Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 80
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 22/06/2022 - Y Cyfarfod Llawn
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhaliwyd y
cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn
ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd Bydd y Llywydd yn galw ar
Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn
2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
y 9 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau
i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg Bydd y Llywydd yn galw ar
Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn
2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.17 Gofynnwyd
cwestiynau 1, 2 a 4 - 10. Tynnwyd cwestiwn 3 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr
y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(0 munud) |
Cwestiynau Amserol Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol Cofnodion: Ni
dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.56 Gwnaeth
Elin Jones ddatganiad am - Cyhoeddi A
Repertory of Welsh Manuscripts and Scribes c800-1800 gan Dr Daniel Huws Gwnaeth
Darren Millar ddatganiad am - Wythnos y Lluoedd Arfog (20-26 Mehefin) Gwnaeth
Peter Fox ddatganiad am - Diwrnod Ymwybyddiaeth Clefyd Niwronau Motor (21
Mehefin) |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Pedwerydd Adroddiad i’r Chweched Senedd o dan Reol Sefydlog 22.9 NDM8034 Vikki Howells (Cwm Cynon) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn ystyried
Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Pedwerydd adroddiad i'r Chweched
Senedd a osodwyd
gerbron y Senedd ar 15 Mehefin 2022 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9 2.
Yn cymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.01 NDM8034 Vikki Howells (Cwm Cynon) Cynnig
bod y Senedd: 1.
Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Pedwerydd adroddiad
i'r Chweched Senedd a osodwyd gerbron y Senedd
ar 15 Mehefin 2022 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9 2.
Yn cymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Grymuso cymunedau NNDM8018 Mabon ap Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi bod Cymru'n
gartref i filoedd o grwpiau cymunedol lleol, gyda channoedd yn rhedeg asedau
sylweddol sy'n gwneud eu cymunedau'n lleoedd gwell i fyw ynddynt. 2. Yn cydnabod y
cyfraniad enfawr y mae grwpiau cymunedol wedi'i wneud o ran cefnogi pobl leol
drwy heriau'r pandemig. 3. Yn nodi bod
Llywodraeth flaenorol Cymru wedi cytuno ag argymhelliad y Pwyllgor
Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau y dylai "ddatblygu rhaglen o
rymuso cymunedau ledled Cymru gyda’r sector gwirfoddol, gan weithredu fel
gwladwriaeth alluogi ar gyfer gweithredu cymunedol". 4. Yn
nodi'r rôl bwysig y mae awdurdodau lleol yn aml yn ei chwarae o
ran sicrhau perchnogaeth gymunedol ar asedau, a gweithio mewn partneriaeth â
grwpiau cymunedol a sefydliadau eraill i sicrhau menter gymunedol lwyddiannus. 5. Yn nodi adroddiad
diweddar y Sefydliad Materion Cymreig, Ein Tir: Cymunedau a Defnyddio Tir, a
ganfu mai cymunedau Cymru yw'r rhai lleiaf grymus ym Mhrydain ac sy'n galw
am ad-drefnu sylweddol ym maes polisi cymunedol yng Nghymru. 6. Yn nodi ymhellach adroddiad
diweddar Canolfan Cydweithredol Cymru, Tir ac asedau sy’n eiddo i’r
gymuned: galluogi cyflawni tai fforddiadwy a arweinir gan y
gymuned yng Nghymru. 7. Yn nodi nad
oes gan Gymru, yn wahanol i'r Alban a Lloegr, unrhyw ddeddfwriaeth sy'n rhoi'r
hawl i gymunedau brynu asedau lleol o werth cymunedol. 8. Yn credu bod
galluogi grwpiau cymunedol i gadw adeiladau a thir lleol fel cyfleusterau
cymunedol a'u cefnogi i ddatblygu cymunedau gweithgar ac ymgysylltiedig yn
allweddol i adeiladu Cymru fwy ffyniannus, cyfartal a gwyrddach. 9. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i: a) cydweithio i
greu strategaeth cymunedau i ddatblygu gwladwriaeth sy'n galluogi
gweithredu cymunedol; b) edrych i mewn
i'r opsiynau cyfreithiol ar gyfer sefydlu hawl gymunedol i brynu yng Nghymru. Y Pwyllgor
Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Effaith COVID-19 ar y sector
gwirfoddol Ein
Tir: Cymunedau a Defnyddio Tir Cyd-gyflwynwyr Luke Fletcher (Gorllewin De Cymru) Cefnogwyr Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a
Dinefwr) Carolyn Thomas (Gogledd Cymru) Heledd Fychan (Canol De Cymru) Janet Finch-Saunders (Aberconwy) Jenny Rathbone (Canol Caerdydd) Mark Isherwood (Gogledd Cymru) Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Peredur Owen Griffiths (Dwyrain De Cymru) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.05 NNDM8018 Mabon ap Gwynfor
(Dwyfor Meirionnydd) Cynnig
bod y Senedd: 1.
Yn nodi bod Cymru'n gartref i filoedd o grwpiau cymunedol lleol, gyda channoedd
yn rhedeg asedau sylweddol sy'n gwneud eu cymunedau'n lleoedd gwell i fyw
ynddynt. 2.
Yn cydnabod y cyfraniad enfawr y mae grwpiau cymunedol wedi'i wneud o ran
cefnogi pobl leol drwy heriau'r pandemig. 3.
Yn nodi bod Llywodraeth flaenorol Cymru wedi cytuno ag argymhelliad y Pwyllgor
Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau y dylai "ddatblygu rhaglen o
rymuso cymunedau ledled Cymru gyda’r sector gwirfoddol, gan weithredu fel
gwladwriaeth alluogi ar gyfer gweithredu cymunedol". 4.
Yn nodi'r rôl bwysig y mae awdurdodau lleol yn aml yn ei
chwarae o ran sicrhau perchnogaeth gymunedol ar asedau, a gweithio mewn
partneriaeth â grwpiau cymunedol a sefydliadau eraill i sicrhau menter
gymunedol lwyddiannus. 5.
Yn nodi adroddiad diweddar y Sefydliad Materion Cymreig, Ein Tir: Cymunedau a
Defnyddio Tir, a ganfu mai cymunedau Cymru yw'r rhai lleiaf grymus ym
Mhrydain ac sy'n galw am ad-drefnu sylweddol ym maes polisi cymunedol yng
Nghymru. 6.
Yn nodi ymhellach adroddiad diweddar Canolfan Cydweithredol Cymru, Tir ac
asedau sy’n eiddo i’r gymuned: galluogi cyflawni tai fforddiadwy
a arweinir gan y gymuned yng Nghymru. 7. Yn
nodi nad oes gan Gymru, yn wahanol i'r Alban a Lloegr, unrhyw ddeddfwriaeth
sy'n rhoi'r hawl i gymunedau brynu asedau lleol o werth cymunedol. 8.
Yn credu bod galluogi grwpiau cymunedol i gadw adeiladau a thir lleol fel
cyfleusterau cymunedol a'u cefnogi i ddatblygu cymunedau gweithgar ac
ymgysylltiedig yn allweddol i adeiladu Cymru fwy ffyniannus, cyfartal a
gwyrddach. 9.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a)
cydweithio i greu strategaeth cymunedau i ddatblygu gwladwriaeth sy'n
galluogi gweithredu cymunedol; b) edrych
i mewn i'r opsiynau cyfreithiol ar gyfer sefydlu hawl gymunedol i brynu yng
Nghymru. Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Effaith
COVID-19 ar y sector gwirfoddol Ein Tir: Cymunedau a Defnyddio Tir Cyd-gyflwynwyr Luke Fletcher (Gorllewin De Cymru) Cefnogwyr Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a
Dinefwr) Carolyn Thomas (Gogledd Cymru) Heledd Fychan (Canol De Cymru) Janet Finch-Saunders (Aberconwy) Jenny Rathbone (Canol Caerdydd) Mark Isherwood (Gogledd Cymru) Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Peredur Owen Griffiths (Dwyrain De
Cymru) Sarah Murphy (Pen-y-Bont ar Ogwr) Sioned Williams (Gorllewin De
Cymru) Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith - Adroddiad Blynyddol ar Cyfoeth Naturiol Cymru NDM8032 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: ‘Adroddiad Blynyddol ar
Cyfoeth Naturiol Cymru’, a osodwyd yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 23 Mawrth 2022. Noder:
Gosodwyd
ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Mehefin
2022. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.49 NDM8032 Llyr Gruffydd (Gogledd
Cymru) Cynnig
bod y Senedd: Yn
nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: ‘Adroddiad
Blynyddol ar Cyfoeth Naturiol Cymru’, a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Mawrth 2022. Noder: Gosodwyd ymateb
Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Mehefin 2022. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Y rhwydwaith trafnidiaeth NDM8033 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1.
Yn credu nad yw rhwydwaith trafnidiaeth Cymru yn addas i'r diben. Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: 1.
Yn credu bod Llwybr Newydd yn strategaeth drafnidiaeth i Gymru sy’n briodol ar
gyfer wynebu’r argyfwng hinsawdd. 2.
Yn galw ar Lywodraeth y DU i roi cyllid digonol i Gymru fel y gall fuddsoddi yn
y rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus. Llwybr
Newydd: strategaeth drafnidiaeth Cymru 2021 Gwelliant 2 Sian Gwenllian (Arfon) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn
credu y dylid datganoli seilwaith rheilffyrdd i sicrhau bod Cymru'n cael ei
chyfran deg o brosiectau fel HS2. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.19 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM8033 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn credu nad yw rhwydwaith
trafnidiaeth Cymru yn addas i'r diben.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley
Griffiths (Wrecsam) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: 1. Yn
credu bod Llwybr Newydd yn strategaeth drafnidiaeth i Gymru sy’n briodol ar
gyfer wynebu’r argyfwng hinsawdd. 2.
Yn galw ar Lywodraeth y DU i roi cyllid digonol i Gymru fel y gall fuddsoddi yn
y rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus. Llwybr Newydd: strategaeth drafnidiaeth Cymru 2021 Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 Sian Gwenllian
(Arfon) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn
credu y dylid datganoli seilwaith rheilffyrdd i sicrhau bod Cymru'n cael ei
chyfran deg o brosiectau fel HS2. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM8033 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) 1.
Yn credu bod Llwybr Newydd yn strategaeth drafnidiaeth i Gymru sy’n briodol ar
gyfer wynebu’r argyfwng hinsawdd. 2.
Yn galw ar Lywodraeth y DU i roi cyllid digonol i Gymru fel y gall fuddsoddi yn
y rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus. 3.
Yn credu y dylid datganoli seilwaith rheilffyrdd i sicrhau bod Cymru'n cael ei
chyfran deg o brosiectau fel HS2. Llwybr Newydd: strategaeth drafnidiaeth Cymru 2021
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Cofnodion: Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 17.11 cafodd y
trafodion eu hatal dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod
Pleidleisio. Dechreuodd yr eitem am 17.17 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM8030 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd) Gwahardd o'r ysgol:
mwy o niwed nag o les? Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.22 NDM8030 Jenny Rathbone
(Canol Caerdydd) Gwahardd o'r ysgol:
mwy o niwed nag o les? |