Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 76
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 08/06/2022 - Y Cyfarfod Llawn
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhaliwyd
y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill
yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb
rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 6 gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth
Cymdeithasol. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r
Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb
rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.18 Gofynnwyd
cwestiynau 1-4 a 6-8. Tynnwyd cwestiwn 5 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y
pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol ar ôl cwestiwn 2. Am 14.30, cafodd y trafodion eu hatal dros dro am 29 munud. Cafodd y
gloch ei chanu 3 munud cyn ailgynnull. |
|||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.23 Gofynnwyd
y 5 cwestiwn. Cafodd cwestiynau 1 a 3 eu grwpio i’w hateb gyda’i gilydd. |
|||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Gofyn i’r Gweinidog Newid Hinsawdd Rhys ab Owen (Canol De Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru
yn eu cymryd i amddiffyn rhentwyr ar ôl gohirio gweithredu Deddf Rhentu
Cartrefi (Cymru) 2016? Gofyn i’r
Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Jayne Bryant
(Gorllewin Casnewydd): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am
y newyddion y bydd y grŵp sy'n berchen ar Ganolfan Ganser Rutherford yng
Nghasnewydd yn cael ei ddiddymu? Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.39 Atebwyd gan y
Gweinidog Newid Hinsawdd Rhys
ab Owen (Canol De Cymru): Pa
gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i amddiffyn rhentwyr ar ôl gohirio
gweithredu Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016? Atebwyd
gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Jayne
Bryant (Gorllewin Casnewydd): A
wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y newyddion y bydd y
grŵp sy'n berchen ar Ganolfan Ganser Rutherford yng Nghasnewydd yn cael ei
ddiddymu? |
|||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.58 Gwnaeth
Jenny Rathbone ddatganiad am – 40 mlynedd ers ymosodiadau awyr Sir
Galahad/Bluff Cove. Gwnaeth
Samuel Kurtz ddatganiad am – Wythnos Ddathlu Bwyd a Ffermio Cymru. |
|||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig i ethol Aelod i bwyllgor Dechreuodd yr eitem am 16.02 NDM8021 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14: 1. Yn
ethol James Evans (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r Pwyllgor Deddfwriaeth,
Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn lle Peter Fox (Ceidwadwyr Cymreig). Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
(120 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd - Diwygio ein Senedd: Llais cryfach i bobl Cymru NDM8014 Huw Irranca-Davies (Ogwr) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd, 'Diwygio ein
Senedd: Llais cryfach i bobl Cymru’. 2. Yn cymeradwyo’r
cyfarwyddiadau polisi a argymhellir ynghylch deddfwriaeth i ddiwygio’r Senedd
mewn digon o amser ar gyfer etholiadau nesaf y Senedd yn 2026. 3.
Yn nodi bod yr adroddiad hefyd yn galw ar y Senedd i drafod nifer o faterion
sy’n gysylltiedig â diwygio’r Senedd. Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd) Dileu pwynt 2 a rhoi
yn ei le: Yn gresynu at y
datganiad sefyllfa ar ddiwygio'r Senedd gan Lywodraeth Cymru ar 10 Mai 2022 a
oedd yn tanseilio annibyniaeth a gwaith y pwyllgor. Gwelliant 2 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd) Ychwanegu pwynt newydd
ar ôl pwynt 2 ac ailrifo yn unol â hynny: Yn
gresynu at y ffaith na fyddai'r system bleidleisio a gynigir gan y pwyllgor yn
caniatáu i bleidleiswyr bleidleisio dros ymgeisydd unigol o'u dewis. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.02 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM8014 Huw Irranca-Davies (Ogwr) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd, 'Diwygio ein Senedd: Llais cryfach i
bobl Cymru’. 2. Yn cymeradwyo’r
cyfarwyddiadau polisi a argymhellir ynghylch deddfwriaeth i ddiwygio’r Senedd
mewn digon o amser ar gyfer etholiadau nesaf y Senedd yn 2026. 3.
Yn nodi bod yr adroddiad hefyd yn galw ar y Senedd i drafod nifer o faterion
sy’n gysylltiedig â diwygio’r Senedd. Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Dileu
pwynt 2 a rhoi yn ei le: Yn
gresynu at y datganiad sefyllfa ar ddiwygio'r Senedd gan Lywodraeth Cymru ar 10
Mai 2022 a oedd yn tanseilio annibyniaeth a gwaith y pwyllgor. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant
2 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Ychwanegu
pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ailrifo yn unol â hynny: Yn
gresynu at y ffaith na fyddai'r system bleidleisio a gynigir gan y pwyllgor yn
caniatáu i bleidleiswyr bleidleisio dros ymgeisydd unigol o'u dewis. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
Gwrthodwyd gwelliant 2. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM8014 Huw Irranca-Davies (Ogwr) Cynnig
bod y Senedd: 1.
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd, 'Diwygio
ein Senedd: Llais cryfach i bobl Cymru’. 2.
Yn cymeradwyo’r cyfarwyddiadau polisi a argymhellir ynghylch deddfwriaeth i
ddiwygio’r Senedd mewn digon o amser ar gyfer etholiadau nesaf y Senedd yn
2026. 3.
Yn nodi bod yr adroddiad hefyd yn galw ar y Senedd i drafod nifer o faterion
sy’n gysylltiedig â diwygio’r Senedd.
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr NDM8015 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn gresynu at y ffaith
bod Llywodraeth Cymru wedi methu â chyflawni'r gwelliannau a addawyd ym Mwrdd
Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. 2. Yn credu bod y
penderfyniad i symud y bwrdd iechyd o fesurau arbennig ym mis Tachwedd 2020 yn
amhriodol. 3.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i osod trefn mesurau arbennig ddiwygiedig i roi'r
arweiniad a'r adnoddau sydd eu hangen ar y bwrdd iechyd i fynd i'r afael â
methiannau, a darparu'r gofal iechyd o ansawdd uchel y mae pobl Gogledd Cymru
yn ei haeddu. Cyflwynwyd y gwelliant
a ganlyn: Gwelliant 1 Sian Gwenllian (Arfon) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn
galw am gomisiynu adolygiad annibynnol i ystyried manteision posibl disodli
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr â strwythurau newydd i ddarparu gofal
iechyd yn y gogledd, oherwydd ei broblemau cronig. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.14 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM8015 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn gresynu at y ffaith bod
Llywodraeth Cymru wedi methu â chyflawni'r gwelliannau a addawyd ym Mwrdd
Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. 2. Yn credu bod y penderfyniad
i symud y bwrdd iechyd o fesurau arbennig ym mis Tachwedd 2020 yn amhriodol. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i osod trefn mesurau arbennig ddiwygiedig i roi'r arweiniad a'r adnoddau sydd
eu hangen ar y bwrdd iechyd i fynd i'r afael â methiannau, a darparu'r gofal
iechyd o ansawdd uchel y mae pobl Gogledd Cymru yn ei haeddu.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliant a ganlyn: Gwelliant 1 Sian
Gwenllian (Arfon) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw am gomisiynu adolygiad annibynnol i ystyried
manteision posibl disodli Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr â strwythurau
newydd i ddarparu gofal iechyd yn y gogledd, oherwydd ei broblemau cronig. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20,
defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y
gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant. Gan fod y Senedd wedi gwrthod y
cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliant i'r cynnig, gwrthodwyd y
cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Cofnodion: Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 19.19 cafodd y trafodion eu hatal
dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio. Dechreuodd yr eitem am 19.25 |
||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM8011 Joel James (Canol De Cymru) Materion
cudd sy'n effeithio ar bobl fyddar a phobl sy'n dioddef o golled clyw Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 19.30 NDM8011 Joel James (Canol De Cymru) Materion
cudd sy'n effeithio ar bobl fyddar a phobl sy'n dioddef o golled clyw |