Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 25(v4)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 13/10/2021 - Y Cyfarfod Llawn
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar
ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy
gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.17 Gofynnwyd cwestiynau 1–2 a 4–10. Ni ofynnwyd cwestiwn 3.
Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl
cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(0 munud) |
Cwestiynau Amserol Ni dderbyniwyd
unrhyw Gwestiynau Amserol Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.02 Gwnaeth Huw Irranca-Davies ddatganiad am: Lansiad 'Pecyn
Teithio Llesol i'r Ysgol' y Grŵp Trawsbleidiol ar Deithio Llesol. Gwnaeth Cefin Campbell ddatganiad am: Llongyfarch y chwaraewr
dartiau o Gymru, Jonny Clayton, a lwyddodd i ennill pencampwriaeth y ‘World
Grand Prix’ ar y penwythnos. Gwnaeth Altaf Hussain ddatganiad am: Cefnogi Diwrnod
Arthritis y Byd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig i ethol Aelod i bwyllgor Dechreuodd yr eitem am 15.08 NDM7804 Elin Jones
(Ceredigion) Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol
Alun Davies (Llafur Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r
Cyfansoddiad yn lle Jayne Bryant (Llafur Cymru) Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Yn unol â Rheol Sefydlog
12.18, am 15.08 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Llywydd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Manteision cymunedol prosiectau ynni NDM7794 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi pwysigrwydd ynni adnewyddadwy
wrth geisio lleihau ein hôl-troed carbon. 2. Yn cytuno bod angen sicrhau fod pob
datblygiad ynni yn dod a budd i’r cymunedau lle’u lleolir. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru, unai drwy
reoliadau neu ddeddfwriaeth newydd, i fynnu bod datblygwyr prosiectau ynni yn
gorfod profi budd cymunedol eu datblygiadau arfaethedig drwy orfod cynnal
asesiad effaith cymunedol a chyflwyno cynllun budd cymunedol fel rhan o’r
broses gynllunio. Cyd-gyflwynwyr Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.19 NDM7794 Rhun ap
Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi pwysigrwydd ynni adnewyddadwy wrth geisio
lleihau ein hôl-troed carbon. 2. Yn cytuno bod angen sicrhau fod pob datblygiad
ynni yn dod a budd i’r cymunedau lle’u lleolir. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru, unai drwy reoliadau neu
ddeddfwriaeth newydd, i fynnu bod datblygwyr prosiectau ynni yn gorfod profi
budd cymunedol eu datblygiadau arfaethedig drwy orfod cynnal asesiad effaith
cymunedol a chyflwyno cynllun budd cymunedol fel rhan o’r broses gynllunio.
Cyd-gyflwynwyr Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru - Y sector ynni a'r argyfyngau hinsawdd a natur NDM7803 Sian Gwenllian (Arfon) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi: a) datganiad y Senedd
o argyfwng hinsawdd yn 2019, ac argyfwng natur yn 2021; b) y bydd 26ain Cynhadledd
Partïon y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd (COP26) yn cyfarfod yr Hydref
hwn i gytuno ar gamau gweithredu cydgysylltiedig i
fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd; c) y bydd 15fed
cyfarfod Cynhadledd y Partïon (COP15) i'r Confensiwn ar Amrywiaeth Biolegol
(CBD) yn cyfarfod y gwanwyn nesaf i gytuno ar fframwaith bioamrywiaeth
byd-eang; d) targed Llywodraeth
Cymru i gyrraedd allyriadau carbon sero-net erbyn 2050; e) cred y Senedd y
dylid sicrhau cydraddoldeb rhwng y camau a gymerir i fynd i'r afael â'r
argyfwng hinsawdd a'r rhai a gymerir i fynd i'r afael â'r argyfwng natur
(NDM7725); f) bod y Senedd
wedi pasio NDM7725 yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno gofyniad sy'n
rhwymo mewn cyfraith i wrthdroi colli bioamrywiaeth drwy dargedau statudol. 2. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i: a) geisio datganoli
rheolaeth Ystad y Goron a'i hasedau yng Nghymru yn
llawn i Lywodraeth Cymru; b) ceisio datganoli
pwerau ynni yn llawn; c) gwneud y mwyaf o
botensial Cymru ar gyfer datblygu ynni adnewyddadwy drwy sefydlu cwmni datblygu
ynni a gefnogir gan y wladwriaeth; d) datblygu gweithlu
sero-net yng Nghymru drwy hwyluso ymdrechion traws-sector i uwchsgilio
gweithwyr yn y sector ynni; e) hwyluso'r gwaith o
ehangu'r pŵer adnewyddadwy sy'n angenrheidiol i gwrdd â sero-net drwy
fuddsoddi'n helaeth mewn uwchraddio grid trydan Cymru; f) datblygu a
gweithredu strategaeth ar gyfer porthladdoedd Cymru, a cheisio cyllid pellach
gan Lywodraeth y DU ar gyfer seilwaith porthladdoedd yng Nghymru i gefnogi'r
sector gwynt ar y môr sy'n datblygu; g) datblygu a
gweithredu cynllun datblygu morol i roi sicrwydd i ddatblygwyr ynni drwy arwain
y gwaith o nodi datblygiadau adnewyddadwy i ffwrdd o'r ardaloedd mwyaf sensitif
o safbwynt ecolegol. NDM7725 - Dadl gan Wrthblaid ar
30 Mehefin 2021 Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Dileu pwynt 2 a rhoi
yn ei le: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i: a) weithio gyda
Llywodraeth y DU i gyflawni prosiectau ynni mawr i Gymru; b) croesawu'r ffaith
bod Llywodraeth y DU wedi ymrwymo £90 miliwn i brosiectau sero-net arloesol yng
Nghymru; c) adeiladu ar y
ffaith bod diwydiant a Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i fuddsoddi dros £40
miliwn i gefnogi'r clwstwr o ddiwydiannau yn ne Cymru i bontio i sero net; d) cydnabod bod
Llywodraeth y DU wedi darparu £4.8 miliwn, yn amodol ar achos busnes a
chymeradwyaethau eraill, i gefnogi datblygiad hwb hydrogen Caergybi; e) yn croesawu Cronfa
Bwyd Môr y DU, sydd werth £100 miliwn, a gynlluniwyd i lefelu cymunedau
arfordirol ledled y DU, a gweithio i weithredu yn hytrach nag oedi cyn creu
porthladd rhydd yng Nghymru; f) gwneud y mwyaf o'r
potensial ar gyfer datblygu ynni adnewyddadwy drwy sefydlu pecyn o gymorth ar
gyfer buddsoddiad preifat mewn cynlluniau ynni adnewyddadwy; g) hwyluso
goruchafiaeth gynyddol ynni adnewyddadwy drwy roi mwy o frys ar sicrhau y gall
seilwaith ddarparu ar gyfer galw; h) datblygu a
gweithredu cynllun datblygu morol; i) creu 15,000 o
swyddi glas/gwyrdd newydd. [Os derbynnir
gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol] Gwelliant 2 Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu pwynt 2
a rhoi yn ei le: Cadarnhau ei ymrwymiad
i'r egwyddorion sydd wedi'u hymgorffori yn Natganiad Silesia
i gefnogi gweithwyr drwy drosglwyddo i net zero yn
unig. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i: a) chwarae ei ran i
alluogi trawsnewid ein system ynni i gadw manteision economaidd a chymdeithasol
o gynhyrchu ynni adnewyddadwy yng nghymunedau Cymru. b) cynyddu capasiti cynhyrchu ynni sy'n eiddo i gyrff cyhoeddus a
grwpiau cymunedol. c) cefnogi
porthladdoedd Cymru i sicrhau eu bod yn gallu buddsoddi i sicrhau'r manteision
lleol mwyaf posibl o ddatblygu cynhyrchu ynni morol.d)
diogelu bioamrywiaeth morol tra'n hwyluso'r defnydd o dechnoleg ynni morol, gan
gynnwys drwy ddarparu canllawiau ar gyfer deall y lleoliadau mwyaf addas. Yn galw ar arweinwyr
byd-eang i ddefnyddio 26ain Cynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig y
Pleidiau i ymrwymo i roi terfyn ar y defnydd o lo wrth gynhyrchu ynni. Datganiad
Silesia (Saesneg yn unig) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.08 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7803 Sian Gwenllian (Arfon) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi: a) datganiad y Senedd o
argyfwng hinsawdd yn 2019, ac argyfwng natur yn 2021; b) y bydd 26ain Cynhadledd
Partïon y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd (COP26) yn cyfarfod yr Hydref
hwn i gytuno ar gamau gweithredu cydgysylltiedig i fynd i'r afael â newid yn yr
hinsawdd; c) y bydd 15fed cyfarfod
Cynhadledd y Partïon (COP15) i'r Confensiwn ar Amrywiaeth Biolegol (CBD) yn
cyfarfod y gwanwyn nesaf i gytuno ar fframwaith bioamrywiaeth byd-eang; d) targed Llywodraeth Cymru i
gyrraedd allyriadau carbon sero-net erbyn 2050; e) cred y Senedd y dylid
sicrhau cydraddoldeb rhwng y camau a gymerir i fynd i'r afael â'r argyfwng
hinsawdd a'r rhai a gymerir i fynd i'r afael â'r argyfwng natur (NDM7725); f) bod y Senedd wedi pasio
NDM7725 yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno gofyniad sy'n rhwymo mewn
cyfraith i wrthdroi colli bioamrywiaeth drwy dargedau statudol. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i: a) geisio datganoli rheolaeth
Ystad y Goron a'i hasedau yng Nghymru yn llawn i Lywodraeth Cymru; b) ceisio datganoli pwerau ynni
yn llawn; c) gwneud y mwyaf o botensial
Cymru ar gyfer datblygu ynni adnewyddadwy drwy sefydlu cwmni datblygu ynni a
gefnogir gan y wladwriaeth; d) datblygu gweithlu sero-net
yng Nghymru drwy hwyluso ymdrechion traws-sector i uwchsgilio gweithwyr yn y
sector ynni; e) hwyluso'r gwaith o ehangu'r
pŵer adnewyddadwy sy'n angenrheidiol i gwrdd â sero-net drwy fuddsoddi'n
helaeth mewn uwchraddio grid trydan Cymru; f) datblygu a gweithredu
strategaeth ar gyfer porthladdoedd Cymru, a cheisio cyllid pellach gan
Lywodraeth y DU ar gyfer seilwaith porthladdoedd yng Nghymru i gefnogi'r sector
gwynt ar y môr sy'n datblygu; g) datblygu a gweithredu
cynllun datblygu morol i roi sicrwydd i ddatblygwyr ynni drwy arwain y gwaith o
nodi datblygiadau adnewyddadwy i ffwrdd o'r ardaloedd mwyaf sensitif o safbwynt
ecolegol. NDM7725 - Dadl gan Wrthblaid ar 30 Mehefin
2021
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) weithio gyda Llywodraeth y DU i gyflawni prosiectau
ynni mawr i Gymru; b) croesawu'r ffaith bod Llywodraeth y DU wedi ymrwymo
£90 miliwn i brosiectau sero-net arloesol yng Nghymru; c) adeiladu ar y ffaith bod diwydiant a Llywodraeth y DU
wedi ymrwymo i fuddsoddi dros £40 miliwn i gefnogi'r clwstwr o ddiwydiannau yn
ne Cymru i bontio i sero net; d) cydnabod bod Llywodraeth y DU wedi darparu £4.8
miliwn, yn amodol ar achos busnes a chymeradwyaethau eraill, i gefnogi
datblygiad hwb hydrogen Caergybi; e) yn croesawu Cronfa Bwyd Môr y DU, sydd werth £100
miliwn, a gynlluniwyd i lefelu cymunedau arfordirol ledled y DU, a gweithio i
weithredu yn hytrach nag oedi cyn creu porthladd rhydd yng Nghymru; f) gwneud y mwyaf o'r potensial ar gyfer datblygu ynni
adnewyddadwy drwy sefydlu pecyn o gymorth ar gyfer buddsoddiad preifat mewn
cynlluniau ynni adnewyddadwy; g) hwyluso goruchafiaeth gynyddol ynni adnewyddadwy drwy
roi mwy o frys ar sicrhau y gall seilwaith ddarparu ar gyfer galw; h) datblygu a gweithredu cynllun datblygu morol; i) creu 15,000 o swyddi glas/gwyrdd newydd. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le: Yn cadarnhau ei hymrwymiad i'r egwyddorion sydd wedi'u
hymgorffori yn Natganiad Silesia i gefnogi gweithwyr drwy drosglwyddo
teg i net sero. Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i: a)
chwarae ei rhan i alluogi trawsnewid ein system ynni i gadw manteision
economaidd a chymdeithasol o gynhyrchu ynni adnewyddadwy yng nghymunedau Cymru. b)
cynyddu capasiti cynhyrchu ynni sy'n eiddo i gyrff cyhoeddus a
grwpiau cymunedol. c)
cefnogi porthladdoedd Cymru i sicrhau eu bod yn gallu buddsoddi i sicrhau'r
manteision lleol mwyaf posibl o ddatblygu cynhyrchu ynni morol. d)
diogelu bioamrywiaeth morol tra'n hwyluso'r defnydd o dechnoleg ynni morol, gan
gynnwys drwy ddarparu canllawiau ar gyfer deall y lleoliadau mwyaf addas. Yn galw
ar arweinwyr byd-eang i ddefnyddio 26ain
Cynhadledd Partïon y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd i ymrwymo i
roi terfyn ar y defnydd o lo wrth gynhyrchu ynni. Datganiad Silesia (Saesneg yn unig) Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi: a) datganiad y Senedd o
argyfwng hinsawdd yn 2019, ac argyfwng natur yn 2021; b) y bydd 26ain Cynhadledd Partïon
y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd (COP26) yn cyfarfod yr Hydref hwn i
gytuno ar gamau gweithredu cydgysylltiedig i fynd i'r afael â newid yn yr
hinsawdd; c) y bydd 15fed cyfarfod
Cynhadledd y Partïon (COP15) i'r Confensiwn ar Amrywiaeth Biolegol (CBD) yn
cyfarfod y gwanwyn nesaf i gytuno ar fframwaith bioamrywiaeth byd-eang; d) targed Llywodraeth Cymru i
gyrraedd allyriadau carbon sero-net erbyn 2050; e) cred y Senedd y dylid
sicrhau cydraddoldeb rhwng y camau a gymerir i fynd i'r afael â'r argyfwng
hinsawdd a'r rhai a gymerir i fynd i'r afael â'r argyfwng natur (NDM7725); f) bod y Senedd wedi pasio
NDM7725 yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno gofyniad sy'n rhwymo mewn
cyfraith i wrthdroi colli bioamrywiaeth drwy dargedau statudol. 2. Yn cadarnhau ei hymrwymiad
i'r egwyddorion sydd wedi'u hymgorffori yn Natganiad Silesia i
gefnogi gweithwyr drwy drosglwyddo teg i net sero. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i: a) chwarae ei rhan i alluogi
trawsnewid ein system ynni i gadw manteision economaidd a chymdeithasol o
gynhyrchu ynni adnewyddadwy yng nghymunedau Cymru. b)
cynyddu capasiti cynhyrchu ynni sy'n eiddo i gyrff cyhoeddus a
grwpiau cymunedol. c) cefnogi porthladdoedd Cymru
i sicrhau eu bod yn gallu buddsoddi i sicrhau'r manteision lleol mwyaf posibl o
ddatblygu cynhyrchu ynni morol. d) diogelu bioamrywiaeth morol
tra'n hwyluso'r defnydd o dechnoleg ynni morol, gan gynnwys drwy ddarparu
canllawiau ar gyfer deall y lleoliadau mwyaf addas. 4. Yn galw ar arweinwyr
byd-eang i ddefnyddio 26ain Cynhadledd Partïon y Cenhedloedd Unedig ar Newid
Hinsawdd i ymrwymo i roi terfyn ar y defnydd o lo wrth gynhyrchu ynni. NDM7725 - Dadl gan Wrthblaid ar 30 Mehefin
2021 Datganiad Silesia (Saesneg yn unig)
Derbyniwyd y cynnig
fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Yn
unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 17.03 cafodd y trafodion eu hatal dros dro i
ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio. Dechreuodd
yr eitem am 17.13 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.16 NDM7795 Alun
Davies (Blaenau Gwent) Cyflawni'r
weledigaeth: codi'r gwastad yn y cymoedd |