i gael eu darparu a'u gwella yng Nghymru;

c) cefnogi darparwyr llety hunanddarpar drwy ddiddymu'r trothwy deiliadaeth 182 diwrnod;

d) rhoi'r gorau i gynigion niweidiol ar gyfer treth dwristiaeth yng Nghymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

15

0

36

51

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu popeth ar ôl 4b a rhoi yn ei le bwyntiau newydd:

Yn cefnogi diffiniad Sefydliad Twristiaeth y Byd y Cenhedloedd Unedig o ddatblygiad twristiaeth gynaliadwy.

Yn nodi Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Diwygio’r Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022 a basiwyd gan y Senedd ym mis Gorffennaf, a gyflwynwyd fel rhan o ymrwymiad ehangach i fynd i’r afael â materion ail gartrefi a thai anfforddiadwy y mae llawer o gymunedau yng Nghymru yn eu hwynebu.

Yn croesawu’r pwerau a’r canllawiau dewisol ar y dreth gyngor ac ail gartrefi, sydd ar gael i awdurdodau lleol, i leihau neu ddileu’r gofyniad i dalu naill ai’r gyfradd premiwm neu gyfradd safonol y dreth gyngor neu’r ddau.

Yn cydnabod bod ardollau ymwelwyr yn gyffredin ar draws y byd, a’u bod yn cael eu defnyddio er budd twristiaid, busnesau a chymunedau lleol, gan helpu i wneud twristiaeth yn gynaliadwy ac yn llwyddiannus.

Yn croesawu’r ymrwymiad i roi’r pŵer i awdurdodau lleol gyflwyno ardoll ymwelwyr os ydynt yn dymuno gwneud hynny, yn amodol ar ymgynghoriad.

Sefydliad Twristiaeth y Byd y Cenhedloedd Unedig - Datblygu Cynaliadwy (Saesneg yn unig)

Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Diwygio’r Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022

Canllawiau ar Dreth Gyngor ar Dai Gwag ac Ail Gartrefi

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

36

0

15

51

Derbyniwyd gwelliant 1.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

NDM8259 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod 15 – 23 Mai yn Wythnos Twristiaeth Cymru 2023.

2. Yn cydnabod y cyfraniad hanfodol a wneir i gymdeithas Cymru gan y sector twristiaeth.

3. Yn gresynu nad yw'r diwydiant twristiaeth wedi gwella o hyd i'r lefelau yr oedd cyn y pandemig.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) dathlu cryfder Cymru fel cyrchfan o'r radd flaenaf ar gyfer twristiaid;

b) annog mwynderau a chyfleusterau twristiaeth i gael eu darparu a'u gwella yng Nghymru;

5. Yn cefnogi diffiniad Sefydliad Twristiaeth y Byd y Cenhedloedd Unedig o ddatblygiad twristiaeth gynaliadwy.

6. Yn nodi Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Diwygio’r Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022 a basiwyd gan y Senedd ym mis Gorffennaf, a gyflwynwyd fel rhan o ymrwymiad ehangach i fynd i’r afael â materion ail gartrefi a thai anfforddiadwy y mae llawer o gymunedau yng Nghymru yn eu hwynebu.

7. Yn croesawu’r pwerau a’r canllawiau dewisol ar y dreth gyngor ac ail gartrefi, sydd ar gael i awdurdodau lleol, i leihau neu ddileu’r gofyniad i dalu naill ai’r gyfradd premiwm neu gyfradd safonol y dreth gyngor neu’r ddau.

8. Yn cydnabod bod ardollau ymwelwyr yn gyffredin ar draws y byd, a’u bod yn cael eu defnyddio er budd twristiaid, busnesau a chymunedau lleol, gan helpu i wneud twristiaeth yn gynaliadwy ac yn llwyddiannus.

9. Yn croesawu’r ymrwymiad i roi’r pŵer i awdurdodau lleol gyflwyno ardoll ymwelwyr os ydynt yn dymuno gwneud hynny, yn amodol ar ymgynghoriad.

Sefydliad Twristiaeth y Byd y Cenhedloedd Unedig - Datblygu Cynaliadwy (Saesneg yn unig)

Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Diwygio’r Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022

Canllawiau ar Dreth Gyngor ar Dai Gwag ac Ail Gartrefi

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

36

0

15

51

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd

9.

Cyfnod Pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.22

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol:

(30 munud)

10.

Dadl Fer

NDM8256 Huw Irranca-Davies (Ogwr)

A yw eogiaid yn wynebu difodiant o afonydd Cymru?

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.25