Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 73
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 24/05/2022 - Y Cyfarfod Llawn
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai
Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
cwestiynau 1 – 4 a 6 – 9. Tynnwyd cwestiwn 5 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr
y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.31 |
|
(60 munud) |
Dadl: Y Jiwbilî Blatinwm NDM8006 Lesley
Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod y Senedd: Yn llongyfarch Ei Mawrhydi y Frenhines ar achlysur ei Jiwbilî
Blatinwm ac yn talu teyrnged i’w chefnogaeth ddiwyro i Gymru dros y 70 mlynedd
ddiwethaf. Cefnogwyr: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.53 NDM8006 Lesley
Griffiths (Wrecsam) Cynnig
bod y Senedd: Yn
llongyfarch Ei Mawrhydi y Frenhines ar achlysur ei Jiwbilî Blatinwm ac yn talu
teyrnged i’w chefnogaeth ddiwyro i Gymru dros y 70 mlynedd ddiwethaf. Cefnogwyr: Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|
(30 munud) |
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Cynllun Gweithredu Anableddau Dysgu Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.31 |
|
(30 munud) |
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cymraeg yn y gweithlu addysg Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.02 |
|
(45 munud) |
Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Cyfiawnder yng Nghymru Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 16.33 |
|
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Nid oedd cyfnod pleidleisio. |