Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 56
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 02/03/2022 - Y Cyfarfod Llawn
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 1, 2, 4 a 6 gan y Dirprwy Weinidog
Newid Hinsawdd. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r
Gweinidog â’r Dirprwy Weinidog ar ôl cwestiwn 2. Am
13.58, cafodd y trafodion eu hatal dros dro am 1 funud |
|||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.26 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol I’w ofyn i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru,
a’r Trefnydd Mabon ap Gwynfor (Dwyfor Meironydd) Pa asesiad mae'r
Llywodraeth wedi ei wneud o effaith cytundeb masnach y Deyrnas Gyfunol ac
Aotearoa (Seland Newydd) ar amaethyddiaeth yng Nghymru? Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.11 Atebwyd
gan y Gweinidog Materion
Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd Mabon
ap Gwynfor (Dwyfor Meironydd) Pa asesiad mae'r
Llywodraeth wedi ei wneud o effaith cytundeb masnach y Deyrnas Gyfunol ac
Aotearoa (Seland Newydd) ar amaethyddiaeth yng Nghymru? |
|||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 eiliad Cofnodion: The
item started at 15.21 Gwnaeth
Rhun ap Iorwerth ddatganiad am - Llongyfarch aelodau o Fad Achub RNLI Bae
Trearddur a fydd yn derbyn medalau dewrder heddiw. Dyma’r orsaf gyntaf erioed i
dderbyn medal dewrder arian, am achubiaeth ar fwrdd bad achub Atlantic 85
dosbarth B (fel arfer dim ond badau achub mawr sydd yn ei derbyn, ond oherwydd
difrifoldeb yr achos yma, mae’r RNLI wedi penderfynu ei rhoi i fad achub Bae
Trearddur). |
|||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Alun Davies (Blaenau Gwent) - effaith gorlifoedd stormydd NDM7833 Alun
Davies (Blaenau Gwent) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i leihau effaith andwyol
gorlifoedd stormydd. 2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai: a) gosod dyletswydd ar ymgymerwr carthffosiaeth y mae ei
ardal yn gyfan gwbl neu'n bennaf yng Nghymru i sicrhau gostyngiad cynyddol yn
effaith andwyol gollyngiadau o orlifoedd stormydd yr ymgymerwr; b) lleihau effeithiau andwyol gollyngiadau carthion ar yr
amgylchedd ac ar iechyd y cyhoedd; c) ei gwneud yn bosibl i'r ddyletswydd ar ymgymerwr
carthffosiaeth gael ei gorfodi gan Weinidogion Cymru neu gan yr Awdurdod gyda
chydsyniad awdurdodiad cyffredinol a roddir gan Weinidogion Cymru, neu'n unol â
hynny. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.23 NDM7833 Alun Davies (Blaenau Gwent) Cynnig
bod y Senedd: 1.
Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i leihau effaith andwyol gorlifoedd stormydd. 2.
Yn nodi mai diben y Bil fyddai: a)
gosod dyletswydd ar ymgymerwr carthffosiaeth y mae ei ardal yn gyfan gwbl neu'n
bennaf yng Nghymru i sicrhau gostyngiad cynyddol yn effaith andwyol
gollyngiadau o orlifoedd stormydd yr ymgymerwr; b)
lleihau effeithiau andwyol gollyngiadau carthion ar yr amgylchedd ac ar iechyd
y cyhoedd; c)
ei gwneud yn bosibl i'r ddyletswydd ar ymgymerwr carthffosiaeth gael ei
gorfodi gan Weinidogion Cymru neu gan yr Awdurdod gyda chydsyniad awdurdodiad
cyffredinol a roddir gan Weinidogion Cymru, neu'n unol â hynny. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Gwneud Dydd Gŵyl Dewi yn ŵyl banc NDM7932 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn credu y dylai Dydd Gŵyl Dewi fod yn ŵyl
banc. Cyd-gyflwynwyr Jane Dodds
(Canolbarth a Gorllewin Cymru) Cefnogwyr Natasha Asghar
(Dwyrain De Cymru) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.58 NDM7932 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd) Cynnig
bod y Senedd: 1.
Yn credu y dylai Dydd Gŵyl Dewi fod yn ŵyl banc. Cyd-gyflwynwyr Jane Dodds (Canolbarth
a Gorllewin Cymru) Cefnogwyr Natasha Asghar
(Dwyrain De Cymru) Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru - Anhwylderau bwyta NDM7934 Sian
Gwenllian (Arfon) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi bod Wythnos Ymwybyddiaeth Anhwylderau Bwyta
2022 yn digwydd rhwng 28 Chwefror a 6 Mawrth 2022. 2. Yn nodi Adolygiad
o Wasanaeth Anhwylderau Bwyta Llywodraeth Cymru 2018 ac adolygiad
diweddar Beat, Adolygiad
Gwnaeth Anhwylder Bwyta yng Nghymru - 3 Blynedd yn Ddiweddarach. 3. Yn credu bod gwelliannau mewn gwasanaethau anhwylderau
bwyta yn ystod y tair blynedd diwethaf wedi bod yn anwastad, gan barhau â'r
annhegwch a nodwyd yn yr adolygiad. 4. Yn gresynu at y ffaith bod triniaeth i'r rhai yr
effeithir arnynt yng Nghymru yn amrywio'n fawr yn dibynnu ar oedran, diagnosis
a lleoliad. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) ymrwymo i gynyddu'r adnoddau a ddyrennir i iechyd
meddwl o flwyddyn i flwyddyn yn ystod y pum mlynedd nesaf a dwyn byrddau iechyd
i gyfrif am eu buddsoddiad mewn gwasanaethau anhwylderau bwyta; b) cyhoeddi fframwaith newydd ar gyfer gwasanaethau
anhwylderau bwyta sy'n cynnwys amserlenni ar gyfer cyflawni targedau, gan
ganolbwyntio ar: i) ymyrraeth gynnar ac atal; ii) gofal integredig; iii) cymorth i deuluoedd a gofalwyr eraill; iv) buddsoddi yn y gweithlu, gan gynnwys cymorth ar gyfer
lles staff; c) ailsefydlu a chynnal arweinyddiaeth glinigol dros
ddarparu gwasanaethau anhwylderau bwyta ar lefel genedlaethol; d) ariannu archwiliad clinigol anhwylderau bwyta i
sicrhau bod pob bwrdd iechyd yn casglu ac yn adrodd ar set safonol a
chynhwysfawr o ddata o ansawdd uchel. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley
Griffiths (Wrecsam) Dileu popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le: Yn cydnabod bod darparu gwasanaethau anhwylderau bwyta
sy'n diwallu'r ystod o anghenion yn her; bod y pandemig wedi effeithio'n
anghymesur ar wasanaethau; a bod angen gwneud gwelliannau. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) ymrwymo i barhau i wella gwasanaethau anhwylderau
bwyta ledled Cymru, gyda mwy o fuddsoddiad i gefnogi hyn; b) cryfhau'r arweinyddiaeth glinigol sydd ei hangen i
yrru'r gwelliannau. [Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei
ddad-ddethol] Gwelliant 2 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd) Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 5: pennu targedau a chyhoeddi ystadegau misol ar amseroedd
aros ar gyfer triniaeth iechyd meddwl, gan gynnwys materion fel anhwylderau
bwyta. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.39 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7934 Sian Gwenllian (Arfon) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi bod Wythnos Ymwybyddiaeth Anhwylderau Bwyta 2022 yn digwydd
rhwng 28 Chwefror a 6 Mawrth 2022. 2. Yn nodi Adolygiad o
Wasanaeth Anhwylderau Bwyta Llywodraeth Cymru 2018 ac adolygiad diweddar Beat, Adolygiad Gwasanaeth
Anhwylder Bwyta yng Nghymru - 3 Blynedd yn Ddiweddarach. 3. Yn credu bod gwelliannau mewn gwasanaethau anhwylderau bwyta yn ystod
y tair blynedd diwethaf wedi bod yn anwastad, gan barhau â'r annhegwch a nodwyd
yn yr adolygiad. 4. Yn gresynu at y ffaith bod triniaeth i'r rhai yr effeithir arnynt yng
Nghymru yn amrywio'n fawr yn dibynnu ar oedran, diagnosis a lleoliad. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) ymrwymo i gynyddu'r adnoddau a ddyrennir i iechyd meddwl o flwyddyn i
flwyddyn yn ystod y pum mlynedd nesaf a dwyn byrddau iechyd i gyfrif am eu
buddsoddiad mewn gwasanaethau anhwylderau bwyta; b) cyhoeddi fframwaith newydd ar gyfer gwasanaethau anhwylderau bwyta
sy'n cynnwys amserlenni ar gyfer cyflawni targedau, gan ganolbwyntio ar: i) ymyrraeth gynnar ac atal; ii) gofal integredig; iii) cymorth i deuluoedd a gofalwyr eraill; iv) buddsoddi yn y gweithlu, gan gynnwys cymorth ar gyfer lles staff; c) ailsefydlu a chynnal arweinyddiaeth glinigol dros ddarparu
gwasanaethau anhwylderau bwyta ar lefel genedlaethol; d) ariannu archwiliad clinigol anhwylderau bwyta i sicrhau bod pob bwrdd
iechyd yn casglu ac yn adrodd ar set safonol a chynhwysfawr o ddata o ansawdd
uchel.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu popeth ar ôl pwynt
2 a rhoi yn ei le: Yn cydnabod bod darparu
gwasanaethau anhwylderau bwyta sy'n diwallu'r ystod o anghenion yn her; bod y
pandemig wedi effeithio'n anghymesur ar wasanaethau; a bod angen gwneud
gwelliannau. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i: a) ymrwymo i barhau i
wella gwasanaethau anhwylderau bwyta ledled Cymru, gyda mwy o fuddsoddiad i
gefnogi hyn; b) cryfhau'r
arweinyddiaeth glinigol sydd ei hangen i yrru'r gwelliannau. [Os derbynnir gwelliant
1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol] Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Llywydd ei
phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y
gwelliant. Gwelliant 2 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Ychwanegu is-bwynt
newydd ar ddiwedd pwynt 5: pennu targedau a
chyhoeddi ystadegau misol ar amseroedd aros ar gyfer triniaeth iechyd meddwl,
gan gynnwys materion fel anhwylderau bwyta Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 2:
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Llywydd ei
phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y
gwelliant. Gan fod y Senedd wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y
gwelliannau i'r cynnig, gwrthodwyd y cynnig. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 17.32 cafodd y trafodion eu hatal dros
dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio. |
|||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.35 |
||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM7933 John
Griffiths (Dwyrain Casnewydd) Chwaraeon yng Nghasnewydd: cefnogi clybiau a digwyddiadau
chwaraeon cymunedol yn y ddinas Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.39 NDM7933 John
Griffiths (Dwyrain Casnewydd) Chwaraeon yng Nghasnewydd: cefnogi clybiau a digwyddiadau
chwaraeon cymunedol yn y ddinas. |