Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 62 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 23/03/2022 - Y Cyfarfod Llawn

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

(45 munud)

1.

Cwestiynau i Weinidog yr Economi

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

Topical Question

The item started at 14.19

Atebwyd gan Weinidog yr Economi

Luke Fletcher (Gorllewin De Cymru):

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y bydd penderfyniad yr Uchel Lys mewn perthynas â pharc ynni Baglan yn ei chael ar fusnesau?

(45 munud)

2.

Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.27

Gofynnwyd cwestiynau 1-3 a 5-9. Tynnwyd cwestiynau 4 a 8 yn ôl. Atebwyd cwestiwn 1 gan y Dirprwy Weinidog Iechyd meddwl a Llesiant, atebwyd Cwestiwn 9 gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog â’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ar ôl cwestiwn 2.

(10 munud)

3.

Cwestiynau Amserol

Cwestiwn i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynnydd sy'n cael ei wneud o ran lletya ffoaduriaid o Wcráin yng Nghymru?

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.16

Atebwyd gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynnydd sy'n cael ei wneud o ran lletya ffoaduriaid o Wcráin yng Nghymru?

(5 munud)

4.

Datganiadau 90 eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gwnaeth Janet Finch-Saunders ddatganiad am - Mwyngloddiau'r Gogarth. Wedi’u datguddio ym 1987 yn ystod cynllun i dirlunio ardal o’r Gogarth, mae’r mwynfeydd copr a gafodd eu darganfod ymhlith y darganfyddiadau archeolegol mwyaf syfrdanol yn y cyfnod diweddar.

Gwnaeth Russell George ddatganiad am - Cydnabod gwaith etholwr sydd wedi sefydlu taith gerdded a siarad i ddynion ar gyfer iechyd meddwl, ar ôl i nifer o ddynion ifanc, yn anffodus, gyflawni hunanladdiad yn y Drenewydd.

(60 munud)

5.

Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Adeiladau Crefyddol

NDM7953 Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod adeiladau crefyddol, gan gynnwys eglwysi a chapeli, yn parhau i gael eu cau ledled Cymru.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r gwahanol enwadau yng Nghymru i drafod dyfodol yr adeiladau hyn.

Cyd-gyflwynwyr

Darren Millar

Jane Dodds

Rhys ab Owen

Cefnogwyr

Alun Davies

Russell George

Sam Rowlands

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.33

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

6.

Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Cyfeiriad newydd ar gyfer gyrwyr cerbydau nwyddau trwm – Mynd i'r afael â diffyg gyrwyr cerbydau nwyddau trwm a phroblemau cysylltiedig â’r gadwyn gyflenwi

NDM7961 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar ei imchwiliad: Cyfeiriad newydd ar gyfer gyrwyrcerbydau nwyddau trwm, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Ionawr 2022..

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Mawrth 2022.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.27

NDM7961 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar ei imchwiliad: Cyfeiriad newydd ar gyfer gyrwyrcerbydau nwyddau trwm, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Ionawr 2022..

NoderGosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Mawrth 2022.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

7.

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Diogelwch Bwyd

NDM7963 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod y cyfraniad hanfodol y mae ffermwyr a chymunedau gwledig yn ei wneud i iechyd a ffyniant y genedl.

2. Yn nodi'r effaith negyddol ar ddiogelwch y cyflenwad bwyd byd-eang sy'n deillio o ymosodiad Rwsia ar Wcráin, a'r effaith uniongyrchol y mae'n ei chael ar bobl yng Nghymru.

3. Yn credu bod angen chwyldro amgylcheddol a chynhyrchu bwyd yng Nghymru.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cynnull uwchgynhadledd fwyd gan gynnwys ffermwyr, proseswyr a manwerthwyr, fel y gall Cymru chwarae ei rhan i dyfu ei sylfaen cynhyrchu bwyd a rhoi hwb i ddiogelwch bwyd;

b) defnyddio'r Bil Amaethyddiaeth (Cymru) arfaethedig i gorffori diogelwch bwyd er lles y cyhoedd;

c) gwneud diogelwch bwyd yn gonglfaen allweddol i gymorth i ffermwyr Cymru yn y dyfodol, gan gynnwys cymhellion;

d) cefnogi'r Bil Bwyd (Cymru) arfaethedig.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu pwyntiau 3 a 4 a rhoi yn eu lle:

Yn gresynu mai'r bygythiad mwyaf uniongyrchol i ddiogelwch y cyflenwad bwyd i bobl sy'n byw yng Nghymru heddiw yw'r argyfwng costau byw a grëwyd gan Lywodraeth Geidwadol y DU.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) ddatblygu Strategaeth Bwyd Cymunedol i Gymru er mwyn annog y gwaith o gynhyrchu a chyflenwi bwyd lleol yng Nghymru, gan gefnogi ein cymunedau i sicrhau newid cadarnhaol yn ein system fwyd;

b) creu system newydd o gymorth i ffermydd sy'n cydnabod y gwaith o gynhyrchu bwyd lleol sy'n gynaliadwy yn ecolegol, gan adlewyrchu egwyddorion y Cenhedloedd Unedig o Reoli Tir yn Gynaliadwy.

[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 eu ddad-ddethol]

Gwelliant 2 Sian Gwenllian (Arfon)

Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:

Yn nodi pwysigrwydd ffermydd teuluol bach cynhyrchiol o ran cynnal yr economi, yr iaith a'r diwylliant yng nghefn gwlad Cymru.

Yn credu y bydd toriadau i gyllid amaethyddol Cymru gan Lywodraeth y DU, ynghyd â Chytundebau Masnach Rydd newydd gyda gwledydd fel Awstralia a Seland Newydd, yn cael effaith negyddol bellach ar ddiogelwch y cyflenwad bwyd a chynhyrchu bwyd yng Nghymru.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cynnull uwchgynhadledd fwyd gan gynnwys ffermwyr, proseswyr a manwerthwyr, fel y gall Cymru chwarae ei rhan i dyfu ei sylfaen cynhyrchu bwyd a rhoi hwb i ddiogelwch bwyd;

b) amddiffyn diogelwch bwyd a chynhyrchu bwyd drwy ddarparu taliadau sefydlogrwydd fel rhan o'r cynllun cymorth ffermio nesaf;

c) datblygu ffyrdd o leihau costau mewnbwn i gynhyrchwyr a chyflenwyr bwyd, er mwyn lleihau cost y bwyd y maent yn ei gynhyrchu i ddefnyddwyr.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.03

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM7963 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod y cyfraniad hanfodol y mae ffermwyr a chymunedau gwledig yn ei wneud i iechyd a ffyniant y genedl.

2. Yn nodi'r effaith negyddol ar ddiogelwch y cyflenwad bwyd byd-eang sy'n deillio o ymosodiad Rwsia ar Wcráin, a'r effaith uniongyrchol y mae'n ei chael ar bobl yng Nghymru.

3. Yn credu bod angen chwyldro amgylcheddol a chynhyrchu bwyd yng Nghymru.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cynnull uwchgynhadledd fwyd gan gynnwys ffermwyr, proseswyr a manwerthwyr, fel y gall Cymru chwarae ei rhan i dyfu ei sylfaen cynhyrchu bwyd a rhoi hwb i ddiogelwch bwyd;

b) defnyddio'r Bil Amaethyddiaeth (Cymru) arfaethedig i gorffori diogelwch bwyd er lles y cyhoedd;

c) gwneud diogelwch bwyd yn gonglfaen allweddol i gymorth i ffermwyr Cymru yn y dyfodol, gan gynnwys cymhellion;

d) cefnogi'r Bil Bwyd (Cymru) arfaethedig.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

13

0

35

48

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu pwyntiau 3 a 4 a rhoi yn eu lle:

Yn gresynu mai'r bygythiad mwyaf uniongyrchol i ddiogelwch y cyflenwad bwyd i bobl sy'n byw yng Nghymru heddiw yw'r argyfwng costau byw a grëwyd gan Lywodraeth Geidwadol y DU.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) ddatblygu Strategaeth Bwyd Cymunedol i Gymru er mwyn annog y gwaith o gynhyrchu a chyflenwi bwyd lleol yng Nghymru, gan gefnogi ein cymunedau i sicrhau newid cadarnhaol yn ein system fwyd;

b) creu system newydd o gymorth i ffermydd sy'n cydnabod y gwaith o gynhyrchu bwyd lleol sy'n gynaliadwy yn ecolegol, gan adlewyrchu egwyddorion y Cenhedloedd Unedig o Reoli Tir yn Gynaliadwy.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

23

48

Derbyniwyd gwelliant 1.

[Gan dderbynnir gwelliant 1, cafodd gwelliant 2 eu ddad-ddethol]

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

NDM7963 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod y cyfraniad hanfodol y mae ffermwyr a chymunedau gwledig yn ei wneud i iechyd a ffyniant y genedl.

2. Yn nodi'r effaith negyddol ar ddiogelwch y cyflenwad bwyd byd-eang sy'n deillio o ymosodiad Rwsia ar Wcráin, a'r effaith uniongyrchol y mae'n ei chael ar bobl yng Nghymru.

3. Yn gresynu mai'r bygythiad mwyaf uniongyrchol i ddiogelwch y cyflenwad bwyd i bobl sy'n byw yng Nghymru heddiw yw'r argyfwng costau byw a grëwyd gan Lywodraeth Geidwadol y DU.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) ddatblygu Strategaeth Bwyd Cymunedol i Gymru er mwyn annog y gwaith o gynhyrchu a chyflenwi bwyd lleol yng Nghymru, gan gefnogi ein cymunedau i sicrhau newid cadarnhaol yn ein system fwyd;

b) creu system newydd o gymorth i ffermydd sy'n cydnabod y gwaith o gynhyrchu bwyd lleol sy'n gynaliadwy yn ecolegol, gan adlewyrchu egwyddorion y Cenhedloedd Unedig o Reoli Tir yn Gynaliadwy.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

35

0

13

48

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 18.01 cafodd y trafodion eu hatal dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio.

8.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.06

(30 munud)

9.

Dadl Fer

NDM7962 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Cefnogi cymunedau sy'n wynebu risg parhaus o lifogydd: a yw'n amser sefydlu fforwm llifogydd i Gymru?

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.08

NDM7962 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Cefnogi cymunedau sy'n wynebu risg parhaus o lifogydd: a yw'n amser sefydlu fforwm llifogydd i Gymru?

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol: