Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 60
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 16/03/2022 - Y Cyfarfod Llawn
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf
hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt
fideo. |
||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
y 9 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau
i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|
(30 munud) |
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.25 Gofynnwyd
y 6 chwestiwn. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r
Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|
(30 munud) |
Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.56 Gofynnwyd
y 5 cwestiwn. |
|
(0 munud) |
Cwestiynau Amserol Ni dderbyniwyd
unrhyw Gwestiynau Amserol Cofnodion: Ni
dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol. |
|
(5 munud) |
Datganiadau 90 eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.15 Gwnaeth
Siân Gwenllian ddatganiad am -
Llongyfarch Cwrs Sylfaen Celf Coleg Menai
ar ddathlu 40 mlynedd. |
|
(30 munud) |
Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Janet Finch-Saunders (Aberconwy) - Cynllunio morol yng Nghymru NDM7896
Janet Finch-Saunders (Aberconwy) Cynnig
bod y Senedd: 1.
Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar gynllunio morol yng Nghymru. 2.
Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai: a)
gwneud darpariaethau ar gyfer polisïau a fyddai'n helpu i lywio lleoliad
datblygiadau i ffwrdd o'r ardaloedd mwyaf sensitif o safbwynt ecolegol,
lleihau'r effeithiau cronnol ar gynefinoedd a rhywogaethau sy'n agored i niwed,
a rhoi mwy o sicrwydd i ddatblygwyr; b)
creu dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i hwyluso'r gwaith o greu cynllun datblygu
morol cenedlaethol, a'i adolygu o leiaf unwaith ym mhob Senedd; c)
sefydlu meysydd adnoddau strategol ar gyfer ynni morol; d)
cyhoeddi strategaeth ar gyfer gwrthdroi dirywiad adar môr; e)
ei gwneud yn ofynnol i ffermydd gwynt ar y môr gynnwys adfer cynefinoedd
gwely'r môr; strategaeth ar gyfer cynaeafu bwyd môr cynaliadwy o fewn ardal y
fferm wynt a mesurau gwella amgylcheddol. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.17 NDM7896 Janet Finch-Saunders (Aberconwy) Cynnig bod y
Senedd: 1. Yn nodi cynnig
ar gyfer Bil ar gynllunio morol yng Nghymru. 2. Yn nodi mai
diben y Bil hwn fyddai: a) gwneud
darpariaethau ar gyfer polisïau a fyddai'n helpu i lywio lleoliad datblygiadau
i ffwrdd o'r ardaloedd mwyaf sensitif o safbwynt ecolegol, lleihau'r
effeithiau cronnol ar gynefinoedd a rhywogaethau sy'n agored i niwed, a rhoi
mwy o sicrwydd i ddatblygwyr; b) creu dyletswydd
ar Lywodraeth Cymru i hwyluso'r gwaith o greu cynllun datblygu morol
cenedlaethol, a'i adolygu o leiaf unwaith ym mhob Senedd; c) sefydlu meysydd
adnoddau strategol ar gyfer ynni morol; d) cyhoeddi
strategaeth ar gyfer gwrthdroi dirywiad adar môr; e) ei gwneud yn
ofynnol i ffermydd gwynt ar y môr gynnwys adfer cynefinoedd gwely'r môr;
strategaeth ar gyfer cynaeafu bwyd môr cynaliadwy o fewn ardal y fferm wynt a
mesurau gwella amgylcheddol. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36 |
|
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Y Lluoedd Arfog NDM7955
Darren Millar (Gorllewin
Clwyd)
Cynnig bod y Senedd: 1.
Yn cydnabod gwasanaeth ac aberth pobl o Gymru yn
lluoedd arfog y DU. 2.
Yn mynegi diolch i bersonél
presennol a chyn-aelodau'r lluoedd arfog am eu cyfraniad i
gymdeithas yng Nghymru. 3.
Yn croesawu penodiad Cyrnol James Phillips fel Comisiynydd Cyn-filwyr cyntaf Cymru; 4.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r Comisiynydd Cyn-filwyr a
Llywodraeth y DU i sicrhau
bod cyfamod y lluoedd arfog yn cael
ei gynnal yng Nghymru. 5.
Yn credu y dylai adroddiadau blynyddol cyfamod lluoedd arfog Llywodraeth Cymru gael eu hystyried
gan un o bwyllgorau priodol y Senedd. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.49 NDM7955 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y
Senedd: 1. Yn cydnabod gwasanaeth ac aberth pobl o Gymru yn lluoedd arfog y
DU. 2. Yn mynegi diolch i bersonél presennol a chyn-aelodau'r lluoedd arfog am eu cyfraniad i gymdeithas yng Nghymru. 3. Yn croesawu penodiad Cyrnol James
Phillips fel Comisiynydd Cyn-filwyr cyntaf Cymru; 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r Comisiynydd Cyn-filwyr a
Llywodraeth y
DU i sicrhau bod cyfamod y lluoedd arfog yn cael ei gynnal yng Nghymru. 5. Yn credu y dylai adroddiadau blynyddol cyfamod lluoedd arfog Llywodraeth
Cymru gael eu hystyried gan un
o bwyllgorau priodol y Senedd. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru - Yr argyfwng costau byw - yr effaith ar ysgolion a phlant NDM7954 Sian
Gwenllian (Arfon) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi bod yr argyfwng costau byw yn cael effaith
benodol ar ysgolion a phlant. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu'r ymdrechion i
sicrhau bod mesurau i gefnogi plant o gefndiroedd difreintiedig mewn ysgolion
yn cael eu gweithredu mor effeithiol â phosibl drwy: a) adolygu effeithiolrwydd canllawiau statudol ar
bolisïau gwisg ysgol er mwyn sicrhau fforddiadwyedd cyson ledled Cymru; b) cymryd camau brys i sicrhau nad yw dyled prydau ysgol
yn cael effaith negyddol ar ddisgyblion; c) gwella sut y cyfeirir at y grant datblygu
disgyblion – mynediad; d) gweithio tuag at gofrestru pobl ar gyfer yr holl
bethau y gallant hawlio amdanynt yn awtomatig i gynyddu'r nifer sy'n
manteisio arnynt a sicrhau eu bod yn gwneud y gorau o incwm; e) darparu cymorth pellach i ysgolion i ddarparu teithiau
a gweithgareddau cynhwysol i bawb a sicrhau arferion cyson ledled Cymru. Cyflwynwyd y gwelliant canlynol: Gwelliant 1 - Darren Millar
(Gorllewin Clwyd) Ychwanegu is-bwynt newydd ar ôl is-bwynt 2(a) ac ailrifo
yn unol â hynny: 'sicrhau nad yw symud i brydau ysgol am ddim cyffredinol
yn cael effaith negyddol ar unrhyw blant yng Nghymru a fyddai wedi cael cyllid
neu gymorth ychwanegol' Cofnodion: NDM7954 Sian Gwenllian (Arfon) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi bod yr
argyfwng costau byw yn cael
effaith benodol ar ysgolion a phlant. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu'r ymdrechion
i sicrhau bod mesurau i gefnogi
plant o gefndiroedd difreintiedig
mewn ysgolion yn cael eu
gweithredu mor effeithiol â
phosibl drwy: a) adolygu effeithiolrwydd canllawiau statudol ar bolisïau gwisg ysgol er mwyn sicrhau fforddiadwyedd
cyson ledled Cymru; b) cymryd camau brys i
sicrhau nad yw dyled prydau
ysgol yn cael effaith negyddol
ar ddisgyblion; c) gwella sut y cyfeirir at y grant datblygu disgyblion – mynediad; d) gweithio tuag at gofrestru pobl ar gyfer yr holl bethau y gallant hawlio amdanynt yn awtomatig i
gynyddu'r nifer sy'n manteisio arnynt a sicrhau eu bod yn gwneud y gorau o incwm; e) darparu cymorth pellach i ysgolion i
ddarparu teithiau a gweithgareddau cynhwysol i bawb a sicrhau
arferion cyson ledled Cymru. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36 |
|
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Nid oedd cyfnod pleidleisio. |
||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM7947
Gareth Davies (Dyffryn
Clwyd) Adfer ein
trefi glan môr i'w hen ogoniant: tasg angenrheidiol neu amhosibl? Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.35 NDM7947 Gareth
Davies (Dyffryn Clwyd) Adfer ein trefi glan môr i'w hen ogoniant: tasg angenrheidiol neu amhosibl? |