Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 82
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 29/06/2022 - Y Cyfarfod Llawn
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y
Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Bydd y Llywydd yn galw ar
Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn
2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd Bydd y Llywydd yn galw ar
Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn
2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.21 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Gofyn i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r
Trefnydd Rhys ab Owen (Canol De Cymru): Pa
gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu setliad datganoli Cymru yn
dilyn cyhoeddiad Llywodraeth y DU am ddileu Deddf yr Undebau Llafur (Cymru)
2017? Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y rhybudd gan Dr Gwyn Williams o Goleg
Brenhinol yr Ophthalmolegwyr, y gallai ton o ddallineb diangen ledaenu drwy
Gymru os na chaiff gwasanaethau gofal llygaid eu diwygio? Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.02 Atebwyd
gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd Rhys ab Owen (Canol De Cymru):
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru
yn eu cymryd i ddiogelu setliad datganoli Cymru yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth
y DU am ddileu Deddf yr Undebau Llafur (Cymru) 2017? Atebwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol Andrew RT Davies (Canol De
Cymru): A wnaiff y Gweinidog
ddatganiad am y rhybudd gan Dr Gwyn Williams o Goleg Brenhinol yr
Ophthalmolegwyr, y gallai ton o ddallineb diangen ledaenu drwy Gymru os na
chaiff gwasanaethau gofal llygaid eu diwygio? |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Ni
wnaed unrhyw Ddatganiadau 90 Eiliad. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus - Cyfrifon Cyfunol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21 Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.18 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Aros yn iach? Effaith yr ôl-groniad o ran amseroedd aros ar bobl yng Nghymru NDM8039 Russell George (Sir Drefaldwyn) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: ‘Aros yn iach? Effaith yr ôl-groniad o
ran amseroedd aros ar bobl yng Nghymru’, a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Ebrill 2022. Noder:
Gosodwyd
ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Mehefin
2022. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.33 NDM8039 Russell George (Sir
Drefaldwyn) Cynnig
bod y Senedd: Yn
nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: ‘Aros yn iach? Effaith
yr ôl-groniad o ran amseroedd aros ar bobl yng Nghymru’, a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Ebrill 2022. Noder: Gosodwyd ymateb
Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Mehefin 2022. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl ar ddeiseb P-06-1277 - Achub yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys. Rhaid i Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg gadw gofal brys 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos, dan arweiniad meddyg ymgynghorol NDM8040 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy) Cynnig bod y Senedd: Yn
nodi’r ddeiseb, P-06-1277
Achub yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys. Rhaid i Ysbyty Cyffredinol
Llwynhelyg gadw gofal brys 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos, dan arweiniad meddyg
ymgynghorol, a gasglodd 11,168 o lofnodion. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.22 NDM8040 Jack Sargeant (Alun a
Glannau Dyfrdwy) Cynnig
bod y Senedd: Yn
nodi’r ddeiseb, P-06-1277 Achub yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys. Rhaid i
Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg gadw gofal brys 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos, dan
arweiniad meddyg ymgynghorol, a gasglodd 11,168 o lofnodion. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Diabetes NDM8041 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi bod dros 209,015
o bobl yng Nghymru yn byw gyda diabetes a bod gan Gymru'r nifer fwyaf o
