Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 37
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 01/12/2021 - Y Cyfarfod Llawn
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||||||||||
Datganiad gan y Llywydd - Cyhoeddiad am ethol Aelodau newydd i Senedd Ieuenctid Cymru |
||||||||||||||||||||||||||
Datganiad gan y Llywydd - Y Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru Dechreuodd yr
eitem am 13.35. Gwnaeth y Llywydd ddatganiad am y Cytundeb Cydweithio
rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru. |
||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog yr Economi Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.36 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 2 gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon.
Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl
cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.31 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 4 gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a
Llesiant, ac atebwyd cwestiwn 5 gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau
Cymdeithasol. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r
Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol I’w ateb gan y Trefnydd: Paul
Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fecanweithiau'r Cytundeb
Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru? Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.29 Atebwyd
gan y Trefnydd: Paul Davies (Preseli Sir
Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog
ddatganiad am fecanweithiau'r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a
Phlaid Cymru? |
|||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.39 Gwnaeth
Adam Price ddatganiad am farwolaeth sydyn ac annisgwyl mewn perthynas ag
Epilepsi. Gwnaeth
Natasha Asghar ddatganiad i
dalu teyrnged i Cheryl Gillan AS, y cynhaliwyd ei gwasanaeth coffa ddydd Llun 29 Tachwedd. Yn
unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 15.42 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y
Llywydd. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) – Diagnosis a thriniaeth canser NDM7842
Mabon ap Gwynfor
(Dwyfor Meirionnydd) Cynnig
bod y Senedd: 1.
Yn croesawu dull gweithredu llwybr canser sengl Llywodraeth Cymru. 2.
Yn cydnabod: a)
mai canser yw prif achos marwolaeth yng Nghymru a bod 19,600 o bobl yn cael
diagnosis o ganser bob blwyddyn yng Nghymru (2016-2018). b)
bod COVID-19 wedi gwaethygu'r heriau sy'n wynebu gwasanaethau canser yng
Nghymru, gyda thua 1,700 yn llai o bobl yn dechrau triniaeth canser rhwng
Ebrill 2020 a Mawrth 2021. c)
bod amseroedd aros canser GIG Cymru ar gyfer mis Gorffennaf 2021 yn dangos mai
61.8 y cant o gleifion sy'n cael eu triniaeth gyntaf o fewn 62 diwrnod i'r
dyddiad yr amheuir bod ganddynt ganser, canran llawer is na'r targed
perfformiad llwybr canser tybiedig o 75 y cant. d)
hyd yn oed cyn y pandemig, fod Cymru'n profi bylchau sylweddol yn y gweithlu
sy'n rhoi diagnosis o ganser ac yn ei drin, er enghraifft ym maes
delweddu, endosgopi, patholeg, oncoleg nad yw'n lawfeddygol a nyrsys arbenigol. e)
heb fuddsoddiad aml-flwyddyn mewn hyfforddiant a chyflogi mwy o staff i lenwi
swyddi gwag cyfredol, na fydd gan Gymru'r staff rheng flaen a'r arbenigwyr sydd
eu hangen i fynd i'r afael â'r ôl-groniad canser, ymdopi â'r galw yn y dyfodol,
neu wneud cynnydd tuag at uchelgeisiau i roi diagnosis a thrin mwy o ganserau
yn gynnar. f)
bod Cynghrair Canser Cymru wedi beirniadu'r datganiad ansawdd ar gyfer canser,
a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2021, am beidio â darparu gweledigaeth glir i
gefnogi gwasanaethau canser i adfer o effaith y pandemig a gwella
cyfraddau goroesi ymhellach. g)
mai Cymru fydd yr unig genedl yn y DU heb strategaeth ganser cyn bo hir, y mae
Sefydliad Iechyd y Byd yn argymell bod un gan bob gwlad. 3.
Yn croesawu'r cynlluniau peilot clinig diagnostig cyflym llwyddiannus ym Mwrdd
Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, a bod
Rhwydwaith Canser Cymru wedi darparu cyllid i bob bwrdd iechyd arall i
ddatblygu clinigau diagnostig cyflym. 4.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a)
rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau nesaf ar gyfer y datganiad ansawdd ar
gyfer canser, gan gynnwys targedau a mecanweithiau uchelgeisiol ar gyfer
olrhain buddsoddiad cynnydd ar gyfer staff, offer a seilwaith; b)
mynd i'r afael â phrinder staff hirsefydlog o fewn gwasanaethau canser a
diagnostig; c)
ystyried sut y gellid cymhwyso'r argymhellion yn adolygiad yr Athro Syr Mike
Richards o wasanaethau diagnostig yn Lloegr yng Nghymru. Cefnogwyr: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.53 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM7842 Mabon ap
Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd) Cynnig
bod y Senedd: 1.
Yn croesawu dull gweithredu llwybr canser sengl Llywodraeth Cymru. 2.
Yn cydnabod: a)
mai canser yw prif achos marwolaeth yng Nghymru a bod 19,600 o bobl yn cael
diagnosis o ganser bob blwyddyn yng Nghymru (2016-2018). b)
bod COVID-19 wedi gwaethygu'r heriau sy'n wynebu gwasanaethau canser yng
Nghymru, gyda thua 1,700 yn llai o bobl yn dechrau triniaeth canser rhwng
Ebrill 2020 a Mawrth 2021. c)
bod amseroedd aros canser GIG Cymru ar gyfer mis Gorffennaf 2021 yn dangos mai
61.8 y cant o gleifion sy'n cael eu triniaeth gyntaf o fewn 62 diwrnod i'r
dyddiad yr amheuir bod ganddynt ganser, canran llawer is na'r targed
perfformiad llwybr canser tybiedig o 75 y cant. d)
hyd yn oed cyn y pandemig, fod Cymru'n profi bylchau sylweddol yn y gweithlu
sy'n rhoi diagnosis o ganser ac yn ei drin, er enghraifft ym maes delweddu,
endosgopi, patholeg, oncoleg nad yw'n lawfeddygol a nyrsys arbenigol. e)
heb fuddsoddiad aml-flwyddyn mewn hyfforddiant a chyflogi mwy o staff i lenwi
swyddi gwag cyfredol, na fydd gan Gymru'r staff rheng flaen a'r arbenigwyr sydd
eu hangen i fynd i'r afael â'r ôl-groniad canser, ymdopi â'r galw yn y dyfodol,
neu wneud cynnydd tuag at uchelgeisiau i roi diagnosis a thrin mwy o ganserau
yn gynnar. f)
bod Cynghrair Canser Cymru wedi beirniadu'r datganiad ansawdd ar gyfer canser,
a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2021, am beidio â darparu gweledigaeth glir i
gefnogi gwasanaethau canser i adfer o effaith y pandemig a gwella
cyfraddau goroesi ymhellach. g)
mai Cymru fydd yr unig genedl yn y DU heb strategaeth ganser cyn bo hir, y mae
Sefydliad Iechyd y Byd yn argymell bod un gan bob gwlad. 3.
Yn croesawu'r cynlluniau peilot clinig diagnostig cyflym llwyddiannus ym Mwrdd
Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, a bod
Rhwydwaith Canser Cymru wedi darparu cyllid i bob bwrdd iechyd arall i
ddatblygu clinigau diagnostig cyflym. 4.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a)
rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau nesaf ar gyfer y datganiad ansawdd ar
gyfer canser, gan gynnwys targedau a mecanweithiau uchelgeisiol ar gyfer
olrhain buddsoddiad cynnydd ar gyfer staff, offer a seilwaith; b)
mynd i'r afael â phrinder staff hirsefydlog o fewn gwasanaethau canser a
diagnostig; c)
ystyried sut y gellid cymhwyso'r argymhellion yn adolygiad yr Athro Syr Mike
Richards o wasanaethau diagnostig yn Lloegr yng Nghymru. Cefnogwyr: Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig – Busnesau bach NDM7854
Darren Millar
(Gorllewin Clwyd) Cynnig
bod y Senedd: 1.
Yn cydnabod dydd Sadwrn busnesau bach sy'n hyrwyddo busnesau bach Cymru. 2.
Yn credu mai busnesau bach yw calonnau'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu
a'u bod yn rhan hanfodol o economi Cymru. 3.
Yn annog cymunedau i siopa'n lleol i gefnogi busnesau bach i dyfu a ffynnu, gan
greu swyddi i bobl leol. 4.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i gefnogi busnesau bach drwy newidiadau
mewn polisi caffael ar draws y sector cyhoeddus, gan eu helpu i wella o
bandemig COVID-19. Cyflwynwyd
y gwelliant a ganlyn: Gwelliant
1. Siân
Gwenllian (Arfon) Ym
mhwynt 4, ar ôl 'cyhoeddus' ychwanegu, 'sy'n seiliedig ar egwyddor lleol yn
gyntaf, a fydd yn cynyddu’r lefel caffael yn y sector cyhoeddus yng Nghymru o'r
lefel bresennol o 52 y cant' Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.38 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliant o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7854 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod dydd Sadwrn busnesau bach sy'n hyrwyddo busnesau bach
Cymru. 2. Yn credu mai busnesau bach yw calonnau'r cymunedau y maent yn eu
gwasanaethu a'u bod yn rhan hanfodol o economi Cymru. 3. Yn annog cymunedau i siopa'n lleol i gefnogi busnesau bach i dyfu a
ffynnu, gan greu swyddi i bobl leol. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i gefnogi busnesau bach drwy
newidiadau mewn polisi caffael ar draws y sector cyhoeddus, gan eu helpu i
wella o bandemig COVID-19.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Siân Gwenllian (Arfon) Ym mhwynt 4, ar ôl
'cyhoeddus' ychwanegu, 'sy'n seiliedig ar egwyddor lleol yn gyntaf, a fydd yn
cynyddu’r lefel caffael yn y sector cyhoeddus yng Nghymru o'r lefel bresennol o
52 y cant' Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM7854 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod dydd Sadwrn busnesau bach sy'n hyrwyddo busnesau bach
Cymru. 2. Yn credu mai busnesau bach yw calonnau'r cymunedau y maent yn eu
gwasanaethu a'u bod yn rhan hanfodol o economi Cymru. 3. Yn annog cymunedau i siopa'n lleol i gefnogi busnesau bach i dyfu a
ffynnu, gan greu swyddi i bobl leol. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i gefnogi busnesau bach drwy
newidiadau mewn polisi caffael ar draws y sector cyhoeddus, sy'n seiliedig ar egwyddor
lleol yn gyntaf, a fydd yn cynyddu’r lefel caffael yn y sector cyhoeddus yng
Nghymru o'r lefel bresennol o 52 y cant, gan eu helpu i wella o bandemig
COVID-19.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig – Clefyd niwronau motor NDM7855
Darren Millar
(Gorllewin Clwyd) Cynnig
bod y Senedd: 1.
Yn cydnabod bod clefyd niwronau motor yn glefyd sy'n datblygu'n gyflym nad
oes gwellhad ar ei gyfer a bod traean o bobl yn marw o fewn blwyddyn o
gael diagnosis. 2.
Yn croesawu buddsoddiad Llywodraeth y DU o £50 miliwn i ariannu ymchwil i
driniaethau newydd ar gyfer clefyd niwronau motor. 3.
Yn cydnabod bod mynediad teg a chyflymach at addasiadau tai yn hanfodol er mwyn
sicrhau bod pobl sy'n byw gyda chlefyd niwronau motor yn gallu byw'n
ddiogel, yn annibynnol ac ag urddas yn eu cartrefi eu hunain. 4.
Yn credu bod effaith yr oedi wrth osod addasiadau tai a'r broses profi modd yn
cael effaith enfawr ar yr amser sydd ar ôl gan y pobl sy'n byw gyda chlefyd
niwronau motor. 5.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i symleiddio mynediad at addasiadau tai drwy greu
proses nad yw'n seiliedig ar brawf modd. Cyflwynwyd
y gwelliant a ganlyn: Gwelliant
1. Siân
Gwenllian (Arfon) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i edrych ar sefydlu canolfannau arbenigedd yng Nghymru
ar gyfer clefydau niwrolegol i wella graddfa ac ansawdd treialon clinigol a
chynyddu mynediad cleifion at driniaethau newydd. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.08 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr
eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7855 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod bod clefyd
niwronau motor yn glefyd sy'n datblygu'n gyflym nad oes gwellhad ar ei
gyfer a bod traean o bobl yn marw o fewn blwyddyn o gael diagnosis. 2. Yn croesawu buddsoddiad
Llywodraeth y DU o £50 miliwn i ariannu ymchwil i driniaethau newydd ar gyfer
clefyd niwronau motor. 3. Yn cydnabod bod mynediad teg
a chyflymach at addasiadau tai yn hanfodol er mwyn sicrhau bod pobl sy'n byw
gyda chlefyd niwronau motor yn gallu byw'n ddiogel, yn annibynnol ac ag
urddas yn eu cartrefi eu hunain. 4. Yn credu bod effaith yr oedi
wrth osod addasiadau tai a'r broses profi modd yn cael effaith enfawr ar yr
amser sydd ar ôl gan y pobl sy'n byw gyda chlefyd niwronau motor. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i symleiddio mynediad at addasiadau tai drwy greu proses nad yw'n seiliedig ar
brawf modd.
