Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 129
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 22/03/2023 - Y Cyfarfod Llawn
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai
Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Bydd y Llywydd yn galw ar
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn
2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
cwestiynau 1-8 ac 11. Tynnwyd cwestiwn 9 yn ôl. Ni ofynnwyd cwestiwn 10.
Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl
cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd Bydd y Llywydd yn galw ar
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn
2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.16 Gofynnwyd
y 9 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau
i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Gofyn i’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Jack
Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy): Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi'i
wneud o'r effaith ar Gymru a gaiff penderfyniad Llywodraeth y DU i
gategoreiddio Northern Powerhouse Rail fel prosiect Cymru a Lloegr? Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.01 Atebwyd
gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Jack Sargeant (Alun a Glannau
Dyfrdwy): Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r
effaith ar Gymru a gaiff penderfyniad Llywodraeth y DU i gategoreiddio Northern
Powerhouse Rail fel prosiect Cymru a Lloegr? |
|||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.15 Gwnaeth
Luke Fletcher ddatganiad am - Diwrnod Darllen Tolkien (25 Mawrth). Gwnaeth
Altaf Hussain ddatganiad am - Diwrnod Syndrom Down y Byd (21 Mawrth). |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Mesuryddion rhagdalu a gwasanaethau cyngor ynni NDM8219 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn credu: a) ei fod yn sgandal
genedlaethol bod 600,000 o bobl wedi cael eu gorfodi i ddefnyddio mesuryddion
rhagdalu yn 2022 oherwydd na allent fforddio eu biliau ynni; b) bod rheoleiddiwr
ynni Ofgem wedi methu â diogelu aelwydydd bregus drwy ganiatáu i gyflenwyr ynni
osgoi gwiriadau priodol; c) y dylai'r rhai sy'n
cael eu gorfodi i ddefnyddio mesuryddion rhagdalu gael eu digolledu'n briodol
gan gyflenwyr ynni a'u newid yn ôl yn rhad ac am ddim. 2. Yn nodi: a) y cafodd
cyflenwad ynni 3.2 miliwn o bobl ei dorri y llynedd oherwydd eu bod wedi
rhedeg allan o gredyd ar eu mesuryddion rhagdalu; b) y gallai biliau
ynni cyfartalog cartrefi godi hyd yn oed ymhellach, gan roi baich ychwanegol ar
aelwydydd sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd oherwydd yr argyfwng costau
byw. 3. Yn cydnabod cynllun
peilot ynni yn y cartref 2021-22 Llywodraeth Cymru, a oedd yn rhoi
cyngor rhagweithiol a chefnogaeth allgymorth i bobl a oedd, neu a oedd mewn
perygl o fod, mewn tlodi tanwydd. 4. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gyflwyno gwasanaeth cyngor ynni yn y cartref ledled Cymru i
sicrhau bod pob cartref yn gallu cael y cymorth a'r cyngor sydd eu hangen
arnynt. Cefnogwyr Carolyn Thomas (Gogledd Cymru) Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru) Heledd Fychan (Canol De Cymru) Jane Dodds (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd) Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin
Cymru) Luke Fletcher (Gorllewin De Cymru) Mike Hedges (Dwyrain Abertawe) Peredur Owen Griffiths (Dwyrain De Cymru) Sarah Murphy (Pen-y-bont ar Ogwr) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.19 NDM8219 Jack Sargeant
(Alun a Glannau Dyfrdwy) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn credu: a) ei fod yn
sgandal genedlaethol bod 600,000 o bobl wedi cael eu gorfodi i ddefnyddio
mesuryddion rhagdalu yn 2022 oherwydd na allent fforddio eu biliau ynni; b) bod rheoleiddiwr
ynni Ofgem wedi methu â diogelu aelwydydd bregus drwy ganiatáu i gyflenwyr ynni
osgoi gwiriadau priodol; c) y dylai'r rhai sy'n
cael eu gorfodi i ddefnyddio mesuryddion rhagdalu gael eu digolledu'n briodol
gan gyflenwyr ynni a'u newid yn ôl yn rhad ac am ddim. 2. Yn nodi: a) y cafodd
cyflenwad ynni 3.2 miliwn o bobl ei dorri y llynedd oherwydd eu bod wedi
rhedeg allan o gredyd ar eu mesuryddion rhagdalu; b) y gallai biliau
ynni cyfartalog cartrefi godi hyd yn oed ymhellach, gan roi baich ychwanegol ar
aelwydydd sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd oherwydd yr argyfwng costau
byw. 3. Yn cydnabod cynllun
peilot ynni yn y cartref 2021-22 Llywodraeth Cymru, a oedd yn rhoi
cyngor rhagweithiol a chefnogaeth allgymorth i bobl a oedd, neu a oedd mewn
perygl o fod, mewn tlodi tanwydd. 4. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gyflwyno gwasanaeth cyngor ynni yn y cartref ledled Cymru i
sicrhau bod pob cartref yn gallu cael y cymorth a'r cyngor sydd eu hangen
arnynt. Cefnogwyr Carolyn Thomas
(Gogledd Cymru) Delyth Jewell
(Dwyrain De Cymru) Heledd Fychan
(Canol De Cymru) Jane Dodds
(Canolbarth a Gorllewin Cymru) Jayne Bryant
(Gorllewin Casnewydd) Joyce Watson
(Canolbarth a Gorllewin Cymru) Luke Fletcher
(Gorllewin De Cymru) Mike Hedges
(Dwyrain Abertawe) Peredur Owen
Griffiths (Dwyrain De Cymru) Sarah Murphy
(Pen-y-bont ar Ogwr) Sioned Williams (Gorllewin De Cymru) Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol NDM8231 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: Yn
datgan nad oes ganddi hyder yng Ngweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Llywodraeth Cymru. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.15 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM8231 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: Yn datgan nad oes
ganddi hyder yng Ngweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth
Cymru. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Gwrthodwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru - Cynllun brys ar gyfer y sector bysiau NDM8229 Sian Gwenllian (Arfon) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi bod tystiolaeth
ysgrifenedig y Llywodraeth i bwyllgorau craffu'r Senedd ar y dyraniadau o fewn
pob prif grŵp gwariant wedi dweud y byddai'r £28 miliwn a roddwyd i’r
cynllun brys ar gyfer y sector bysiau yn 2022-23 yn cael cyllid cyfatebol yn
2023-24, ond bod gweithredwyr bysiau wedyn wedi cael gwybod nad oedd sicrwydd o
unrhyw gyllid o 1 Ebrill 2023 ar gyfer y cynllun brys ar gyfer y sector bysiau. 2. Yn nodi nad yw'r
estyniad 3 mis i'r cynllun brys ar gyfer y sector bysiau yn cynnig llawer o
sicrwydd i weithredwyr bysiau i gynnal gwasanaethau a llwybrau allweddol yn eu
hardal yn y tymor hir. 3. Yn mynegi pryder y
byddai peidio ag ymestyn cyllid y cynllun brys ar gyfer y sector bysiau yn
arwain at ganslo gwasanaethau ar raddfa eang, a fydd yn gadael cymunedau ledled
Cymru - cymunedau gwledig yn bennaf - wedi’u hynysu. 4. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ymestyn cyllid y cynllun brys ar gyfer y sector bysiau am o
leiaf 18 mis i ddarparu sicrwydd ariannol mwy hirdymor i weithredwyr bysiau
ledled Cymru. 5. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i gyflwyno opsiynau cyllid diogel mwy hirdymor er mwyn cynnal
gwasanaethau bysiau, yn hytrach na chynlluniau cyllido brys. Cyflwynwyd y gwelliant
a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod bod
Llywodraeth Cymru wedi darparu gwerth dros £150m o gyllid ychwanegol i’r
diwydiant bysiau gydol y pandemig a’i bod wedi cefnogi’r diwydiant i adfer ar
ei ôl. 2. Yn nodi nad yw
nifer y teithwyr ar fysiau wedi dychwelyd i’r lefelau cyn y pandemig a bod
patrymau o ran defnydd wedi newid. 3. Yn nodi bod yr
estyniad cychwynnol o 3 mis i’r cynllun brys ar gyfer y sector bysiau yn cynnig
sicrwydd yn y tymor byr i weithredwyr bysiau er mwyn cefnogi datblygiad
rhwydwaith bysiau sylfaenol. 4. Yn cefnogi cynlluniau
mwy hirdymor Llywodraeth Cymru i ddiwygio’r diwydiant bysiau drwy reoleiddio. 5.
