Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 54
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 16/02/2022 - Y Cyfarfod Llawn
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid,
gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog yr Economi Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.21 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 4 gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol.
Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog a’r
Dirprwy Weinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol I’w ateb gan y Dirprwy Weinidog
Newid Hinsawdd: Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y
Gweinidog ddatganiad am y penderfyniad
i roi'r gorau i'r prosiect i gael gwared ar gylchfannau'r A55? Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.11 Atebwyd
gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Janet
Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad
am y penderfyniad i roi'r gorau i'r prosiect i gael gwared ar gylchfannau'r A55? |
|||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.21 Gwnaeth
Jane Dodds ddatganiad am Ddiwrnod Gofal Rhyngwladol. Yn
unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 15.23 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y
Llywydd. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) – Etholiadau Llywodraeth Leol NDM7881 Rhys
ab Owen (Canol De Cymru) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi: a) bod Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau Cymru 2021 yn
ymestyn yr hawl i bleidleisio i bobl ifanc 16 ac 17 oed a dinasyddion tramor
sy'n preswylio'n gyfreithlon yng Nghymru, yn sicrhau dyletswydd i annog pobl
leol i gymryd rhan mewn llywodraeth leol, ac yn galluogi cynghorau i gael
gwared ar system y cyntaf i'r felin i ethol cynghorwyr; b) y defnyddir system fwy cyfrannol mewn etholiadau lleol
yn yr Alban, gan leihau nifer y seddi lle nad oes cystadleuaeth, a sicrhau bod
pob pleidlais yn cyfrif. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio'n agos gyda
chynghorau newydd a etholir ym mis Mai 2022 i sicrhau bod dull mwy
cynrychioliadol a system genedlaethol unffurf yn cael eu defnyddio i ethol
cynghorwyr ledled Cymru erbyn 2027. Cyd-gyflwynwyr Cefnogwyr Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.31 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM7881 Rhys ab Owen (Canol De Cymru) Cynnig
bod y Senedd: 1.
Yn nodi: a)
bod Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau Cymru 2021 yn ymestyn yr hawl i
bleidleisio i bobl ifanc 16 ac 17 oed a dinasyddion tramor sy'n preswylio'n
gyfreithlon yng Nghymru, yn sicrhau dyletswydd i annog pobl leol i gymryd rhan
mewn llywodraeth leol, ac yn galluogi cynghorau i gael gwared ar system y
cyntaf i'r felin i ethol cynghorwyr; b)
y defnyddir system fwy cyfrannol mewn etholiadau lleol yn yr Alban, gan leihau
nifer y seddi lle nad oes cystadleuaeth, a sicrhau bod pob pleidlais yn cyfrif. 2.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio'n agos gyda chynghorau newydd a etholir
ym mis Mai 2022 i sicrhau bod dull mwy cynrychioliadol a system genedlaethol
unffurf yn cael eu defnyddio i ethol cynghorwyr ledled Cymru erbyn 2027. Cyd-gyflwynwyr Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Gwrthodwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl ar ddeiseb P-05-949 Arbed yr Hen Ysgol Ganolradd i Ferched y Bont-faen rhag ei Dymchwel NDM7924 Jack
Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi’r ddeiseb ‘P-05-949 Arbed yr Hen Ysgol Ganolradd
i Ferched y Bont-Faen Rhag ei Dymchwel’ a gasglodd 5,522 o lofnodion. P-05-949 Arbed yr Hen
Ysgol Ganolradd i Ferched y Bont-Faen Rhag ei Dymchwel Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.17 NDM7924 Jack Sargeant (Alun a Glannau
Dyfrdwy) Cynnig
bod y Senedd: Yn
nodi’r ddeiseb ‘P-05-949 Arbed yr Hen Ysgol Ganolradd i Ferched y
Bont-Faen Rhag ei Dymchwel’ a gasglodd 5,522 o lofnodion. P-05-949
Arbed yr Hen Ysgol Ganolradd i Ferched y Bont-Faen Rhag ei Dymchwel Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig – Ariannu Llywodraeth Leol NDM7923 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn diolch i gynghorwyr, awdurdodau lleol a'u staff ledled
Cymru am eu rôl yn ystod pandemig y coronafeirws. 2. Yn credu bod yn rhaid i awdurdodau lleol Cymru gael eu
hariannu'n ddigonol i'w galluogi i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus o'r ansawdd
uchel y maent yn anelu ato. 3. Yn gresynu at y ffaith nad yw'r fformiwla ariannu
llywodraeth leol bresennol yn addas i'r diben. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu adolygiad
annibynnol allanol o ariannu llywodraeth leol yng Nghymru i sicrhau ei fod yn
darparu cyllid teg ar gyfer pob rhan o'r wlad. Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley
Griffiths (Wrecsam) Dileu pwyntiau 3 a 4 a
rhoi yn eu
lle: Yn nodi'r cynnydd arfaethedig o 9.4 y cant yn y setliad llywodraeth
leol ar gyfer 2022-23 a gyhoeddwyd ar 16 Rhagfyr 2021, a fydd yn parhau
i gynorthwyo awdurdodau i ddarparu
gwasanaethau o safon uchel. Yn cydnabod bod llywodraeth leol a Llywodraeth
Cymru ar y cyd yn parhau i adolygu
a datblygu'r fformiwla ariannu fel ei
bod yn parhau i fod yn
deg, yn addas i'r diben ac yn
cynnig sefydlogrwydd ac ymatebolrwydd i awdurdodau. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.48 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7923 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn diolch i gynghorwyr,
awdurdodau lleol a'u staff ledled Cymru am eu rôl yn ystod pandemig
y coronafeirws. 2. Yn credu bod yn rhaid i
awdurdodau lleol Cymru gael eu hariannu'n ddigonol i'w galluogi i ddarparu
gwasanaethau cyhoeddus o'r ansawdd uchel y maent yn anelu ato. 3. Yn gresynu at y ffaith nad
yw'r fformiwla ariannu llywodraeth leol bresennol yn addas i'r diben. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i gomisiynu adolygiad annibynnol allanol o ariannu llywodraeth leol yng Nghymru
i sicrhau ei fod yn darparu cyllid teg ar gyfer pob rhan o'r wlad
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliant a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu pwyntiau 3 a 4
a rhoi yn eu lle: Yn nodi'r cynnydd arfaethedig o
9.4 y cant yn y setliad llywodraeth leol ar gyfer 2022-23 a gyhoeddwyd ar 16
Rhagfyr 2021, a fydd yn parhau i gynorthwyo awdurdodau i ddarparu gwasanaethau
o safon uchel. Yn cydnabod bod llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru ar y
cyd yn parhau i adolygu a datblygu'r fformiwla ariannu fel ei bod yn parhau i
fod yn deg, yn addas i'r diben ac yn cynnig sefydlogrwydd ac ymatebolrwydd i
awdurdodau. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM7923 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn diolch i gynghorwyr,
awdurdodau lleol a'u staff ledled Cymru am eu rôl yn ystod pandemig
y coronafeirws. 2. Yn credu bod yn rhaid i
awdurdodau lleol Cymru gael eu hariannu'n ddigonol i'w galluogi i ddarparu
gwasanaethau cyhoeddus o'r ansawdd uchel y maent yn anelu ato. 3. Yn nodi'r cynnydd
arfaethedig o 9.4 y cant yn y setliad llywodraeth leol ar gyfer 2022-23 a
gyhoeddwyd ar 16 Rhagfyr 2021, a fydd yn parhau i gynorthwyo awdurdodau i
ddarparu gwasanaethau o safon uchel. 4. Yn cydnabod bod llywodraeth
leol a Llywodraeth Cymru ar y cyd yn parhau i adolygu a datblygu'r fformiwla
ariannu fel ei bod yn parhau i fod yn deg, yn addas i'r diben ac yn cynnig
sefydlogrwydd ac ymatebolrwydd i awdurdodau.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 17.45 cafodd y trafodion eu hatal
dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio. |
|||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 17.49 |
||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM7914 Laura
Anne Jones (Dwyrain De Cymru) Adfywio canol trefi a dinasoedd yng Nghymru: ni fydd mwy
o'r un peth yn gweithio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.52 NDM7914 Laura Anne Jones (Dwyrain De
Cymru) Adfywio
canol trefi a dinasoedd yng Nghymru: ni fydd mwy o'r un peth yn gweithio. |