Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 17(v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 15/09/2021 - Y Cyfarfod Llawn
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai
Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.19 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 1 a 9 eu grwpio i’w hateb gyda’i
gilydd. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r
Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Ni dderbyniwyd
unrhyw Gwestiynau Amserol. Cofnodion: Ni
dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.10 Gwnaeth
Samuel Kurtz ddatganiad am: Diwrnod Cefnogi Ffermio Prydain (15 Medi). Gwnaeth
Jack Sargeant ddatganiad am: Diwrnod Atal Hunanladdiad y Byd (10 Medi). Gwnaeth
Heledd Fychan ddatganiad am: 40 mlwyddiant CND Cymru (Medi 1981). Gwnaeth
Sioned Williams ddatganiad am: 10 mlynedd ers trychineb gwaith glo Gleision
(Medi 2011) Yn unol â Rheol Sefydlog
12.18, am 15.17 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Llywydd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Mynediad at ddiffibrilwyr NDM7771 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd) Cynnig
bod y Senedd: 1.
Yn nodi mai dim ond 1 o bob 10 o bobl sy'n goroesi ataliad ar y galon y tu
allan i'r ysbyty. 2.
Yn nodi ymhellach bod pob munud nad oes gan glaf fynediad at ddiffibriliwr neu
adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR) yn golygu bod eu siawns o oroesi yn gostwng 10
y cant. 3.
Yn cydnabod y bydd rhwydwaith o ddiffibrilwyr yn achub bywydau. 4.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cyllid grant neu fenthyciadau i alluogi
neuaddau cymunedol, meysydd chwaraeon a siopau annibynnol i brynu a gosod
diffibriliwr. Cyflwynwyd y gwelliant canlynol: Gwelliant 1 Lesley Griffiths
(Wrecsam) Dileu
pwynt 4 a rhoi pwyntiau newydd yn ei le: 4. Yn cydnabod y cyllid gwerth £2.5 miliwn a
ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Achub Bywydau Cymru i wella
ymwybyddiaeth a mynediad at CPR a diffibrilwyr. 5.
Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i ychwanegu £500,000 eleni at y
cymorth hwn i gynyddu ymhellach nifer y diffibrilwyr mewn lleoliadau cymunedol
ledled Cymru. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.32 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: DM7771 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi mai dim ond 1 o bob
10 o bobl sy'n goroesi ataliad ar y galon y tu allan i'r ysbyty. 2. Yn nodi ymhellach bod pob
munud nad oes gan glaf fynediad i ddiffibriliwr neu adfywio cardio-pwlmonaidd
(CPR) yn golygu bod eu siawns o oroesi yn gostwng 10 y cant. 3. Yn cydnabod y bydd
rhwydwaith o ddiffibrilwyr yn achub bywydau. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i ddarparu cyllid grant neu fenthyciadau i alluogi neuaddau cymunedol, meysydd
chwaraeon a siopau annibynnol i brynu a gosod diffibriliwr.
Fel sy’n ofynnol o
dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais
fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig. Felly, gwrthodwyd y cynnig. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley
Griffiths (Wrecsam) Dileu pwynt 4 a rhoi pwyntiau newydd yn ei le: 4. Yn cydnabod y
cyllid gwerth £2.5 miliwn a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Achub
Bywydau Cymru i wella ymwybyddiaeth a mynediad at CPR a diffibrilwyr. 5. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i ychwanegu
£500,000 eleni at y cymorth hwn i gynyddu ymhellach nifer y diffibrilwyr mewn
lleoliadau cymunedol ledled Cymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant
1. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: DM7771 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi mai dim ond 1 o bob 10
o bobl sy'n goroesi ataliad ar y galon y tu allan i'r ysbyty. 2. Yn nodi ymhellach bod pob
munud nad oes gan glaf fynediad i ddiffibriliwr neu adfywio cardio-pwlmonaidd
(CPR) yn golygu bod eu siawns o oroesi yn gostwng 10 y cant. 3. Yn cydnabod y bydd rhwydwaith
o ddiffibrilwyr yn achub bywydau. 4. Yn cydnabod y
cyllid gwerth £2.5 miliwn a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Achub
Bywydau Cymru i wella ymwybyddiaeth a mynediad at CPR a diffibrilwyr. 5. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i ychwanegu
£500,000 eleni at y cymorth hwn i gynyddu ymhellach nifer y diffibrilwyr mewn
lleoliadau cymunedol ledled Cymru.
Derbyniwyd y cynnig
fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru - Credyd Cynhwysol NDM7772 Sian Gwenllian
(Arfon) Cynnig
bod y Senedd: 1.
Yn condemnio cynnig Llywodraeth y DU i gael gwared ar y cynnydd o £20 mewn
credyd cynhwysol sydd wedi bod yn llinell gymorth hanfodol i deuluoedd yng
Nghymru yn ystod cyfnod y pandemig. 2. Yn
cydnabod y bydd y toriad i gredyd cynhwysol yn effeithio ar gyfran uwch o deuluoedd
yng Nghymru na chyfartaledd Prydain yn ôl Sefydliad Bevan. 3. Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i: a)
ymlid datganoli lles gyda’r bwriad o fynd i'r afael â thlodi yng Nghymru. b)
cyhoeddi cynllun cadarn ac ystyrlon i fynd i'r afael â thlodi, sy'n cynnwys targedau
perfformiad clir a dangosyddion i fesur cynnydd. c)
cynnal hyblygrwydd y gronfa cymorth dewisol i leddfu effaith gostyngiad credyd
cynhwysol ar bobl yng Nghymru. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Dileu
pwynt 1 a rhoi yn ei le: Yn
croesawu penderfyniad Llywodraeth y DU i ddarparu £20 yr wythnos yn ychwanegol
mewn credyd cynhwysol i gefnogi'r rhai ar incwm isel yn ystod pandemig y coronafeirws ac yn cydnabod bod y mesur dros dro hwn eisoes
wedi'i ymestyn o 12 i 18 mis. Gwelliant 2 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Dileu
pwynt 2 a rhoi yn ei le: Yn
gresynu at y ffaith bod lefelau tlodi yng Nghymru yn uwch nag mewn rhannau
eraill o'r DU oherwydd methiant Llywodraethau olynol Cymru. Gwelliant 3 Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu
pwynt 3 a rhoi yn ei le: 3.
Yn nodi’r gwaith gwneud y gorau o incwm sydd wedi’i wneud gan Lywodraeth Cymru
i gefnogi teuluoedd ar incwm isel 4.
Yn annog Llywodraeth Cymru i: a)
barhau i archwilio’r achos dros ddatganoli gweinyddiaeth lles; a b)
cynnal hyblygrwydd presennol y gronfa cymorth dewisol i leddfu effaith unrhyw
ostyngiad credyd cynhwysol a diwedd y cynllun ffyrlo
ar bobl yng Nghymru. [Os derbynnir gwelliant 3, caiff gwelliannau 4 a
5 eu dad-ddethol] Gwelliant 4 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Dileu
is-bwynt 3(a) a rhoi yn ei le: a.
gweithio gyda Llywodraeth y DU i fynd i'r afael â thlodi yng Nghymru, drwy
fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd a gyflwynir gan gyfleoedd ariannu a
bargeinion twf rhanbarthol ledled Cymru;
Gwelliant 5 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Dileu
popeth ar ôl 'dewisol' yn is-bwynt 3(c). Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.23 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7772 Sian
Gwenllian (Arfon) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn condemnio cynnig
Llywodraeth y DU i gael gwared ar y cynnydd o £20 mewn credyd cynhwysol sydd
wedi bod yn llinell gymorth hanfodol i deuluoedd yng Nghymru yn ystod cyfnod y
pandemig. 2. Yn cydnabod y bydd y
toriad i gredyd cynhwysol yn effeithio ar gyfran uwch o deuluoedd yng Nghymru
na chyfartaledd Prydain yn ôl Sefydliad Bevan. 3. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i: a) ymlid datganoli lles gyda’r
bwriad o fynd i'r afael â thlodi yng Nghymru. b) cyhoeddi cynllun cadarn ac
ystyrlon i fynd i'r afael â thlodi, sy'n cynnwys targedau perfformiad clir a
dangosyddion i fesur cynnydd. c) cynnal hyblygrwydd y gronfa
cymorth dewisol i leddfu effaith gostyngiad credyd cynhwysol ar bobl yng
Nghymru.
Gwrthodwyd y cynnig
heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le: Yn croesawu penderfyniad Llywodraeth y DU i ddarparu £20
yr wythnos yn ychwanegol mewn credyd cynhwysol i gefnogi'r rhai ar incwm isel
yn ystod pandemig y coronafeirws ac yn cydnabod bod y mesur dros dro hwn eisoes
wedi'i ymestyn o 12 i 18 mis. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant
1. Gwelliant 2 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le: Yn gresynu at y ffaith bod lefelau tlodi yng Nghymru yn
uwch nag mewn rhannau eraill o'r DU oherwydd methiant Llywodraethau olynol
Cymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Gwrthodwyd gwelliant
2. Gwelliant 3 Lesley
Griffiths (Wrecsam) Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le: 3. Yn nodi’r gwaith gwneud y gorau o incwm sydd wedi’i
wneud gan Lywodraeth Cymru i gefnogi teuluoedd ar incwm isel 4. Yn annog Llywodraeth Cymru i: a) barhau i archwilio’r achos dros ddatganoli
gweinyddiaeth lles; a b) cynnal hyblygrwydd presennol y gronfa cymorth dewisol
i leddfu effaith unrhyw ostyngiad credyd cynhwysol a diwedd y cynllun ffyrlo ar
bobl yng Nghymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd gwelliant
3. Gan fod gwelliant 3 wedi ei dderbyn, cafodd gwelliannau 4
a 5 eu dad-ddethol Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM7772 Sian
Gwenllian (Arfon) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn condemnio cynnig
Llywodraeth y DU i gael gwared ar y cynnydd o £20 mewn credyd cynhwysol sydd
wedi bod yn llinell gymorth hanfodol i deuluoedd yng Nghymru yn ystod cyfnod y
pandemig. 2. Yn cydnabod y bydd y
toriad i gredyd cynhwysol yn effeithio ar gyfran uwch o deuluoedd yng Nghymru
na chyfartaledd Prydain yn ôl Sefydliad Bevan. 3. Yn nodi’r gwaith gwneud y
gorau o incwm sydd wedi’i wneud gan Lywodraeth Cymru i gefnogi teuluoedd ar
incwm isel 4. Yn annog Llywodraeth Cymru
i: a) barhau i archwilio’r achos dros
ddatganoli gweinyddiaeth lles; a b) cynnal hyblygrwydd presennol
y gronfa cymorth dewisol i leddfu effaith unrhyw ostyngiad credyd cynhwysol a
diwedd y cynllun ffyrlo ar bobl yng Nghymru.
Derbyniwyd y cynnig
fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18,
am 17.23 cafodd y trafodion eu hatal dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y
Cyfnod Pleidleisio. Dechreuodd yr eitem am 17.31 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM7770 Paul Davies (Preseli
Sir Benfro) Byddwn
yn eu cofio: pam y mae'n rhaid inni warchod cofebion rhyfel Cymru Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.41 NDM7770
Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Byddwn
yn eu cofio: pam y mae'n rhaid inni warchod cofebion rhyfel Cymru |