Yn cefnogi bwriad Llywodraeth Cymru i roi’r gorau i ddyrannu cyllid brys cyn
gynted â phosibl gan yn hytrach gyflwyno pecyn cyllid sy’n cefnogi’r
trosglwyddiad i fasnachfreinio. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.27 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM8229 Sian Gwenllian
(Arfon) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi bod
tystiolaeth ysgrifenedig y Llywodraeth i bwyllgorau craffu'r Senedd ar y
dyraniadau o fewn pob prif grŵp gwariant wedi dweud y byddai'r £28 miliwn
a roddwyd i’r cynllun brys ar gyfer y sector bysiau yn 2022-23 yn cael cyllid
cyfatebol yn 2023-24, ond bod gweithredwyr bysiau wedyn wedi cael gwybod nad
oedd sicrwydd o unrhyw gyllid o 1 Ebrill 2023 ar gyfer y cynllun brys ar gyfer
y sector bysiau. 2. Yn nodi nad yw'r
estyniad 3 mis i'r cynllun brys ar gyfer y sector bysiau yn cynnig llawer o sicrwydd
i weithredwyr bysiau i gynnal gwasanaethau a llwybrau allweddol yn eu hardal yn
y tymor hir. 3. Yn mynegi pryder y
byddai peidio ag ymestyn cyllid y cynllun brys ar gyfer y sector bysiau yn
arwain at ganslo gwasanaethau ar raddfa eang, a fydd yn gadael cymunedau ledled
Cymru - cymunedau gwledig yn bennaf - wedi’u hynysu. 4. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ymestyn cyllid y cynllun brys ar gyfer y sector bysiau am o
leiaf 18 mis i ddarparu sicrwydd ariannol mwy hirdymor i weithredwyr bysiau
ledled Cymru. 5. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gyflwyno opsiynau cyllid diogel mwy hirdymor er mwyn cynnal
gwasanaethau bysiau, yn hytrach na chynlluniau cyllido brys.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley
Griffiths (Wrecsam) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod bod
Llywodraeth Cymru wedi darparu gwerth dros £150m o gyllid ychwanegol i’r
diwydiant bysiau gydol y pandemig a’i bod wedi cefnogi’r diwydiant i adfer ar
ei ôl. 2. Yn nodi nad yw
nifer y teithwyr ar fysiau wedi dychwelyd i’r lefelau cyn y pandemig a bod
patrymau o ran defnydd wedi newid. 3. Yn nodi bod yr
estyniad cychwynnol o 3 mis i’r cynllun brys ar gyfer y sector bysiau yn cynnig
sicrwydd yn y tymor byr i weithredwyr bysiau er mwyn cefnogi datblygiad
rhwydwaith bysiau sylfaenol. 4. Yn cefnogi
cynlluniau mwy hirdymor Llywodraeth Cymru i ddiwygio’r diwydiant bysiau drwy
reoleiddio. 5. Yn cefnogi bwriad
Llywodraeth Cymru i roi’r gorau i ddyrannu cyllid brys cyn gynted â phosibl gan
yn hytrach gyflwyno pecyn cyllid sy’n cefnogi’r trosglwyddiad i fasnachfreinio. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM8229 Sian Gwenllian
(Arfon) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod bod
Llywodraeth Cymru wedi darparu gwerth dros £150m o gyllid ychwanegol i’r
diwydiant bysiau gydol y pandemig a’i bod wedi cefnogi’r diwydiant i adfer ar
ei ôl. 2. Yn nodi nad yw
nifer y teithwyr ar fysiau wedi dychwelyd i’r lefelau cyn y pandemig a bod
patrymau o ran defnydd wedi newid. 3. Yn nodi bod yr
estyniad cychwynnol o 3 mis i’r cynllun brys ar gyfer y sector bysiau yn cynnig
sicrwydd yn y tymor byr i weithredwyr bysiau er mwyn cefnogi datblygiad
rhwydwaith bysiau sylfaenol. 4. Yn cefnogi
cynlluniau mwy hirdymor Llywodraeth Cymru i ddiwygio’r diwydiant bysiau drwy
reoleiddio. 5. Yn cefnogi bwriad
Llywodraeth Cymru i roi’r gorau i ddyrannu cyllid brys cyn gynted â phosibl gan
yn hytrach gyflwyno pecyn cyllid sy’n cefnogi’r trosglwyddiad i fasnachfreinio.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 18.44 |
||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM8223 Rhys ab Owen (Canol De Cymru) Diogelwch
tân mewn fflatiau uchel: amserlen glir ar gyfer unioni er mwyn trigolion Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.46 NDM8223 Rhys ab Owen
(Canol De Cymru) Diogelwch tân mewn
fflatiau uchel: amserlen glir ar gyfer unioni er mwyn trigolion. |