Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 46(v4) 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 19/01/2022 - Y Cyfarfod Llawn

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf rhithwir, gyda’r Aelodau yn ymuno drwy gyswllt fideo.

(45 munud)

1.

Cwestiynau i Weinidog yr Economi

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd cwestiynau 1, 2, 4 a 6-9. Tynnwyd cwestiynau 3 a 5 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

(45 munud)

2.

Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 3.

Gweld y Cwestiynau

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.20

Gofynnwyd cwestiynau 2-9. Tynnwyd cwestiwn 1 yn ôl. Atebwyd cwestiynau 4 a 9 gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, ac atebwyd cwestiynau 6-8 gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ar ôl cwestiwn 3.

(20 munud)

3.

Cwestiynau Amserol

I’w ateb gan y Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip

Heledd Fychan (Canol De Cymru): Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith rhewi ffi'r drwydded ar ddarlledu yng Nghymru?

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.09

Atebwyd gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip:

Heledd Fychan (Canol De Cymru)Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith rhewi ffi'r drwydded ar ddarlledu yng Nghymru?

(5 munud)

4.

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.18

Gwnaeth Janet Finch-Saunders ddatganiad i longyfarch Gwylwyr y Glannau ei Mawrhydi ar 200 mlynedd o wasanaeth.

(60 munud)

5.

Dadl ar ddeiseb P-06-1243 Adfer sgrinio serfigol i bob tair blynedd

NDM7887 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi’r ddeiseb ‘P-06-1243 Adfer sgrinio serfigol i bob tair blynedd’ a gasglodd 30,133 o lofnodion.

P-06-1243 Adfer sgrinio serfigol i bob tair blynedd

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.21

NDM7887 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi’r ddeiseb ‘P-06-1243 Adfer sgrinio serfigol i bob tair blynedd’ a gasglodd 30,133 o lofnodion.

P-06-1243 Adfer sgrinio serfigol i bob tair blynedd

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

6.

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig – Cyfyngiadau Covid

NDM7891 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn credu bod chwaraeon, gweithgareddau hamdden ac ymarfer corff yn hanfodol ar gyfer iechyd corfforol a meddyliol pobl.

2. Yn cydnabod effaith y cyfyngiadau COVID-19 diweddaraf ar ddiwydiant lletygarwch Cymru.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu map ffordd i lacio'r cyfyngiadau, gan gynnwys:

a) caniatáu i fwy na 50 o bobl ymarfer corff gyda'i gilydd yn yr awyr agored;

b) cael gwared ar y rheol chwech mewn lletygarwch a sinemâu;

c) rhoi terfyn ar y cyfyngiadau ar nifer y bobl a all fynychu digwyddiad chwaraeon awyr agored.

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1. Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

Yn croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i:

a) llacio cyfyngiadau o 15 Ionawr ymlaen fel y gellir cynnal digwyddiadau awyr agored sy’n cynnwys hyd at 500 o bobl neu wylwyr;

b) dileu mesurau diogelu ehangach ar gyfer digwyddiadau awyr agored o 21 Ionawr ymlaen, os bydd amodau’n caniatáu;

c) symud i lefel rhybudd sero o 28 Ionawr ymlaen, os bydd amodau’n caniatáu; a

d) adolygu’r holl fesurau diogelu ar lefel rhybudd sero a chyhoeddi unrhyw newidiadau ar 11 Chwefror.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.06

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM7891 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn credu bod chwaraeon, gweithgareddau hamdden ac ymarfer corff yn hanfodol ar gyfer iechyd corfforol a meddyliol pobl.

2. Yn cydnabod effaith y cyfyngiadau COVID-19 diweddaraf ar ddiwydiant lletygarwch Cymru.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu map ffordd i lacio'r cyfyngiadau, gan gynnwys:

a) caniatáu i fwy na 50 o bobl ymarfer corff gyda'i gilydd yn yr awyr agored;

b) cael gwared ar y rheol chwech mewn lletygarwch a sinemâu;

c) rhoi terfyn ar y cyfyngiadau ar nifer y bobl a all fynychu digwyddiad chwaraeon awyr agored.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

13

11

28

52

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1. Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

Yn croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i:

a) llacio cyfyngiadau o 15 Ionawr ymlaen fel y gellir cynnal digwyddiadau awyr agored sy’n cynnwys hyd at 500 o bobl neu wylwyr;

b) dileu mesurau diogelu ehangach ar gyfer digwyddiadau awyr agored o 21 Ionawr ymlaen, os bydd amodau’n caniatáu;

c) symud i lefel rhybudd sero o 28 Ionawr ymlaen, os bydd amodau’n caniatáu; a

d) adolygu’r holl fesurau diogelu ar lefel rhybudd sero a chyhoeddi unrhyw newidiadau ar 11 Chwefror.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

39

0

13

52

Derbyniwyd gwelliant 1.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

NDM7891 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn credu bod chwaraeon, gweithgareddau hamdden ac ymarfer corff yn hanfodol ar gyfer iechyd corfforol a meddyliol pobl.

2. Yn cydnabod effaith y cyfyngiadau COVID-19 diweddaraf ar ddiwydiant lletygarwch Cymru.

Yn croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i:

a) llacio cyfyngiadau o 15 Ionawr ymlaen fel y gellir cynnal digwyddiadau awyr agored sy’n cynnwys hyd at 500 o bobl neu wylwyr;

b) dileu mesurau diogelu ehangach ar gyfer digwyddiadau awyr agored o 21 Ionawr ymlaen, os bydd amodau’n caniatáu;

c) symud i lefel rhybudd sero o 28 Ionawr ymlaen, os bydd amodau’n caniatáu; a

d) adolygu’r holl fesurau diogelu ar lefel rhybudd sero a chyhoeddi unrhyw newidiadau ar 11 Chwefror.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

52

0

0

52

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

 

(60 munud)

7.

Dadl Plaid Cymru – Costau byw

NDM7890 Siân Gwenllian (Arfon)

Cynnig bod y Senedd:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun gweithredu brys o ran costau byw i fynd i'r afael â'r pwysau a achosir gan y broblem ddeublyg o gostau’n cynyddu a diffyg twf mewn cyflogau.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.57

NDM7890 Siân Gwenllian (Arfon)

Cynnig bod y Senedd:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun gweithredu brys o ran costau byw i fynd i'r afael â'r pwysau a achosir gan y broblem ddeublyg o gostau’n cynyddu a diffyg twf mewn cyflogau.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 18.02 cafodd y trafodion eu hatal dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio.

 

8.

Cyfnod Pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.05

 

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol:

(30 munud)

9.

Dadl Fer

NDM7888 Jane Dodds (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Teithio o gwmpas: trafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bobl ifanc.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.07

NDM7888 Jane Dodds (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Teithio o gwmpas: trafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bobl ifanc.