Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 95 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 12/10/2022 - Y Cyfarfod Llawn

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

(45 munud)

1.

Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

(45 munud)

2.

Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.16

Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 7 gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant. Gwahoddodd y Llywydd Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant a’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

(0 munud)

3.

Cwestiynau Amserol

Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol

(5 munud)

4.

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.03

Gwnaeth Heledd Fychan ddatganiad am – Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd (10 Hydref) a gwaith grŵp Metalidads, sy’n cyfuno heavy metal â chefnogaeth i dadau sy’n dioddef gyda iechyd meddwl gwael.

(60 munud)

5.

Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig - Adolygiad o Reoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021

NDM8090 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar ei Ymchwiliad: Adolygiad o’r Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Mehefin 2022.

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Hydref 2022.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.05

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

6.

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Rhyddhau cleifion o ysbytai ac effaith hynny ar y llif cleifion drwy ysbytai

NDM8089 Russell George (Sir Drefaldwyn)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ‘Rhyddhau cleifion o ysbytai ac effaith hynny ar y llif cleifion drwy ysbytai’, a osodwyd ar 15 Mehefin 2022.

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Gorffennaf 2022.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.03

NDM8089 Russell George (Sir Drefaldwyn)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ‘Rhyddhau cleifion o ysbytai ac effaith hynny ar y llif cleifion drwy ysbytai’, a osodwyd ar 15 Mehefin 2022.

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Gorffennaf 2022.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

7.

Dadl Plaid Cymru - Y sector rhentu preifat

NDM8091 Sian Gwenllian (Arfon)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod rhenti cynyddol yn ychwanegu at bwysau ar aelwydydd ledled Cymru wrth i'r argyfwng costau byw waethygu ymhellach.

2. Yn nodi bod gwerthoedd rhent cyfartalog Cymru wedi cynyddu i £926 y mis ym mis Mehefin 2022, sef cynnydd 15.1 y cant o'i gymharu â Mehefin 2021.

3. Yn nodi'r niferoedd cynyddol ar restrau aros am dai cymdeithasol, a diffyg stoc tai cymdeithasol.

4. Yn nodi bod diffyg darpariaeth o dai priodol a bod pobl yn wynebu digartrefedd pan fyddant yn cael eu troi allan.

5. Yn credu bod yn rhaid gwarchod tenantiaid ar frys y gaeaf hwn.

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu mesurau brys i:

a) rhewi rhenti yn y sector rhentu preifat;

b) gosod moratoriwm ar droi pobl allan.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn credu bod Llywodraeth y DU yn methu â deall ei chyfrifoldebau ynghylch mynd i’r afael â’r argyfwng costau byw, ac yn galw ar i Lywodraeth y DU lynu wrth ei hymrwymiad i godi budd-daliadau yn unol â chwyddiant, gan gynnwys cynyddu cyfraddau’r lwfans tai lleol yng Nghymru. 

Yn cydnabod: 

a) bod tenantiaid cymdeithasol yn cael eu diogelu rhag codiadau rhent y gaeaf hwn;

b) o 1 Rhagfyr bydd y Ddeddf Rhentu Cartrefi yn cynnig rhagor o amddiffyniad i denantiaid rhag cael eu troi allan;

c) bod mwy na 25,000 o bobl sydd wedi cael eu hunain yn ddigartref wedi cael eu helpu i gael llety dros dro ers dechrau’r pandemig.

Yn croesawu:

a) y £6 miliwn ychwanegol ar gyfer awdurdodau lleol y gellir ei ddefnyddio i helpu i dalu ôl-ddyledion rhent neu i ddarparu gwarant rent;

b) y buddsoddiad o £65 miliwn mewn rhaglen gyfalaf ar gyfer llety trosiannol i gynyddu nifer y tai cymdeithasol, gan sicrhau bod gan ragor o bobl le y gellir ei alw’n gartref. 

Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Gwelliant 2 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Dileu pwynt 6 a rhoi yn ei le:

Yn nodi'r symiau cynyddol y mae awdurdodau lleol yn eu gwario ar lety dros dro.

Gwelliant 3 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi'r nifer cynyddol o hysbysiadau troi allan adran 21 sy'n cael eu cyflwyno gan landlordiaid preifat.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) gweithio gydag awdurdodau lleol i wella'r broses o hyrwyddo'r cynllun benthyciadau cartref gwag er mwyn dychwelyd rhagor o dai gwag i fod yn gartrefi;

b) adolygu a chyflymu'r broses o wneud cais cynllunio er mwyn galluogi datblygwyr i gyrraedd targedau adeiladu tai;

c) adolygu pa gamau y gellir eu cymryd i drosi lleoedd gwag uwchben unedau manwerthu i fod yn dai fforddiadwy, wedi'u lleoli'n ganolog.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.00

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM8091 Sian Gwenllian (Arfon)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod rhenti cynyddol yn ychwanegu at bwysau ar aelwydydd ledled Cymru wrth i'r argyfwng costau byw waethygu ymhellach.

2. Yn nodi bod gwerthoedd rhent cyfartalog Cymru wedi cynyddu i £926 y mis ym mis Mehefin 2022, sef cynnydd 15.1 y cant o'i gymharu â Mehefin 2021.

3. Yn nodi'r niferoedd cynyddol ar restrau aros am dai cymdeithasol, a diffyg stoc tai cymdeithasol.

4. Yn nodi bod diffyg darpariaeth o dai priodol a bod pobl yn wynebu digartrefedd pan fyddant yn cael eu troi allan.

5. Yn credu bod yn rhaid gwarchod tenantiaid ar frys y gaeaf hwn.

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu mesurau brys i:

a) rhewi rhenti yn y sector rhentu preifat;

b) gosod moratoriwm ar droi pobl allan.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

11

0

38

49

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn credu bod Llywodraeth y DU yn methu â deall ei chyfrifoldebau ynghylch mynd i’r afael â’r argyfwng costau byw, ac yn galw ar i Lywodraeth y DU lynu wrth ei hymrwymiad i godi budd-daliadau yn unol â chwyddiant, gan gynnwys cynyddu cyfraddau’r lwfans tai lleol yng Nghymru. 

Yn cydnabod: 

a) bod tenantiaid cymdeithasol yn cael eu diogelu rhag codiadau rhent y gaeaf hwn;

b) o 1 Rhagfyr bydd y Ddeddf Rhentu Cartrefi yn cynnig rhagor o amddiffyniad i denantiaid rhag cael eu troi allan;

c) bod mwy na 25,000 o bobl sydd wedi cael eu hunain yn ddigartref wedi cael eu helpu i gael llety dros dro ers dechrau’r pandemig.

Yn croesawu:

a) y £6 miliwn ychwanegol ar gyfer awdurdodau lleol y gellir ei ddefnyddio i helpu i dalu ôl-ddyledion rhent neu i ddarparu gwarant rent;

b) y buddsoddiad o £65 miliwn mewn rhaglen gyfalaf ar gyfer llety trosiannol i gynyddu nifer y tai cymdeithasol, gan sicrhau bod gan ragor o bobl le y gellir ei alw’n gartref. 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

26

51

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Gwelliant 2 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Dileu pwynt 6 a rhoi yn ei le:

Yn nodi'r symiau cynyddol y mae awdurdodau lleol yn eu gwario ar lety dros dro.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

39

0

11

50

Derbyniwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi'r nifer cynyddol o hysbysiadau troi allan adran 21 sy'n cael eu cyflwyno gan landlordiaid preifat.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) gweithio gydag awdurdodau lleol i wella'r broses o hyrwyddo'r cynllun benthyciadau cartref gwag er mwyn dychwelyd rhagor o dai gwag i fod yn gartrefi;

b) adolygu a chyflymu'r broses o wneud cais cynllunio er mwyn galluogi datblygwyr i gyrraedd targedau adeiladu tai;

c) adolygu pa gamau y gellir eu cymryd i drosi lleoedd gwag uwchben unedau manwerthu i fod yn dai fforddiadwy, wedi'u lleoli'n ganolog.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

26

51

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

NDM8091 Sian Gwenllian (Arfon)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod rhenti cynyddol yn ychwanegu at bwysau ar aelwydydd ledled Cymru wrth i'r argyfwng costau byw waethygu ymhellach.

2. Yn nodi bod gwerthoedd rhent cyfartalog Cymru wedi cynyddu i £926 y mis ym mis Mehefin 2022, sef cynnydd 15.1 y cant o'i gymharu â Mehefin 2021.

3. Yn nodi'r niferoedd cynyddol ar restrau aros am dai cymdeithasol, a diffyg stoc tai cymdeithasol.

4. Yn nodi bod diffyg darpariaeth o dai priodol a bod pobl yn wynebu digartrefedd pan fyddant yn cael eu troi allan.

5. Yn credu bod yn rhaid gwarchod tenantiaid ar frys y gaeaf hwn.

6. Yn nodi'r symiau cynyddol y mae awdurdodau lleol yn eu gwario ar lety dros dro.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

39

0

11

50

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

8.

Cyfnod Pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.06

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol:

(30 munud)

9.

Dadl Fer

NDM8092 Luke Fletcher (Gorllewin De Cymru)

Lwfans cynhaliaeth addysg: rhaff achub yn yr argyfwng presennol

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.12