Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 55
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 01/03/2022 - Y Cyfarfod Llawn
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid,
gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||
Cwestiwn Brys Dechreuodd yr eitem am 13.30 Atebwyd gan y Prif Weinidog Jack Sargeant (Alyn and
Deeside): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am
effaith ymosodiad Rwsia ar Wcráin ar ddinasyddion a busnesau Cymru? |
||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.03 Gofynnwyd
y 5 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.45 |
|||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Pwysau Iach, Cymru Iach 2022-2024 Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.03 |
|||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Cynllun Plant a Phobl Ifanc Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.34 |
|||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Urddas yn ystod mislif Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
16.03 |
|||||||||
(0 munud) |
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Cynllun Gweithredu newydd ar Anableddau Dysgu - TYNNWYD YN ÔL |
|||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cymraeg 2050 – y camau nesaf Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 16.42 |
|||||||||
(20 munud) |
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2022 NDM7928 Lesley Griffiths
(Wrecsam) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1.
Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5)
(Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2022 a osodwyd yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 17 Chwefror 2022. Dogfennau Ategol Cofnodion: NDM7928 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1.
Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5)
(Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2022 a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Chwefror 2022. Dogfennau
Ategol Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||
(15 munud) |
Rheoliadau Wyau (Cymru) 2022 NDM7929 Lesley Griffiths
(Wrecsam) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1.
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Wyau (Cymru) 2022 yn cael ei
llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Chwefror 2022. Dogfennau Ategol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.27 NDM7929 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1.
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Wyau (Cymru) 2022 yn cael ei
llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Chwefror 2022. Dogfennau
Ategol Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(15 munud) |
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Rheoli Cymorthdaliadau NDM7927 Rebecca Evans (Gŵyr)
Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried
y darpariaethau yn y Bil Rheoli Cymorthdaliadau i’r graddau y maent yn dod o
fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Gosodwyd
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Gorffennaf 2021
a 6 Ionawr 2022,
yn y drefn honno, yn unol â Rheol Sefydlog 29.2. Bil Rheoli Cymorthdaliadau (Saesneg
yn unig) Dogfennau Ategol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.27 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM7927 Rebecca
Evans (Gŵyr) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU
ystyried y darpariaethau yn y Bil Rheoli Cymorthdaliadau i’r graddau y maent yn
dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Gosodwyd
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13
Gorffennaf 2021 a 6 Ionawr
2022,
yn y drefn honno, yn unol â Rheol Sefydlog 29.2. Bil Rheoli Cymorthdaliadau (Saesneg yn unig) Dogfennau
Ategol Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Gwrthodwyd y cynnig. |
|||||||||
Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro NNDM7937 Lesley Griffiths
(Wrecsam) Cynnig
bod Senedd Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8: Yn
atal Rheol Sefydlog 12.20(i) a'r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei
gwneud yn ofynnol bod y datganiad a'r cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog
11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos
ganlynol, er mwyn caniatáu NNDM7935 a NNDM7936 gael eu hystyried yn y Cyfarfod
Llawn ar 1 Mawrth 2022. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
||||||||||
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a'r Llysoedd - Cynnig 1 NNDM7935 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod y
Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6 yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y
darpariaethau ym Mil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd ynghylch
'Diddymu Deddf Crwydraeth 1824 etc' i'r graddau y maent yn dod o fewn
cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Gosodwyd Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Mawrth 2022 yn unol
â Rheol Sefydlog 29.2. Bil yr Heddlu,
Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd (Saesneg yn unig) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.45 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NNDM7935 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6 yn cytuno y dylai Senedd y DU
ystyried y darpariaethau ym Mil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd
ynghylch 'Diddymu Deddf Crwydraeth 1824 etc' i'r
graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Mawrth 2022 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2. Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd (Saesneg
yn unig) Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
||||||||||
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a'r Llysoedd - Cynnig 2 NNDM7936 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod y
Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y
darpariaethau ym Mil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd ynghylch 'Gosod
amodau ar orymdeithiau cyhoeddus', 'Gosod amodau ar gynulliadau cyhoeddus',
'Gosod amodau ar brotestiadau un person', a 'Gorchmynion Carlam i Ddiogelu Mannau
Cyhoeddus', i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y
Senedd. Gosodwyd Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Mawrth 2022 yn unol
â Rheol Sefydlog 29.2. Bil yr Heddlu,
Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd (Saesneg yn unig) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.45 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NNDM7936 Jane
Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn
cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau ym Mil yr Heddlu, Troseddu,
Dedfrydu a’r Llysoedd ynghylch 'Gosod amodau ar orymdeithiau cyhoeddus', 'Gosod
amodau ar gynulliadau cyhoeddus', 'Gosod amodau ar brotestiadau un person', a
'Gorchmynion Carlam i Ddiogelu Mannau Cyhoeddus', i'r graddau y maent yn dod o
fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Gosodwyd Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Mawrth 2022 yn unol
â Rheol Sefydlog 29.2. Bil yr Heddlu, Troseddu,
Dedfrydu a’r Llysoedd (Saesneg
yn unig) Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 18.06 cafodd y trafodion eu hatal
dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio. |
||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
am 18.10 |
||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |