Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 50
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 02/02/2022 - Y Cyfarfod Llawn
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
y 9 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau
i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.18 Gofynnwyd
y 10 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Gofyn
i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Mark Isherwood (Gogledd
Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am daliad y cynllun cymorth tanwydd gaeaf? Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.03 Atebwyd
gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Mark Isherwood: A wnaiff y Gweinidog
ddatganiad am daliad y cynllun cymorth tanwydd gaeaf? |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.16 Gwnaeth
Sioned Williams ddatganiad am - Dathlu pen-blwydd Clwb Rygbi
Castell-nedd yn 150 oed. Gwnaeth Siân Gwenllian
ddatganiad am - Llongyfarch disgyblion Ysgol Rhosgadfan ar ffilm ‘Blot-deuwedd’. Gwnaeth James Evans
ddatganiad am - yr Uwch Gynghrair Dartiau yn dod i Gaerdydd Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 15.20 cafodd y cyfarfod ei atal dros
dro gan y Llywydd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Gordewdra NDM7903 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn mynegi ei phryder bod bron i ddwy ran o dair o
oedolion yng Nghymru dros bwysau neu'n ordew ar hyn o bryd. 2. Yn nodi bod COVID-19 yn cael effaith anghymesur ar y
rhai sy'n byw gyda gordewdra, a bod gan fwy na hanner y bobl sy'n cael eu
derbyn i ofal critigol BMI o dros 30. 3. Yn nodi ymhellach bod gwasanaethau rheoli pwysau
wedi'u hoedi neu eu haddasu wrth i GIG Cymru drin cleifion COVID. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) ailagor ar frys y gwasanaethau rheoli pwysau hynny
sydd wedi'u oedi yn ystod y pandemig; b) nodi pryd y bydd gwasanaethau rheoli pwysau amlddisgyblaethol
arbenigol yn cael eu hehangu ledled Cymru; ac c) darparu cyllid ychwanegol i sicrhau bod gwasanaethau
rheoli pwysau yn gallu ymdopi â'r angen cynyddol. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley
Griffiths (Wrecsam) Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le: Yn cydnabod: a) y cynllun cyflawni newydd 2022-24, y bwriedir ei
lansio ar 1 Mawrth, sy’n cefnogi’r Strategaeth Pwysau Iach: Cymru Iach. Ei nod
fydd atal a lleihau gordewdra dros y ddwy flynedd nesaf. b) y buddsoddiad o £5.8m mewn gwasanaethau gordewdra yn
sgil y cynllun, i alluogi byrddau iechyd i gyflawni Llwybr Rheoli Pwysau Cymru
Gyfan ar ei newydd wedd a gwasanaethau cyfartal, gan gynnwys gwasanaethau
rheoli pwysau amlddisgyblaethol arbenigol yng Nghymru. Strategaeth
Pwysau Iach: Cymru Iach Gwelliant 2 Siân
Gwenllian (Arfon) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu mesurau
ataliol i leihau gordewdra yng Nghymru, fel: a) buddsoddi mewn adnoddau i hyrwyddo gweithgarwch
corfforol ym mhob cymuned; b) gwella addysg iechyd; c) cynyddu'r amser a ddyrennir i wersi addysg gorfforol
mewn ysgolion. d) Ymchwilio i'r defnydd o offer trethu i annog deiet
gwell. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.37 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7903 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn mynegi ei phryder bod
bron i ddwy ran o dair o oedolion yng Nghymru dros bwysau neu'n ordew ar hyn o
bryd. 2. Yn nodi bod COVID-19 yn cael
effaith anghymesur ar y rhai sy'n byw gyda gordewdra, a bod gan fwy na hanner
y bobl sy'n cael eu derbyn i ofal critigol BMI o dros 30. 3. Yn nodi ymhellach bod
gwasanaethau rheoli pwysau wedi'u hoedi neu eu haddasu wrth i GIG Cymru drin
cleifion COVID. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i: a) ailagor ar frys y
gwasanaethau rheoli pwysau hynny sydd wedi'u oedi yn ystod y pandemig; b) nodi pryd y bydd
gwasanaethau rheoli pwysau amlddisgyblaethol arbenigol yn cael eu hehangu
ledled Cymru; ac c) darparu cyllid ychwanegol i
sicrhau bod gwasanaethau rheoli pwysau yn gallu ymdopi â'r angen cynyddol.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le: Yn cydnabod: a) y cynllun cyflawni newydd 2022-24, y bwriedir ei
lansio ar 1 Mawrth, sy’n cefnogi’r Strategaeth Pwysau Iach: Cymru Iach. Ei nod
fydd atal a lleihau gordewdra dros y ddwy flynedd nesaf. b) y buddsoddiad o £5.8m mewn gwasanaethau gordewdra yn
sgil y cynllun, i alluogi byrddau iechyd i gyflawni Llwybr Rheoli Pwysau Cymru
Gyfan ar ei newydd wedd a gwasanaethau cyfartal, gan gynnwys gwasanaethau
rheoli pwysau amlddisgyblaethol arbenigol yng Nghymru. Strategaeth
Pwysau Iach: Cymru Iach Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 Siân Gwenllian (Arfon) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu mesurau
ataliol i leihau gordewdra yng Nghymru, fel: a) buddsoddi mewn adnoddau i hyrwyddo gweithgarwch
corfforol ym mhob cymuned; b) gwella addysg iechyd; c) cynyddu'r amser a ddyrennir i wersi addysg gorfforol mewn
ysgolion; d) Ymchwilio i'r defnydd o offer trethu i annog deiet
gwell. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM7903 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn mynegi ei phryder bod bron
i ddwy ran o dair o oedolion yng Nghymru dros bwysau neu'n ordew ar hyn o bryd. 2. Yn nodi bod COVID-19 yn cael
effaith anghymesur ar y rhai sy'n byw gyda gordewdra, a bod gan fwy na hanner
y bobl sy'n cael eu derbyn i ofal critigol BMI o dros 30. 3. Yn nodi ymhellach bod
gwasanaethau rheoli pwysau wedi'u hoedi neu eu haddasu wrth i GIG Cymru drin
cleifion COVID. 4. Yn cydnabod: a) y cynllun cyflawni newydd 2022-24, y bwriedir ei
lansio ar 1 Mawrth, sy’n cefnogi’r Strategaeth Pwysau Iach: Cymru Iach. Ei nod
fydd atal a lleihau gordewdra dros y ddwy flynedd nesaf. b) y buddsoddiad o £5.8m mewn gwasanaethau gordewdra yn
sgil y cynllun, i alluogi byrddau iechyd i gyflawni Llwybr Rheoli Pwysau Cymru
Gyfan ar ei newydd wedd a gwasanaethau cyfartal, gan gynnwys gwasanaethau
rheoli pwysau amlddisgyblaethol arbenigol yng Nghymru. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu mesurau
ataliol i leihau gordewdra yng Nghymru, fel: a) buddsoddi mewn adnoddau i hyrwyddo gweithgarwch
corfforol ym mhob cymuned; b) gwella addysg iechyd; c) cynyddu'r amser a ddyrennir i wersi addysg gorfforol
mewn ysgolion; d) Ymchwilio i'r defnydd o offer trethu i annog deiet
gwell.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Profiadau niweidiol yn ystod plentyndod NDM7905 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod yr effaith y mae profiadau niweidiol yn ystod
plentyndod yn ei chael ar iechyd, cyrhaeddiad addysgol a chamddefnyddio
sylweddau yn ddiweddarach mewn bywyd. 2. Yn credu y dylid rhoi mwy o ffocws i atal cam-drin ac
esgeuluso plant na delio â'r canlyniadau. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i osod targed o 70 y cant
ar gyfer lleihau cam-drin plant, esgeulustod a phrofiadau niweidiol eraill yn
ystod plentyndod erbyn 2030. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Siân Gwenllian (Arfon) Dileu
popeth ar ôl pwynt 1, a rhoi yn ei le: Yn
credu bod rhaid blaenoriaethu taclo trallod yn ystod plentyndod ac ymyrraeth
gynnar os am roi’r dechrau gorau i bob plentyn yng Nghymru. Yn
nodi’r dystiolaeth bod cynnydd wedi bod mewn profiadau niweidiol yn ystod
plentyndod o ganlyniad i COVID-19. [Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol] Gwelliant 2 Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu
pwynt 3. Gwelliant 3 Siân Gwenllian (Arfon) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau y bydd targedau pendant yn y cynllun
profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a gaiff ei gyhoeddi’r haf hwn i fesur
effeithiolrwydd y cynllun. Gwelliant 4 Siân Gwenllian (Arfon) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i ddod â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r
Plentyn yn rhan lawn o gyfraith Cymru. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.08 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7905 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod yr effaith y mae
profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn ei chael ar iechyd, cyrhaeddiad
addysgol a chamddefnyddio sylweddau yn ddiweddarach mewn bywyd. 2. Yn credu y dylid rhoi mwy o
ffocws i atal cam-drin ac esgeuluso plant na delio â'r canlyniadau. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i osod targed o 70 y cant ar gyfer lleihau cam-drin plant, esgeulustod a
phrofiadau niweidiol eraill yn ystod plentyndod erbyn 2030.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Siân Gwenllian (Arfon) Dileu popeth ar ôl pwynt 1, a rhoi yn ei le: Yn credu bod rhaid blaenoriaethu taclo trallod yn ystod
plentyndod ac ymyrraeth gynnar os am roi’r dechrau gorau i bob plentyn yng
Nghymru. Yn nodi’r dystiolaeth bod cynnydd wedi bod mewn profiadau
niweidiol yn ystod plentyndod o ganlyniad i COVID-19. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. [Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 2
ei ddad-ddethol] Gwelliant 3 Siân Gwenllian (Arfon) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau y bydd targedau
pendant yn y cynllun profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a gaiff ei
gyhoeddi’r haf hwn i fesur effeithiolrwydd y cynllun. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20,
defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y
gwelliant. Felly, gwrthodwyd gwelliant 3. Gwelliant
4 Siân Gwenllian (Arfon) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i ddod â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r
Plentyn yn rhan lawn o gyfraith Cymru. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 4:
Derbyniwyd gwelliant 4. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM7905 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod yr effaith y mae
profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn ei chael ar iechyd, cyrhaeddiad
addysgol a chamddefnyddio sylweddau yn ddiweddarach mewn bywyd. 2. Yn credu bod rhaid blaenoriaethu taclo trallod yn
ystod plentyndod ac ymyrraeth gynnar os am roi’r dechrau gorau i bob plentyn
yng Nghymru. 3. Yn nodi’r dystiolaeth bod cynnydd wedi bod mewn
profiadau niweidiol yn ystod plentyndod o ganlyniad i COVID-19. 4.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddod â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar
Hawliau’r Plentyn yn rhan lawn o gyfraith Cymru.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - 70 mlynedd ers esgyn i'r orsedd NDM7904 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn estyn ei llongyfarchiadau cynhesaf i'w Mawrhydi y Frenhines
ar 70 mlwyddiant ei hesgyniad i'r orsedd. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 16.44 NDM7904 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig
bod y Senedd: 1.
Yn estyn ei llongyfarchiadau cynhesaf i'w Mawrhydi y Frenhines ar 70 mlwyddiant
ei hesgyniad i'r orsedd. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru - Stelcio NDM7906 Siân
Gwenllian (Arfon) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn gresynu at y cynnydd mewn trais ac aflonyddu yn
erbyn menywod, gan nodi bod troseddau stelcio a adroddwyd i'r heddlu wedi
cynyddu 30 y cant yng Nghymru rhwng 2020 a 2021. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) defnyddio'r cwricwlwm newydd ac adnoddau eraill i
feithrin diwylliant sy'n atal achosion o stelcio yn y lle cyntaf; b) llunio canllawiau ar gyfer cyrff cynllunio sy'n
sicrhau bod diogelwch menywod yn cael ei ystyried wrth ddylunio mannau
cyhoeddus; c) gweithio gyda Chomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu i
wella'r ffordd y mae'r heddlu'n ymdrin â stelcio, gan sicrhau bod yr heddlu'n
cael eu hyfforddi i ymdrin â gwir natur stelcio a bod gorchmynion amddiffyn
rhag stelcio yn cael eu defnyddio; d) darparu cymorth arbenigol i oroeswyr stelcio; e) ymrwymo i fynd ar drywydd datganoli pwerau dros
blismona a chyfiawnder i Gymru fel y gall fynd i'r afael yn llawn â
throsedd stelcio a gwneud casineb at fenywod yn drosedd casineb yng
Nghymru. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â
hynny: Yn croesawu Deddf Diogelu Rhag Stelcian 2019 a'r diwygiad
i Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd i wneud casineb at fenywod yn
drosedd casineb yng Nghymru a Lloegr. Deddf
Diogelu Rhag Stelcian 2019 (Saesneg yn unig) Bil yr
Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd (Saesneg yn unig) Gwelliant 2 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Ym mhwynt 2 (c), ar ôl 'gweithio gyda' rhoi 'lluoedd
heddlu a' Gwelliant 3 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Ym mhwynt 2, dileu is-bwynt (e) a rhoi yn ei le: 'sicrhau bod rhaglenni cyflawnwyr ar gael ledled
Cymru' Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.24 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7906 Sian
Gwenllian (Arfon) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn gresynu at y cynnydd mewn
trais ac aflonyddu yn erbyn menywod, gan nodi bod troseddau stelcio a
adroddwyd i'r heddlu wedi cynyddu 30 y cant yng Nghymru rhwng 2020 a 2021. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i: a) defnyddio'r cwricwlwm newydd
ac adnoddau eraill i feithrin diwylliant sy'n atal achosion o stelcio yn y
lle cyntaf; b) llunio canllawiau ar gyfer
cyrff cynllunio sy'n sicrhau bod diogelwch menywod yn cael ei ystyried wrth
ddylunio mannau cyhoeddus; c) gweithio gyda Chomisiynwyr
yr Heddlu a Throseddu i wella'r ffordd y mae'r heddlu'n ymdrin â stelcio, gan
sicrhau bod yr heddlu'n cael eu hyfforddi i ymdrin â gwir natur stelcio a bod
gorchmynion amddiffyn rhag stelcio yn cael eu defnyddio; d) darparu cymorth arbenigol i
oroeswyr stelcio; e) ymrwymo i fynd ar drywydd
datganoli pwerau dros blismona a chyfiawnder i Gymru fel y gall fynd i'r afael
yn llawn â throsedd stelcio a gwneud casineb at fenywod yn drosedd casineb
yng Nghymru.
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 18.04 cafodd y trafodion eu hatal
dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.10 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(0 munud) |
Dadl Fer - TYNNWYD YN ÔL |