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru – Dyled aelwydydd NDM7856
Siân Gwenllian
(Arfon) Cynnig
bod y Senedd: 1.
Yn nodi adroddiad Sefydliad Bevan ar effaith COVID-19 ar ddyled aelwydydd. 2.
Yn nodi prisiau cynyddol biliau cyfleustodau. 3.
Yn nodi datganiad ysgrifenedig Llywodraeth Cymru ar gymorth ar gyfer y cynllun
cymorth tanwydd gaeaf a chostau byw aelwydydd. 4.
Yn galw ar Lywodraeth y DU i ddiwygio'r cynllun rhyddhad treth tanwydd gwledig
a chynyddu'r dreth ar danwydd mewn ardaloedd sydd wedi cael buddsoddiad
cyhoeddus uwch na chyfartaledd y DU mewn seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus. 5.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a)
weithio gydag awdurdodau lleol i glirio rhai o'r ôl-ddyledion treth gyngor
sylweddol sydd wedi'u cronni yn ystod y pandemig; b)
gweithio gyda Llywodraeth y DU i sefydlu llinell sylfaen gyson o gymorth gan
gyflenwyr ynni ar gyfer cwsmeriaid sydd â dyledion; c)
archwilio'r posibilrwydd o ddeddfwriaeth a fyddai'n gosod dyletswydd ar bob
corff cyhoeddus, gan gynnwys ysgolion a cholegau, i atal dyled. Debt
in the pandemic - Sefydliad Bevan (Saesneg yn unig) Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1. Darren Millar
(Gorllewin Clwyd) Dileu
pwynt 4. Gwelliant
2. Darren Millar
(Gorllewin Clwyd) Dileu
5(c) a rhoi yn ei le: gweithio
gyda chyrff cyhoeddus, gan gynnwys ysgolion a cholegau, i archwilio mesurau i
atal dyled problemus. Gwelliant
3. Darren Millar
(Gorllewin Clwyd) Ychwanegu
is-bwyntiau newydd ar ddiwedd pwynt 5: creu
a chyhoeddi cynllun tywydd oer; ehangu'r
cymorth ariannol sydd ar gael i gynorthwyo'r rhai sy'n ei chael hi'n anodd talu
biliau ynni cynyddol; buddsoddi
mewn effeithlonrwydd ynni cartref, gan flaenoriaethu'r aelwydydd tlotaf yn y
cartrefi lleiaf effeithlon; cynhyrchu
amcangyfrifon rheolaidd o nifer yr aelwydydd sy'n dlawd o ran tanwydd yng
Nghymru. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.34 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7856 Siân
Gwenllian (Arfon) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi adroddiad Sefydliad
Bevan ar effaith COVID-19 ar ddyled aelwydydd. 2. Yn nodi prisiau cynyddol
biliau cyfleustodau. 3. Yn nodi datganiad
ysgrifenedig Llywodraeth Cymru ar gymorth ar gyfer y cynllun cymorth tanwydd
gaeaf a chostau byw aelwydydd. 4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i
ddiwygio'r cynllun rhyddhad treth tanwydd gwledig a chynyddu'r dreth ar danwydd
mewn ardaloedd sydd wedi cael buddsoddiad cyhoeddus uwch na chyfartaledd y DU
mewn seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i: a) weithio gydag awdurdodau
lleol i glirio rhai o'r ôl-ddyledion treth gyngor sylweddol sydd wedi'u cronni
yn ystod y pandemig; b) gweithio gyda Llywodraeth y
DU i sefydlu llinell sylfaen gyson o gymorth gan gyflenwyr ynni ar gyfer
cwsmeriaid sydd â dyledion; c) archwilio'r posibilrwydd o
ddeddfwriaeth a fyddai'n gosod dyletswydd ar bob corff cyhoeddus, gan gynnwys
ysgolion a cholegau, i atal dyled. Debt in
the pandemic - Sefydliad Bevan (Saesneg yn unig)
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 18.21 cafodd y trafodion eu hatal
dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio. |
|||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.27 |
||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM7853
Rhianon Passmore
(Islwyn) Creu
Cymru gerddorol ar gyfer yr 21ain ganrif: mynediad, llesiant a chyfle Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.33 NDM7853 Rhianon
Passmore (Islwyn) Creu
Cymru gerddorol ar gyfer yr 21ain ganrif: mynediad, llesiant a chyfle |
|||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |