Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 67
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 03/05/2022 - Y Cyfarfod Llawn
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai
Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2. Ar
ran yr holl Aelodau, croesawodd y Llywydd Masizole Mngasela, Llefarydd Senedd
Talaith y Western Cape De Affrica, a'i ddirprwyaeth i'r Senedd. |
|||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.34 |
|||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan Weinidog yr Economi: Mesurau Rheoli Ffin Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.42 |
|||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diweddariad ar Wcráin Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.12 |
|||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Presenoldeb Ysgol Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.44 |
|||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl: Hawliau Dynol NDM7991 Lesley Griffiths
(Wrecsam) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi
ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gryfhau a hyrwyddo hawliau dynol, cydraddoldeb a
diogelu cymunedau lleiafrifol yng Nghymru. 2. Yn nodi â
phryder difrifol y symudiadau mynych gan Lywodraeth y DU i leihau hawliau
dynol. 3. Yn credu bod
cynigion Llywodraeth y DU i ddiddymu'r Ddeddf Hawliau Dynol yn tanseilio
amddiffyniadau allweddol i ddinasyddion ac yn codi materion cyfansoddiadol
sylweddol. 4. Yn credu bod
Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd yn tanseilio hawliau cymunedau
lleiafrifol ac yn peryglu'r hawl i brotestio’n gyfreithlon ac yn heddychlon. 5. Yn cytuno â Rapporteur Arbennig y Cenhedloedd Unedig y byddai'r Bil
Cenedligrwydd a Ffiniau yn tanseilio'n ddifrifol y broses o ddiogelu hawliau
dynol ac yn arwain at ymyriadau difrifol â hawliau dynol. 6. Yn galw ar
Lywodraeth y DU i wrthdroi ei dull o ymdrin â Hawliau Dynol, sy’n gam yn ôl,
a'r tramgwyddo’n erbyn y cyfansoddiad yn sgil hynny. Diwygio’r
Ddeddf Hawliau Dynol: Mesur Hawliau Modern (Saesneg yn unig) Bil
yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd (Saesneg yn unig) Y
Bil Cenedligrwydd a Ffiniau (Saesneg yn unig) Cyd-gyflwynwyr Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn: Gwelliant 1 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd) Dileu popeth a rhoi yn ei
le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y
DU i ddiogelu a chynnal hawliau dynol. 2. Yn nodi cynigion Llywodraeth y DU i foderneiddio a gwneud deddfwriaeth hawliau dynol yn addas i'r diben. 3. Yn credu bod angen cydbwysedd priodol rhwng hawliau a chyfrifoldebau unigol. 4. Yn gresynu at record Llywodraeth Cymru o bleidleisio
yn erbyn hawliau dynol gan
gynnwys pleidleisio yn erbyn cyflwyno
Bil hawliau pobl hŷn yn ystod
y Pumed Senedd. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.14 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM7991 Lesley
Griffiths (Wrecsam) Cynnig
bod y Senedd: 1. Yn
nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gryfhau a hyrwyddo hawliau dynol,
cydraddoldeb a diogelu cymunedau lleiafrifol yng Nghymru. 2. Yn
nodi â phryder difrifol y symudiadau mynych gan Lywodraeth y DU i leihau
hawliau dynol. 3. Yn
credu bod cynigion Llywodraeth y DU i ddiddymu'r Ddeddf Hawliau Dynol yn
tanseilio amddiffyniadau allweddol i ddinasyddion ac yn codi materion cyfansoddiadol
sylweddol. 4. Yn
credu bod Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd yn tanseilio hawliau
cymunedau lleiafrifol ac yn peryglu'r hawl i brotestio’n gyfreithlon ac yn
heddychlon. 5. Yn
cytuno â Rapporteur Arbennig y Cenhedloedd Unedig y byddai'r Bil
Cenedligrwydd a Ffiniau yn tanseilio'n ddifrifol y broses o ddiogelu hawliau
dynol ac yn arwain at ymyriadau difrifol â hawliau dynol. 6. Yn
galw ar Lywodraeth y DU i wrthdroi ei dull o ymdrin â Hawliau Dynol, sy’n gam
yn ôl, a'r tramgwyddo’n erbyn y cyfansoddiad yn sgil hynny. Diwygio’r
Ddeddf Hawliau Dynol: Mesur Hawliau Modern (Saesneg yn
unig) Bil yr
Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd (Saesneg yn
unig) Y Bil
Cenedligrwydd a Ffiniau (Saesneg yn unig) Cyd-gyflwynwyr Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod
y Senedd: 1. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth
y 2. Yn nodi cynigion Llywodraeth
y
DU i foderneiddio a gwneud deddfwriaeth hawliau dynol yn addas i'r diben. 3. Yn credu bod angen cydbwysedd priodol rhwng hawliau a chyfrifoldebau unigol. 4. Yn gresynu at
record Llywodraeth Cymru
o bleidleisio yn erbyn hawliau dynol gan gynnwys pleidleisio yn erbyn cyflwyno Bil hawliau pobl hŷn yn ystod y Pumed Senedd. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM7991 Lesley Griffiths
(Wrecsam) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn
nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gryfhau a hyrwyddo hawliau dynol,
cydraddoldeb a diogelu cymunedau lleiafrifol yng Nghymru. 2. Yn
nodi â phryder difrifol y symudiadau mynych gan Lywodraeth y DU i leihau
hawliau dynol. 3. Yn
credu bod cynigion Llywodraeth y DU i ddiddymu'r Ddeddf Hawliau Dynol yn
tanseilio amddiffyniadau allweddol i ddinasyddion ac yn codi materion
cyfansoddiadol sylweddol. 4. Yn
credu bod Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd yn tanseilio hawliau
cymunedau lleiafrifol ac yn peryglu'r hawl i brotestio’n gyfreithlon ac yn
heddychlon. 5. Yn
cytuno â Rapporteur Arbennig y Cenhedloedd Unedig y byddai'r Bil
Cenedligrwydd a Ffiniau yn tanseilio'n ddifrifol y broses o ddiogelu hawliau
dynol ac yn arwain at ymyriadau difrifol â hawliau dynol. 6. Yn
galw ar Lywodraeth y DU i wrthdroi ei dull o ymdrin â Hawliau Dynol, sy’n gam
yn ôl, a'r tramgwyddo’n erbyn y cyfansoddiad yn sgil hynny. Diwygio’r
Ddeddf Hawliau Dynol: Mesur Hawliau Modern (Saesneg yn unig) Bil
yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd (Saesneg yn unig) Y
Bil Cenedligrwydd a Ffiniau (Saesneg yn unig) Cyd-gyflwynwyr
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 17.08 cafodd y trafodion eu hatal
dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio. |
|||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr
eitem am 17.13 |
||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |