Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 45
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 18/01/2022 - Y Cyfarfod Llawn
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf rhithwir,
gyda’r Aelodau yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
cwestiynau 1, 2 a 4 - 9. Tynnwyd cwestiwn 3 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd
arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.31 |
|||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Covid-19 Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.43 |
|||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan Weinidog yr Economi: Economïau Rhanbarthol Cryfach Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.10 |
|||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip: Y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd yn dilyn cyhoeddi 'Y Fasnach mewn Caethweision a'r Ymerodraeth Brydeinig: archwiliad o Goffáu yng Nghymru' Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 16.03 |
|||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd: BlasCymru/TasteWales – hyrwyddo bwyd a diod o Gymru i’r byd Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
16.37 |
|||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Cymorth Cyfreithiol a Mynediad at Gyfiawnder Dogfen Ategol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
17.14 |
|||||||||
(15 munud) |
Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2022 NDM7884 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1.
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r
Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2022
yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Rhagfyr 2021. Dogfennau Ategol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.05 NDM7884 Lesley Griffiths
(Wrecsam) Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Rheoliadau Cynlluniau
Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru)
(Diwygio) 2022 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Rhagfyr 2021. Dogfennau Ategol Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(30 munud) |
Derbyniwyd cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar eitemau 9 a 10 gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân. |
|||||||||
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd: Cynnig 1 NDM7882 Jane Hutt (Bro
Morgannwg) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU
ystyried darpariaethau ym Mil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd, sef
'Adroddiad cyfamod yr Heddlu', 'Cynyddu’r gosb am ymosod ar weithiwr brys',
Rhan 2, Pennod 1 'Swyddogaethau sy'n ymwneud â thrais difrifol' (gan gynnwys
'Swyddogaethau sy'n ymwneud â thrais difrifol', 'Arfer swyddogaethau',
'Diwygiadau i Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998 etc', a 'Cyffredinol'), Rhan 2,
Pennod 2 'Adolygiadau o laddiadau ag arfau tramgwyddus', 'Echdynnu gwybodaeth o
ddyfeisiau electronig: ymchwiliadau i droseddau etc, 'Cymhwyso adran 36 i blant
ac oedolion heb alluedd', 'Gofynion ar gyfer darparu’n wirfoddol a chytuno',
'Cod ymarfer ynghylch echdynnu gwybodaeth', 'Rheoliadau ynghylch echdynnu gwybodaeth
gyfrinachol', 'Personau awdurdodedig', 'Cynnydd yn y gosb am droseddau sy'n
ymwneud â helwriaeth etc’, ac 'achosi niwsans cyhoeddus yn fwriadol neu'n
ddi-hid', i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Gosodwyd
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Mai 2021 a
gosodwyd Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Tachwedd 2021,
20 Rhagfyr
2021 a 7
Ionawr 2022 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2. Mae
copi o’r Bil i’w weld ar wefan Senedd y DU: Bil yr
Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd (Saesneg yn unig) Dogfennau Ategol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.10 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM7882 Jane Hutt
(Bro Morgannwg) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU
ystyried darpariaethau ym Mil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd, sef
'Adroddiad cyfamod yr Heddlu', 'Cynyddu’r gosb am ymosod ar weithiwr brys',
Rhan 2, Pennod 1 'Swyddogaethau sy'n ymwneud â thrais difrifol' (gan gynnwys
'Swyddogaethau sy'n ymwneud â thrais difrifol', 'Arfer swyddogaethau',
'Diwygiadau i Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998 etc', a 'Cyffredinol'), Rhan 2,
Pennod 2 'Adolygiadau o laddiadau ag arfau tramgwyddus', 'Echdynnu gwybodaeth o
ddyfeisiau electronig: ymchwiliadau i droseddau etc, 'Cymhwyso adran 36 i blant
ac oedolion heb alluedd', 'Gofynion ar gyfer darparu’n wirfoddol a chytuno',
'Cod ymarfer ynghylch echdynnu gwybodaeth', 'Rheoliadau ynghylch echdynnu
gwybodaeth gyfrinachol', 'Personau awdurdodedig', 'Cynnydd yn y gosb am
droseddau sy'n ymwneud â helwriaeth etc’, ac 'achosi niwsans cyhoeddus yn
fwriadol neu'n ddi-hid', i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd
deddfwriaethol y Senedd. Gosodwyd
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Mai
2021 a
gosodwyd Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno
ar 5
Tachwedd 2021, 20
Rhagfyr 2021 a 7 Ionawr
2022 yn
unol â Rheol Sefydlog 29.2. Mae
copi o’r Bil i’w weld ar wefan Senedd y DU: Bil yr
Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd (Saesneg yn
unig) Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
||||||||||
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd: Cynnig 2 NDM7883 Jane Hutt (Bro
Morgannwg) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU
ystyried darpariaethau ym Mil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd, sef
'Difrod troseddol i gofebau: dull treial', 'Gosod amodau ar orymdeithiau
cyhoeddus', 'Gosod amodau ar gynulliadau cyhoeddus', 'Gosod amodau ar
brotestiadau un person', 'Trosedd yn ymwneud â byw ar dir heb ganiatâd mewn
cerbyd neu gyda cherbyd', ‘Diwygiadau i bwerau sy’n bodoli', a 'Canllawiau ar
arfer pwerau'r heddlu mewn perthynas â thresmasu ar dir etc', i'r graddau y
maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Gosodwyd
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Mai 2021 a
gosodwyd Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Tachwedd 2021,
20 Rhagfyr
2021 a 7
Ionawr 2022 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2. Mae
copi o’r Bil i’w weld ar wefan Senedd y DU: Bil yr
Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd (Saesneg yn unig) Dogfennau Ategol Cofnodion: Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM7883 Jane Hutt
(Bro Morgannwg) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU
ystyried darpariaethau ym Mil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd, sef
'Difrod troseddol i gofebau: dull treial', 'Gosod amodau ar orymdeithiau
cyhoeddus', 'Gosod amodau ar gynulliadau cyhoeddus', 'Gosod amodau ar
brotestiadau un person', 'Trosedd yn ymwneud â byw ar dir heb ganiatâd mewn
cerbyd neu gyda cherbyd', ‘Diwygiadau i bwerau sy’n bodoli', a 'Canllawiau ar
arfer pwerau'r heddlu mewn perthynas â thresmasu ar dir etc', i'r graddau y
maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Gosodwyd
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Mai
2021 a
gosodwyd Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno
ar 5
Tachwedd 2021, 20
Rhagfyr 2021 a 7 Ionawr
2022 yn
unol â Rheol Sefydlog 29.2. Mae
copi o’r Bil i’w weld ar wefan Senedd y DU: Bil yr
Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd (Saesneg yn
unig) Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Gwrthodwyd y cynnig. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 18.57 cafodd y trafodion eu hatal
dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio. |
||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.59 |
||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |