Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 93
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 05/10/2022 - Y Cyfarfod Llawn
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y
Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb
rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 6 gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth
Gymdeithasol. Gwahoddodd y Llywydd Lefarwyr
y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb
rybudd i’r Cwnsler Cyffredinol ar ôl Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.19 Gofynnwyd
y 9 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 3 a 4 eu grwpio i’w hateb gyda’i gilydd.
Gwahoddodd y Llywydd Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl
cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||
(10 munud) |
Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.07 Gofynnwyd
y cwestiwn. |
|||||||||||||||||
(0 munud) |
Cwestiynau Amserol Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol Cofnodion: Ni
dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol. |
|||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.10 Gwnaeth
Gareth Davies ddatganiad am - Gwledd Eirin Dinbych (1 Hydref). |
|||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Effaith meigryn ar blant a phobl ifanc NDM8074 Mark Isherwood (Gogledd Cymru) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi: a) yr effaith a gaiff
meigryn ar yr 1 ym mhob 10 plentyn a pherson ifanc sy'n byw gyda'r cyflwr, gan
gynnwys yn yr ysgol a'u bywydau o ddydd i ddydd; b) bod pobl
ifanc y mae meigryn yn effeithio arnynt yn aml yn nodi ei fod yn
ei gwneud hi'n anoddach i wneud eu gwaith ysgol, gan olygu y gall y cyflwr
effeithio ar eu cyrhaeddiad addysgol heb gymorth priodol, yn ogystal ag amharu
ar eu bywyd teuluol a chymdeithasol; c) bod ymchwil gan y
Migraine Trust yn awgrymu nad yw gweithwyr addysg a gweithwyr iechyd proffesiynol
yn aml yn deall meigryn, ac yn aml nid oes ganddynt fynediad at hyfforddiant ac
adnoddau i roi cefnogaeth effeithiol i blant a phobl ifanc y mae'r cyflwr yn
effeithio arnynt; 2. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i weithio gydag'r Migraine Trust a chyrff cynrychioliadol ar
gyfer ysgolion, gwasanaethau iechyd, a rhieni/gofalwyr er mwyn: a) cryfhau'r
canllawiau; b) darparu
hyfforddiant ar sut i gefnogi a darparu ar gyfer pobl ifanc y mae meigryn yn
effeithio arnynt; a c) darparu adnoddau i
rieni/gofalwyr plant sy'n byw gyda meigryn ac i'r bobl ifanc eu hunain ar sut i
gymryd rheolaeth o'u gofal eu hunain. Cyd-gyflwynwyr Mabon ap Gwynfor (Dwyfor Meirionydd) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.12 NDM8074 Mark
Isherwood (Gogledd Cymru) Cynnig
bod y Senedd: 1.
Yn nodi: a)
yr effaith a gaiff meigryn ar yr 1 ym mhob 10 plentyn a pherson ifanc sy'n byw
gyda'r cyflwr, gan gynnwys yn yr ysgol a'u bywydau o ddydd i ddydd; b)
bod pobl ifanc y mae meigryn yn effeithio arnynt yn aml yn nodi
ei fod yn ei gwneud hi'n anoddach i wneud eu gwaith ysgol, gan olygu y gall y
cyflwr effeithio ar eu cyrhaeddiad addysgol heb gymorth priodol, yn ogystal ag
amharu ar eu bywyd teuluol a chymdeithasol; c)
bod ymchwil gan y Migraine Trust yn awgrymu nad yw gweithwyr addysg a gweithwyr
iechyd proffesiynol yn aml yn deall meigryn, ac yn aml nid oes ganddynt
fynediad at hyfforddiant ac adnoddau i roi cefnogaeth effeithiol i blant a
phobl ifanc y mae'r cyflwr yn effeithio arnynt; 2.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag'r Migraine Trust a chyrff cynrychioliadol
ar gyfer ysgolion, gwasanaethau iechyd, a rhieni/gofalwyr er mwyn: a)
cryfhau'r canllawiau; b)
darparu hyfforddiant ar sut i gefnogi a darparu ar gyfer pobl ifanc y mae
meigryn yn effeithio arnynt; a c)
darparu adnoddau i rieni/gofalwyr plant sy'n byw gyda meigryn ac i'r bobl ifanc
eu hunain ar sut i gymryd rheolaeth o'u gofal eu hunain. Cyd-gyflwynwyr Mabon
ap Gwynfor (Dwyfor Meirionydd) Tom
Giffard (Gorllewin De Cymru) Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai - Ail Gartrefi NDM8084 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, 'Ail gartrefi', a osodwyd yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 9 Mehefin 2022. Noder: Gosodwyd ymateb
Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Gorffennaf 2022. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.43 NDM8084 John Griffiths
(Dwyrain Casnewydd) Cynnig
bod y Senedd: Yn
nodi adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, 'Ail gartrefi', a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Mehefin 2022. Noder: Gosodwyd ymateb
Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Gorffennaf 2022. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Digwyddiadau mawr NDM8086 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi Strategaeth
Ddigwyddiadau Genedlaethol Cymru 2022 i 2030 Llywodraeth Cymru. 2. Yn credu bod
digwyddiadau mawr yn helpu i roi hwb i swyddi a'r economi drwy arddangos Cymru
i'r byd. 3. Yn gresynu at y
ffaith bod Llywodraeth Cymru'n dangos diffyg uchelgais wrth ddod â'r cyfleoedd
hyn i Gymru. 4. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ailystyried y strategaeth gan ganolbwyntio ar ddyhead,
creadigrwydd ac arloesedd wrth ddenu digwyddiadau mawr i Gymru. Strategaeth
Ddigwyddiadau Genedlaethol Cymru 2022 i 2030 Cyflwynwyd y gwelliant
a ganlyn: Gwelliant 1 Sian Gwenllian (Arfon) Ychwanegu fel pwynt
newydd ar ddiwedd cynnig: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i sicrhau y caiff diwylliant a threftadaeth Cymru a'r Gymraeg
eu hymwreiddio'n bellach yn y strategaeth, gan gynnwys digwyddiadau mawr
cynhenid fel yr Eisteddfod Genedlaethol, a'n bod yn arddel ddefnyddio Cymru yn
hytrach na Wales yn rhyngwladol. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.32 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM8086 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi Strategaeth
Ddigwyddiadau Genedlaethol Cymru 2022 i 2030 Llywodraeth Cymru. 2. Yn credu bod digwyddiadau
mawr yn helpu i roi hwb i swyddi a'r economi drwy arddangos Cymru i'r byd. 3. Yn gresynu at y ffaith bod
Llywodraeth Cymru'n dangos diffyg uchelgais wrth ddod â'r cyfleoedd hyn i
Gymru. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i ailystyried y strategaeth gan ganolbwyntio ar ddyhead, creadigrwydd ac
arloesedd wrth ddenu digwyddiadau mawr i Gymru. Strategaeth
Ddigwyddiadau Genedlaethol Cymru 2022 i 2030
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Sian
Gwenllian (Arfon) Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau y caiff
diwylliant a threftadaeth Cymru a'r Gymraeg eu hymwreiddio'n bellach yn y
strategaeth, gan gynnwys digwyddiadau mawr cynhenid fel yr Eisteddfod
Genedlaethol, a'n bod yn arddel defnyddio Cymru yn hytrach na Wales yn
rhyngwladol. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20,
defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant.
Felly, gwrthodwyd y gwelliant. Gan fod y Senedd wedi gwrthod y cynnig heb ei
ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliant i'r cynnig, gwrthodwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Cofnodion: Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 17.17 cafodd y trafodion eu hatal
dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio. Dechreuodd yr eitem am 17.19 |
||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM8085 Sam Rowlands (Gogledd Cymru) Chwaraeon
yng Ngogledd Cymru: sicrhau cyfleoedd i bawb Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.24 NDM8085 Sam Rowlands
(Gogledd Cymru) Chwaraeon yng Ngogledd
Cymru: sicrhau cyfleoedd i bawb |