achosion o ddiabetes yng ngwledydd y DU. 2. Yn mynegi pryder am
y cynnydd cyflym yn y diagnosis o ddiabetes dros yr 20 mlynedd diwethaf. 3. Yn cydnabod effaith
andwyol barhaus pandemig y coronafeirws ar amseroedd aros, mynediad at
wasanaethau, profion diagnostig, atal a gofalu am bobl â diabetes yng Nghymru. 4. Yn cydnabod yr
angen am ymrwymiad o'r newydd i wella canlyniadau i bobl sydd â diabetes ac
sydd mewn perygl o gael diabetes er mwyn cynnal y Fframwaith Gwasanaeth
Cenedlaethol ar gyfer Diabetes. 5. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gyhoeddi'r datganiad ansawdd ar gyfer diabetes cyn diwedd
mis Gorffennaf ac ymrwymo i ddatblygu cynllun gweithredu newydd ar
gyfer diabetes o fewn 12 mis. Fframwaith
Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Diabetes yng Nghymru Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu popeth ar ôl
pwynt 2 a rhoi yn ei le: Yn cydnabod bod gwaith
ar y gweill i adfer gwasanaethau arferol i bobl â diabetes yn dilyn effaith y
pandemig. Yn cydnabod yr
ymrwymiad sy'n bodoli o fewn y GIG yng Nghymru i: a) sicrhau bod pobl yn
cael eu cefnogi i wneud dewisiadau iach sy'n lleihau’r tebygolrwydd y byddant
yn datblygu diabetes math 2; b) gwneud cynnydd tuag
at gynnig cyfle i'r rhai sydd wedi cael diagnosis o ddiabetes math 2 yn ystod y
chwe blynedd diwethaf gael mynediad at wasanaeth lleddfu diabetes; a c) sicrhau gofal
hygyrch sy'n canolbwyntio ar y claf i bobl â diabetes, yn ogystal â defnyddio
technoleg ac addysg i'w helpu i reoli eu cyflwr yn well. Yn nodi bod gwaith ar
y gweill gyda rhanddeiliaid i ddatblygu datganiad ansawdd diabetes i'w gyhoeddi
yn yr hydref. [Os derbynnir gwelliant
1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol] Gwelliant 2 Sian Gwenllian (Arfon) Ychwanegu pwynt newydd
ar ôl pwynt 4 ac ailrifo yn unol â hynny: Yn credu y gallai
buddsoddi mewn mesurau ataliol arwain at leihad sylweddol mewn diabetes math 2,
ac arwain at arbedion mawr i'r GIG. Gwelliant 3 Sian Gwenllian (Arfon) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i gyhoeddi cynllun atal diabetes sy'n canolbwyntio ar ddeiet a
gweithgarwch corfforol, gyda chyllid priodol. Gwelliant 4 Sian Gwenllian (Arfon) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ymhellach ar
Lywodraeth Cymru i sicrhau bod mwy o gymorth seicolegol arbenigol ar gael
fel rhan annatod o'r cymorth a roddir i'r rhai sy'n byw gyda
diabetes. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.56 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM8041 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi bod dros 209,015 o
bobl yng Nghymru yn byw gyda diabetes a bod gan Gymru'r nifer fwyaf o achosion
o ddiabetes yng ngwledydd y DU. 2. Yn mynegi pryder am y
cynnydd cyflym yn y diagnosis o ddiabetes dros yr 20 mlynedd diwethaf. 3. Yn cydnabod effaith andwyol
barhaus pandemig y coronafeirws ar amseroedd aros, mynediad at wasanaethau,
profion diagnostig, atal a gofalu am bobl â diabetes yng Nghymru. 4. Yn cydnabod yr angen am
ymrwymiad o'r newydd i wella canlyniadau i bobl sydd â diabetes ac sydd mewn
perygl o gael diabetes er mwyn cynnal y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar
gyfer Diabetes. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i gyhoeddi'r datganiad ansawdd ar gyfer diabetes cyn diwedd mis Gorffennaf ac
ymrwymo i ddatblygu cynllun gweithredu newydd ar gyfer diabetes o fewn 12
mis. Fframwaith
Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Diabetes yng Nghymru
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley
Griffiths (Wrecsam) Dileu popeth ar ôl pwynt
2 a rhoi yn ei le: Yn cydnabod bod gwaith
ar y gweill i adfer gwasanaethau arferol i bobl â diabetes yn dilyn effaith y
pandemig. Yn cydnabod yr
ymrwymiad sy'n bodoli o fewn y GIG yng Nghymru i: a) sicrhau bod pobl yn
cael eu cefnogi i wneud dewisiadau iach sy'n lleihau’r tebygolrwydd y byddant
yn datblygu diabetes math 2; b) gwneud cynnydd tuag
at gynnig cyfle i'r rhai sydd wedi cael diagnosis o ddiabetes math 2 yn ystod y
chwe blynedd diwethaf gael mynediad at wasanaeth lleddfu diabetes; a c) sicrhau gofal
hygyrch sy'n canolbwyntio ar y claf i bobl â diabetes, yn ogystal â defnyddio
technoleg ac addysg i'w helpu i reoli eu cyflwr yn well. Yn
nodi bod gwaith ar y gweill gyda rhanddeiliaid i ddatblygu datganiad ansawdd
diabetes i'w gyhoeddi yn yr hydref. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gan fod gwelliant 1 wedi ei dderbyn, cafodd
gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Gwelliant 3 Sian Gwenllian
(Arfon) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun atal diabetes sy'n canolbwyntio ar
ddeiet a gweithgarwch corfforol, gyda chyllid priodol. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y
Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly,
gwrthodwyd gwelliant 3. Gwelliant 4 Sian Gwenllian
(Arfon) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn
galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod mwy o gymorth seicolegol
arbenigol ar gael fel rhan annatod o'r cymorth a roddir i'r rhai
sy'n byw gyda diabetes. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Llywydd
ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd
gwelliant 4. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM8041 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi bod dros 209,015 o
bobl yng Nghymru yn byw gyda diabetes a bod gan Gymru'r nifer fwyaf o achosion
o ddiabetes yng ngwledydd y DU. 2. Yn mynegi pryder am y cynnydd
cyflym yn y diagnosis o ddiabetes dros yr 20 mlynedd diwethaf. 3. Yn cydnabod bod
gwaith ar y gweill i adfer gwasanaethau arferol i bobl â diabetes yn dilyn
effaith y pandemig. 4. Yn cydnabod yr
ymrwymiad sy'n bodoli o fewn y GIG yng Nghymru i: a) sicrhau bod pobl yn
cael eu cefnogi i wneud dewisiadau iach sy'n lleihau’r tebygolrwydd y byddant
yn datblygu diabetes math 2; b) gwneud cynnydd tuag
at gynnig cyfle i'r rhai sydd wedi cael diagnosis o ddiabetes math 2 yn ystod y
chwe blynedd diwethaf gael mynediad at wasanaeth lleddfu diabetes; a c) sicrhau gofal
hygyrch sy'n canolbwyntio ar y claf i bobl â diabetes, yn ogystal â defnyddio
technoleg ac addysg i'w helpu i reoli eu cyflwr yn well. 5.
Yn nodi bod gwaith ar y gweill gyda rhanddeiliaid i ddatblygu datganiad ansawdd
diabetes i'w gyhoeddi yn yr hydref.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cystadleuaeth Cân Eurovision 2023 NDM8042 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi datganiad
yr Undeb Darlledu Ewropeaidd ar 17 Mehefin 2022. 2. Yn gresynu at y ffaith
na ellir cynnal Cystadleuaeth Cân Eurovision 2023 yn Wcráin oherwydd ymosodiad
parhaus Rwsia. 3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ymgysylltu â'r BBC a'r Undeb Darlledu Ewropeaidd ynghylch
cynnal Cystadleuaeth Cân Eurovision 2023 yng Nghymru. Undeb
Darlledu Ewrop: datganiad ar gynnal Cystadleuaeth Cân Eurovision 2023
(Saesneg yn unig) Cyflwynwyd y gwelliant
a ganlyn: Gwelliant 1 Sian Gwenllian (Arfon) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ymhellach ar
Lywodraeth Cymru i baratoi cais i Gymru gymryd rhan fel cenedl yn ei rhinwedd
ei hun yng Nghystadleuaeth Cân Eurovision, gan hyrwyddo presenoldeb Cymru ar y
llwyfan rhyngwladol. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.23 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM8042 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi datganiad yr Undeb
Darlledu Ewropeaidd ar 17 Mehefin 2022. 2. Yn gresynu at y ffaith na
ellir cynnal Cystadleuaeth Cân Eurovision 2023 yn Wcráin oherwydd ymosodiad
parhaus Rwsia. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i ymgysylltu â'r BBC a'r Undeb Darlledu Ewropeaidd ynghylch cynnal
Cystadleuaeth Cân Eurovision 2023 yng Nghymru. Undeb
Darlledu Ewrop: datganiad ar gynnal Cystadleuaeth Cân Eurovision 2023 (Saesneg yn unig)
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Cofnodion: Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 17.48 cafodd y
trafodion eu hatal dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod
Pleidleisio. Dechreuodd yr eitem am 17.53 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM7979 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy) Ein Cymru ni: creu
cenedl bêl-droed flaenllaw Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.57 NDM7979 Jack Sargeant
(Alun a Glannau Dyfrdwy) Ein Cymru ni: creu
cenedl bêl-droed flaenllaw |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |