Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 122
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 15/02/2023 - Y Cyfarfod Llawn
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai
Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Bydd y Llywydd yn galw ar
Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn
2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd Bydd y Llywydd yn galw ar
Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn
2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.19 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Gofyn i’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Delyth
Jewell (Dwyrain De Cymru): Pa sicrwydd wnaiff y Gweinidog ei ddarparu na
fydd symud i ffwrdd o gyllido’r cynllun brys ar gyfer bysiau yn arwain at gau
llwybrau bysiau ac yn golygu bod gwasanaethau bysiau gwledig yn anhyfyw? Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.03 Atebwyd
gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Delyth Jewell (Dwyrain De
Cymru):
Pa sicrwydd
wnaiff y Gweinidog ei ddarparu na fydd symud i ffwrdd o gyllido’r cynllun brys
ar gyfer bysiau yn arwain at gau llwybrau bysiau ac yn golygu bod gwasanaethau
bysiau gwledig yn anhyfyw? |
|||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Nid
oedd unrhyw Ddatganiadau 90 Eiliad |
|||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Lwfans Cynhaliaeth Addysg NDM8187 Luke
Fletcher (Gorllewin De Cymru) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi: a) bod Llywodraeth
Cymru wedi cadw'r lwfans cynhaliaeth addysg, yn wahanol i Lywodraeth y DU
yn Lloegr; b) nad yw gwerth y
lwfans cynhaliaeth addysg yng Nghymru wedi newid ers 2004, ac nad yw'r
trothwyon cymhwysedd wedi newid ers 2011; c) er bod y lwfans
cynhaliaeth addysg yn fath pwysig o gymorth ariannol i ddysgwyr ôl-16, nid yw
wedi cadw i fyny â phwysau costau byw. 2. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ystyried codiad sy'n gysylltiedig â chwyddiant i werth
y lwfans cynhaliaeth addysg ac adolygiad o'r trothwyon. Cyd-gyflwynwyr Mike
Hedges (Dwyrain Abertawe) Heledd
Fychan (Canol De Cymru) Jane
Dodds (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Adam
Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.33 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM8187 Luke Fletcher (Gorllewin De Cymru) Cynnig
bod y Senedd: 1.
Yn nodi: a)
bod Llywodraeth Cymru wedi cadw'r lwfans cynhaliaeth addysg, yn wahanol i
Lywodraeth y DU yn Lloegr; b)
nad yw gwerth y lwfans cynhaliaeth addysg yng Nghymru wedi newid ers 2004, ac
nad yw'r trothwyon cymhwysedd wedi newid ers 2011; c)
er bod y lwfans cynhaliaeth addysg yn fath pwysig o gymorth ariannol i ddysgwyr
ôl-16, nid yw wedi cadw i fyny â phwysau costau byw. 2.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried codiad sy'n gysylltiedig â
chwyddiant i werth y lwfans cynhaliaeth addysg ac adolygiad o'r trothwyon. Cyd-gyflwynwyr Mike Hedges (Dwyrain
Abertawe) Heledd Fychan (Canol
De Cymru) Jane Dodds (Canolbarth
a Gorllewin Cymru) Adam Price (Dwyrain
Caerfyrddin a Dinefwr) Carolyn Thomas
(Gogledd Cymru) Sioned Williams
(Gorllewin De Cymru) Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Yr ymosodiad ar Wcráin a chefnogi ffoaduriaid o Wcráin NDM8204 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi bod y mis
hwn yn nodi blwyddyn ers ymosodiad anghyfreithlon Vladimir Putin ar
Wcráin. 2. Yn condemnio'r
ymosodiad ar Wcráin, a'r ymddygiad ymosodol parhaus yn ei herbyn, yn erbyn
ei sofraniaeth ac yn erbyn ei chyfanrwydd tiriogaethol gan Ffederasiwn Rwsia. 3. Yn cymeradwyo
gwytnwch pobl Wcráin yn wyneb creulondeb Rwsia. 4. Yn croesawu'r
cymorth milwrol, ariannol a dyngarol a ddarperir i Wcráin gan Lywodraeth y
DU a Llywodraeth Cymru. 5. Yn diolch i bobl
Cymru am eu hymateb i'r gwrthdaro, gan gynnwys eu haelioni a'r croeso a roddwyd
i ffoaduriaid o Wcráin. 6.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun tymor hir i gefnogi ffoaduriaid
o Wcráin yng Nghymru. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.14 NDM8204 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig
bod y Senedd: 1.
Yn nodi bod y mis hwn yn nodi blwyddyn ers ymosodiad anghyfreithlon
Vladimir Putin ar Wcráin. 2.
Yn condemnio'r ymosodiad ar Wcráin, a'r ymddygiad ymosodol parhaus yn ei
herbyn, yn erbyn ei sofraniaeth ac yn erbyn ei chyfanrwydd tiriogaethol gan
Ffederasiwn Rwsia. 3.
Yn cymeradwyo gwytnwch pobl Wcráin yn wyneb creulondeb Rwsia. 4.
Yn croesawu'r cymorth milwrol, ariannol a dyngarol a ddarperir i Wcráin gan
Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. 5.
Yn diolch i bobl Cymru am eu hymateb i'r gwrthdaro, gan gynnwys eu haelioni a'r
croeso a roddwyd i ffoaduriaid o Wcráin. 6.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun tymor hir i gefnogi ffoaduriaid o
Wcráin yng Nghymru. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Hyfforddiant sefydlu ar gyfer plant â nam ar eu golwg NDM8205 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi ymchwil gan
Cŵn Tywys Cymru sy'n awgrymu y byddai 2,000 o blant â nam ar eu golwg yn
elwa o hyfforddiant sefydlu. 2. Yn nodi
ymhellach bod hyfforddiant sefydlu yn hanfodol ar gyfer datblygu sgiliau byw'n
annibynnol, symudedd personol a llywio ar gyfer plant â nam ar eu golwg. 3. Yn
siomedig nad yw nifer o awdurdodau lleol Cymru yn cynnig hyfforddiant
sefydlu, er gwaethaf eu dyletswydd i roi sylw dyledus i Erthygl 26 o Gonfensiwn
y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau. 4. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i: a) darparu cynllun
gweithlu ar frys ar wasanaethau sefydlu; a b) sicrhau bod
awdurdodau lleol yn cyflogi o leiaf un arbenigwr sefydlu i bob 100 o blant
â nam ar eu golwg. Erthygl 26 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau
Pobl ag Anableddau (Saesneg yn unig) Cyflwynwyd y gwelliant
a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley
Griffiths (Wrecsam) Dileu pwyntiau 3 a 4 a
rhoi yn eu lle: 3. Yn galw
ar holl awdurdodau lleol Cymru i gynnig hyfforddiant sefydlu, yn unol â’u
dyletswydd i roi sylw dyledus i Erthygl 26 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar
Hawliau Pobl ag Anableddau. 4.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i drafod â rhanddeiliaid perthnasol i helpu i
ddatblygu cynllun gwella ar gyfer gwasanaethau sefydlu i blant â nam ar eu
golwg, gan gynnwys ystyried eu hanghenion o ran hyfforddiant a sut i’w diwallu. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.10 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM8205 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi ymchwil gan Cŵn
Tywys Cymru sy'n awgrymu y byddai 2,000 o blant â nam ar eu golwg yn elwa o
hyfforddiant sefydlu. 2. Yn nodi ymhellach bod
hyfforddiant sefydlu yn hanfodol ar gyfer datblygu sgiliau byw'n annibynnol,
symudedd personol a llywio ar gyfer plant â nam ar eu golwg. 3. Yn siomedig nad
yw nifer o awdurdodau lleol Cymru yn cynnig hyfforddiant sefydlu, er
gwaethaf eu dyletswydd i roi sylw dyledus i Erthygl 26 o Gonfensiwn y
Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i: a) darparu cynllun gweithlu ar
frys ar wasanaethau sefydlu; a b) sicrhau bod awdurdodau lleol
yn cyflogi o leiaf un arbenigwr sefydlu i bob 100 o blant â nam ar eu
golwg. Erthygl
26 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau (Saesneg yn unig)
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Llywydd ei
phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn cynnig wedi’i ddiwygio. Felly, gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley
Griffiths (Wrecsam) Dileu pwyntiau 3 a 4 a rhoi yn eu lle: 3. Yn galw ar holl awdurdodau lleol Cymru i
gynnig hyfforddiant sefydlu, yn unol â’u dyletswydd i roi sylw dyledus i
Erthygl 26 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i drafod â
rhanddeiliaid perthnasol i helpu i ddatblygu cynllun gwella ar gyfer
gwasanaethau sefydlu i blant â nam ar eu golwg, gan gynnwys ystyried eu
hanghenion o ran hyfforddiant a sut i’w diwallu. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Llywydd ei
phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y
gwelliant. Gan fod y Senedd wedi gwrthod
y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliant i'r cynnig, gwrthodwyd y
cynnig. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.44,
canwyd y gloch am 17.48 a gohiriwyd y cyfarfod tan y cyfnod pleidleisio. |
|||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.54 |
||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM8191 Mike
Hedges (Dwyrain Abertawe) Strwythur
gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru: ydyn ni wedi'i gael yn iawn? Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.57 NDM8191 Mike Hedges (Dwyrain Abertawe) Strwythur
gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru: ydyn ni wedi'i gael yn iawn? |
|||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM8203 Sian
Gwenllian (Arfon) Gwasanaethau
iechyd meddwl amenedigol yn y gogledd: cyflwyno’r ddadl dros wella gwasanaethau
iechyd meddwl amenedigol a'r darpariaeth ohonynt gan gynnwys ar gyfer teuluoedd
Cymraeg eu hiaith Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.18 NDM8203 Sian Gwenllian (Arfon) Gwasanaethau
iechyd meddwl amenedigol yn y gogledd: cyflwyno’r ddadl dros wella gwasanaethau
iechyd meddwl amenedigol a'r ddarpariaeth ohonynt gan gynnwys ar gyfer
teuluoedd Cymraeg eu hiaith |