Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 48(v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 26/01/2022 - Y Cyfarfod Llawn
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf rhithwir, gyda’r Aelodau yn ymuno
drwy gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 3, 5, 7 ac 8 gan y Dirprwy Weinidog
Newid Hinsawdd. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r
Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.20 Gofynnwyd
cwestiynau 1–4 a 6–8. Ni ofynnwyd cwestiwn 5. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y
pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(0 munud) |
Cwestiynau Amserol Ni chafwyd unrhyw Gwestiynau Amserol. Cofnodion: Ni
chafwyd unrhyw Gwestiynau Amserol. |
|||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.05 Gwnaeth
Sioned Williams ddatganiad i nodi Diwrnod Rhyngwladol Addysg. Gwnaeth
Heledd Fychan ddatganiad i ddathlu canmlwyddiant yr Urdd. Gwnaeth
Carolyn Thomas ddatganiad i ddathlu sefydlu yr Adran leol gyntaf o’r Urdd yn
Treuddyn, Sir y Fflint. |
|||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 10.5 i benodi Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru NDM7893
Peredur
Owen Griffiths (Dwyrain De Cymru) Cynnig
bod y Senedd: 1.
Yn mynegi ei diolchgarwch am gyfraniad Nick Bennett yn ystod ei dymor yn swydd
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. 2.
Yn unol â Rheol Sefydlog 10.5 a, gan weithredu o dan baragraff 1 i Atodlen 1
Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019, yn enwebu Michelle Morris
i’w phenodi i swydd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru gan Ei Mawrhydi am
dymor o saith mlynedd i ddechrau ar 1 Ebrill 2022. Dogfen
ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.10 NDM7893 Peredur
Owen Griffiths (Dwyrain De Cymru) Cynnig
bod y Senedd: 1.
Yn mynegi ei diolchgarwch am gyfraniad Nick Bennett yn ystod ei dymor yn swydd
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. 2.
Yn unol â Rheol Sefydlog 10.5 a, gan weithredu o dan baragraff 1 i Atodlen 1
Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019, yn enwebu Michelle Morris
i’w phenodi i swydd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru gan Ei Mawrhydi am
dymor o saith mlynedd i ddechrau ar 1 Ebrill 2022. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) – Trafnidiaeth gyhoeddus mewn ardaloedd gwledig NDM7880 Cynnig
bod y Senedd: 1.
Yn nodi y cymerwyd 101 miliwn o deithiau bws yng Nghymru yn 2018/19, o'i
gymharu â 129 miliwn yn 2004/05. 2.
Yn nodi ymhellach nad oes gan 23 y cant o bobl yng Nghymru fynediad at gar neu
fan. 3.
Yn cydnabod bod trafnidiaeth gyhoeddus yn hanfodol yng nghefn gwlad Cymru i
atal pobl rhag teimlo'n unig ac ynysig. 4.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a)
darparu cyllid hirdymor cynaliadwy i awdurdodau lleol er mwyn gwella
gwasanaethau bysiau gwledig; b)
sicrhau bod cynghorau gwledig yn cael cyfran deg o fuddsoddiad yn y dyfodol ar
gyfer trafnidiaeth gyhoeddus a chynlluniau teithio llesol; c)
gwarantu bod Strategaeth Fysiau Genedlaethol Cymru yn ystyried heriau unigryw
trafnidiaeth gyhoeddus yng nghefn gwlad Cymru. d)
blaenoriaethu buddsoddi mewn cerbydau trafnidiaeth gyhoeddus nad ydynt yn
achosi allyriadau mewn ardaloedd gwledig. Cefnogwyr: Cyflwynwyd
y gwelliant a ganlyn: Gwelliant
1 Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
cydnabod y difrod a wnaed drwy breifateiddio gwasanaethau bysiau yn y 1980au ac
yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth i ail-reoleiddio
gwasanaethau bysiau fel mater o frys yn y Senedd hon. Cefnogwr: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.15 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr
eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7880 Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi y cymerwyd 101
miliwn o deithiau bws yng Nghymru yn 2018/19, o'i gymharu â 129 miliwn yn
2004/05. 2. Yn nodi ymhellach nad oes
gan 23 y cant o bobl yng Nghymru fynediad at gar neu fan. 3. Yn cydnabod bod trafnidiaeth
gyhoeddus yn hanfodol yng nghefn gwlad Cymru i atal pobl rhag teimlo'n
unig ac ynysig. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i: a) darparu cyllid hirdymor
cynaliadwy i awdurdodau lleol er mwyn gwella gwasanaethau bysiau gwledig; b) sicrhau bod cynghorau
gwledig yn cael cyfran deg o fuddsoddiad yn y dyfodol ar gyfer trafnidiaeth
gyhoeddus a chynlluniau teithio llesol; c) gwarantu bod Strategaeth
Fysiau Genedlaethol Cymru yn ystyried heriau unigryw trafnidiaeth gyhoeddus yng
nghefn gwlad Cymru. d) blaenoriaethu buddsoddi mewn
cerbydau trafnidiaeth gyhoeddus nad ydynt yn achosi allyriadau mewn ardaloedd
gwledig.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliant a ganlyn: Gwelliant 1 Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod y difrod a wnaed drwy breifateiddio
gwasanaethau bysiau yn y 1980au ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno
deddfwriaeth i ail-reoleiddio gwasanaethau bysiau fel mater o frys yn y Senedd
hon. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM7880 Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi y cymerwyd 101
miliwn o deithiau bws yng Nghymru yn 2018/19, o'i gymharu â 129 miliwn yn
2004/05. 2. Yn nodi ymhellach nad oes
gan 23 y cant o bobl yng Nghymru fynediad at gar neu fan. 3. Yn cydnabod bod trafnidiaeth
gyhoeddus yn hanfodol yng nghefn gwlad Cymru i atal pobl rhag teimlo'n
unig ac ynysig. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i: a) darparu cyllid hirdymor
cynaliadwy i awdurdodau lleol er mwyn gwella gwasanaethau bysiau gwledig; b) sicrhau bod cynghorau
gwledig yn cael cyfran deg o fuddsoddiad yn y dyfodol ar gyfer trafnidiaeth
gyhoeddus a chynlluniau teithio llesol; c) gwarantu bod Strategaeth Fysiau
Genedlaethol Cymru yn ystyried heriau unigryw trafnidiaeth gyhoeddus yng nghefn
gwlad Cymru. d) blaenoriaethu buddsoddi mewn
cerbydau trafnidiaeth gyhoeddus nad ydynt yn achosi allyriadau mewn ardaloedd
gwledig. 5. Yn
cydnabod y difrod a wnaed drwy breifateiddio gwasanaethau bysiau yn y 1980au ac
yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth i ail-reoleiddio
gwasanaethau bysiau fel mater o frys yn y Senedd hon.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig – Effaith Covid ar addysg NDM7895
Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig
bod y Senedd: 1.
Yn gresynu at effaith andwyol cyfyngiadau COVID-19 ar blant a phobl ifanc
ledled Cymru, gan gynnwys: a)
dysgwyr yng Nghymru yn colli mwy o ddyddiau o'u haddysg na dysgwyr mewn
rhannau eraill o'r DU yn ystod y pandemig; b)
casgliad Estyn bod holl sgiliau mathemateg, darllen, iaith Gymraeg a
chymdeithasol dysgwyr wedi dioddef o ganlyniad i gau ysgolion. 2.
Yn nodi'r diffyg parhaus o ran cyllid fesul disgybl yng Nghymru o'i chymharu â
rhannau eraill o'r DU. 3.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i oresgyn effaith y pandemig ar
ddysgwyr Cymru er mwyn sicrhau y gall pob person ifanc gyrraedd ei botensial,
drwy: a)
gwarantu y bydd ysgolion yn aros ar agor; b)
cael gwared ar y gofyniad i wisgo gorchuddion wyneb mewn ysgolion a cholegau
cyn gynted â phosibl; c)
cyflymu'r broses o gyflwyno addasiadau awyru gwell mewn amgylcheddau dysgu; d)
codi'r gwastad o ran cyllid ysgolion ledled Cymru i fynd i'r afael â'r
diffyg yng Nghymru o'i chymharu â chenhedloedd eraill y DU. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1. Lesley
Griffiths (Wrecsam) Dileu
popeth a rhoi yn ei le: 1.
Yn gresynu at effaith andwyol COVID-19 ar ddysgu a lles plant a phobl ifanc. 2.
Yn credu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru barhau i gymryd camau priodol i
sicrhau bod addysgu wyneb yn wyneb yn cael ei flaenoriaethu a bod yn rhaid
gwneud penderfyniadau i leihau mesurau diogelu rhag COVID mewn ysgolion yn unol
â'r data. 3.
Yn credu bod blaenoriaethu lles disgyblion a staff yn hanfodol wrth i ni ymateb
i'r pandemig. 4.
Yn nodi canfyddiadau'r Sefydliad Polisi Addysg bod Cymru'n gwario'r swm mwyaf
fesul disgybl ar adfer addysg yn y DU. 5.
