Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 115(v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 18/01/2023 - Y Cyfarfod Llawn
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai
Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Bydd y Llywydd yn galw ar
Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn
2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd Bydd y Llywydd yn galw ar
Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn
2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.20 Gofynnwyd
cwestiynau 1-7 a 9 -12. Tynnwyd cwestiwn 8 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd Lefarwyr
y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Gofyn i Weinidog y Gymraeg ac Addysg James
Evans (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei
ddisgwyliadau ynghylch ei gyfarfodydd gydag undebau llafur yr athrawon yn
ddiweddarach yr wythnos hon o ran osgoi cau ysgolion? Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.02 Atebwyd
gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg James Evans (Brycheiniog a Sir
Faesyfed):
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei ddisgwyliadau ynghylch ei gyfarfodydd
gydag undebau llafur yr athrawon yn ddiweddarach yr wythnos hon o ran osgoi cau
ysgolion? |
|||||||||
Pwynt o Drefn Am 15.07, cododd Heledd Fychan Bwynt o Drefn i wneud cais
bod y canllawiau ar gyfer cyfarfodydd rhithiol a hybrid y pwyllgorau yn cael eu
hadolygu, yn sgil penderfyniad Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r
Prif Chwip i roi tystiolaeth i’r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg,
Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol yn rhithiol yn hytrach na dod i’r
cyfarfod y bore hwnnw, er ei bod yn bresennol ar yr Ystâd a bod y Pwyllgor wedi
gofyn iddi fod yn bresennol yn yr ystafell. Wrth ymateb i’r materion a godwyd, esboniodd y Dirprwy
Weinidog ei bod wedi penderfynu cymryd rhan yn rhithiol yn y sesiwn, oherwydd
bod y swyddogion a oedd yn ei chefnogi hefyd yn cymryd rhan o bell. Dywedodd y Llywydd y byddai’n holi Fforwm y Cadeiryddion
i ystyried y canllawiau presennol ar sail profiadau’r holl bwyllgorau o ran
presenoldeb Gweinidogion ac Aelodau yn yr ystafell gyfarfod neu’n rhithiol. |
||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.14 Gwnaeth
Sioned Williams ddatganiad am - 200 mlynedd ers genedigaeth Alfred Russel
Wallace, un o naturiaethwyr gorau Prydain, a damcaniaethwr esblygiadol cynnar.
(8 Ionawr). |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith - Dyfodol bysiau a threnau yng Nghymru NDM8180 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, ‘Dyfodol bysiau a threnau
yng Nghymru', a osodwyd
ar 6 Hydref 2022. Gosodwyd
ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Ionawr 2023. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.16 NDM8180 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru) Cynnig
bod y Senedd: Yn
nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, ‘Dyfodol
bysiau a threnau yng Nghymru', a osodwyd ar 6 Hydref
2022. Gosodwyd ymateb
Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Ionawr 2023. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ynni adnewyddadwy ar y môr NDM8183 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn credu y bydd
defnyddio dyfroedd arfordirol Cymru yn helpu i gyflawni chwyldro mewn ynni
gwyrdd ac adnewyddadwy. 2. Yn nodi bod modd
creu tua 10,000 o swyddi gwyrdd a buddion ehangach. 3.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi'r gwaith o ddatblygu ynni
adnewyddadwy ar y môr yng Nghymru, gan sicrhau y darperir gweithlu â digon o
sgiliau a chapasiti gweithgynhyrchu gwell. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.24 NDM8183 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd) Cynnig
bod y Senedd: 1.
Yn credu y bydd defnyddio dyfroedd arfordirol Cymru yn helpu i gyflawni
chwyldro mewn ynni gwyrdd ac adnewyddadwy. 2.
Yn nodi bod modd creu tua 10,000 o swyddi gwyrdd a buddion ehangach. 3.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi'r gwaith o ddatblygu ynni adnewyddadwy
ar y môr yng Nghymru, gan sicrhau y darperir gweithlu â digon o sgiliau a
chapasiti gweithgynhyrchu gwell. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru - Rheoli'r pwysau ar y GIG NDM8181 Sian Gwenllian (Arfon) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn gresynu at y
ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi camreoli'r pwysau sy'n wynebu'r GIG. 2.
Yn datgan argyfwng iechyd yng Nghymru. Cefnogwyr Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.13 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan
y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig: NDM8181 Sian Gwenllian (Arfon) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn gresynu at y ffaith bod
Llywodraeth Cymru wedi camreoli'r pwysau sy'n wynebu'r GIG. 2. Yn datgan argyfwng iechyd
yng Nghymru. Cefnogwyr Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Gwrthodwyd y cynnig. |
|||||||||
Cyfnod Pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 18.09 |
||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM8182 Janet Finch-Saunders (Aberconwy) Datblygu
sector ynni hydrogen yng Nghymru Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.10 NDM8182 Janet Finch-Saunders
(Aberconwy) Datblygu sector ynni
hydrogen yng Nghymru |