Yn croesawu bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi'n ddiweddar: a)
£50 miliwn o gyllid cyfalaf ychwanegol i alluogi ysgolion i ymgymryd â gwaith
atgyweirio a gwella, gan ganolbwyntio ar fesurau iechyd a diogelwch, megis
gwella awyru; b)
£45 miliwn o gyllid refeniw ychwanegol i gefnogi ysgolion wrth iddynt barhau i
ddelio ag effeithiau parhaus y pandemig ac i baratoi ar gyfer gofynion y
cwricwlwm newydd Comparing
education catch-up spending within and outside the UK - Education Policy
Institute (epi.org.uk) (Saesneg yn unig) [Os
derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol] Gwelliant
2. Sian Gwellian
(Arfon) Dileu
pwynt 1 a rhoi yn ei le: Yn
gresynu at effaith andwyol cyfyngiadau COVID-19 ar blant a phobl ifanc ledled
Cymru. Gwelliant
3. Sian Gwellian
(Arfon) Dileu
popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le: Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod unrhyw effeithiau y mae'r pandemig COVID-19
parhaus yn eu cael ar blant a phobl ifanc yn y dyfodol, yn enwedig o ran dysgu
ac iechyd meddwl, yn cael eu lleihau drwy fuddsoddi mewn: a)
technoleg hidlo aer i sicrhau bod pob ymdrech yn cael ei wneud i gadw ysgolion
yn agored ac yn ddiogel; b)
darpariaeth iechyd meddwl i flaenoriaethu iechyd meddwl a llesiant. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.19 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7895 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn gresynu at effaith
andwyol cyfyngiadau COVID-19 ar blant a phobl ifanc ledled Cymru, gan gynnwys: a) dysgwyr yng Nghymru
yn colli mwy o ddyddiau o'u haddysg na dysgwyr mewn rhannau eraill o'r DU
yn ystod y pandemig; b) casgliad Estyn bod holl
sgiliau mathemateg, darllen, iaith Gymraeg a chymdeithasol dysgwyr wedi dioddef
o ganlyniad i gau ysgolion. 2. Yn nodi'r diffyg parhaus o
ran cyllid fesul disgybl yng Nghymru o'i chymharu â rhannau eraill o'r DU. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i gymryd camau i oresgyn effaith y pandemig ar ddysgwyr Cymru er mwyn sicrhau y
gall pob person ifanc gyrraedd ei botensial, drwy: a) gwarantu y bydd ysgolion yn
aros ar agor; b) cael gwared ar y gofyniad i
wisgo gorchuddion wyneb mewn ysgolion a cholegau cyn gynted â phosibl; c) cyflymu'r broses o gyflwyno
addasiadau awyru gwell mewn amgylcheddau dysgu; d) codi'r gwastad o ran cyllid
ysgolion ledled Cymru i fynd i'r afael â'r diffyg yng Nghymru o'i
chymharu â chenhedloedd eraill y DU.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Lesley
Griffiths (Wrecsam) Dileu popeth a rhoi yn ei le: 1. Yn gresynu at effaith andwyol COVID-19 ar ddysgu a
lles plant a phobl ifanc. 2. Yn credu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru barhau i
gymryd camau priodol i sicrhau bod addysgu wyneb yn wyneb yn cael ei
flaenoriaethu a bod yn rhaid gwneud penderfyniadau i leihau mesurau diogelu
rhag COVID mewn ysgolion yn unol â'r data. 3. Yn credu bod blaenoriaethu lles disgyblion a staff yn
hanfodol wrth i ni ymateb i'r pandemig. 4. Yn nodi canfyddiadau'r Sefydliad Polisi Addysg bod
Cymru'n gwario'r swm mwyaf fesul disgybl ar adfer addysg yn y DU. 5. Yn croesawu bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi'n
ddiweddar: a) £50 miliwn o gyllid cyfalaf ychwanegol i alluogi
ysgolion i ymgymryd â gwaith atgyweirio a gwella, gan ganolbwyntio ar fesurau
iechyd a diogelwch, megis gwella awyru; b) £45 miliwn o gyllid refeniw ychwanegol i gefnogi
ysgolion wrth iddynt barhau i ddelio ag effeithiau parhaus y pandemig ac i baratoi
ar gyfer gofynion y cwricwlwm newydd. Comparing
education catch-up spending within and outside the UK - Education Policy
Institute (epi.org.uk) (Saesneg yn
unig) Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM7895 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn gresynu at effaith andwyol COVID-19 ar ddysgu a
lles plant a phobl ifanc. 2. Yn credu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru barhau i
gymryd camau priodol i sicrhau bod addysgu wyneb yn wyneb yn cael ei
flaenoriaethu a bod yn rhaid gwneud penderfyniadau i leihau mesurau diogelu
rhag COVID mewn ysgolion yn unol â'r data. 3. Yn credu bod blaenoriaethu lles disgyblion a staff yn
hanfodol wrth i ni ymateb i'r pandemig. 4. Yn nodi canfyddiadau'r Sefydliad Polisi Addysg bod
Cymru'n gwario'r swm mwyaf fesul disgybl ar adfer addysg yn y DU. 5. Yn croesawu bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi'n
ddiweddar: a) £50 miliwn o gyllid cyfalaf ychwanegol i alluogi
ysgolion i ymgymryd â gwaith atgyweirio a gwella, gan ganolbwyntio ar fesurau
iechyd a diogelwch, megis gwella awyru; b) £45 miliwn o gyllid refeniw ychwanegol i gefnogi
ysgolion wrth iddynt barhau i ddelio ag effeithiau parhaus y pandemig ac i
baratoi ar gyfer gofynion y cwricwlwm newydd. Comparing
education catch-up spending within and outside the UK - Education Policy
Institute (epi.org.uk) (Saesneg yn
unig)
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru – Bil Etholiadau llywodraeth y DU NDM7894
Siân Gwenllian
(Arfon) Cynnig
bod y Senedd: 1.
Yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau bod etholiadau'n deg ac yn hygyrch i bob
pleidleisiwr. 2.
Yn condemnio Llywodraeth y DU am gyflwyno'r Bil Etholiadau a fydd yn cyflwyno
newidiadau mawr i etholiadau a gadwyd yn ôl, gan gynnwys ei gwneud hi'n ofynnol
cyflwyno dulliau adnabod ffotograffig i bleidleisio. 3.
Yn cefnogi ymgyrch #HandsOffOurVote sy'n ceisio sicrhau na chaiff unrhyw
bleidleisiwr cyfreithlon ei droi i ffwrdd o'r blwch pleidleisio. 4.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wrthwynebu'r mesurau a gyflwynwyd gan y Bil
Etholiadau ar bob cyfle gyda Llywodraeth y DU a chodi pryderon yn eu cylch. Cyflwynwyd
y gwelliant canlynol: Gwelliant 1. Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Dileu
popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le: Yn
croesawu Bil Etholiadau Llywodraeth y DU a'i ddarpariaethau i gryfhau uniondeb
etholiadau ledled y Deyrnas Unedig. Yn
nodi bod cyflwyno ID pleidleiswyr wedi'i gefnogi gan y Comisiwn Etholiadol a
bod Swyddfa Sefydliadau Democrataidd a Hawliau Dynol y Sefydliad ar gyfer
Diogelwch a Chydweithredu yn Ewrop wedi datgan bod ei absenoldeb yn risg
diogelwch. Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i gydweithio â Llywodraeth y DU i wella uniondeb yr
holl etholiadau a gynhelir yng Nghymru. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.12 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr
eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7894 Siân
Gwenllian (Arfon) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod pwysigrwydd
sicrhau bod etholiadau'n deg ac yn hygyrch i bob pleidleisiwr. 2. Yn condemnio Llywodraeth y
DU am gyflwyno'r Bil Etholiadau a fydd yn cyflwyno newidiadau mawr i etholiadau
a gadwyd yn ôl, gan gynnwys ei gwneud hi'n ofynnol cyflwyno dulliau adnabod
ffotograffig i bleidleisio. 3. Yn cefnogi ymgyrch
#HandsOffOurVote sy'n ceisio sicrhau na chaiff unrhyw bleidleisiwr cyfreithlon
ei droi i ffwrdd o'r blwch pleidleisio. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i wrthwynebu'r mesurau a gyflwynwyd gan y Bil Etholiadau ar bob cyfle gyda
Llywodraeth y DU a chodi pryderon yn eu cylch.
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 18.08 cafodd y trafodion eu hatal
dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio. |
|||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.10 |
||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM7892
Russell
George (Sir Drefaldwyn) Manteision
adfer camlas Trefaldwyn: edrych ar gynnydd a manteision y gwaith adfer parhaus
sy'n cael ei wneud gan grŵp angerddol o unigolion, gwirfoddolwyr a
sefydliadau lleol. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.15 NDM7892 Russell George (Sir Drefaldwyn) Manteision adfer
camlas Trefaldwyn: edrych ar gynnydd a manteision y gwaith adfer parhaus sy'n
cael ei wneud gan grŵp angerddol o unigolion, gwirfoddolwyr a
sefydliadau lleol. |